Yr ASB yn sicrhau atafaeliad gwerth dros £30,000 ar ôl i ‘smokies’ gael eu gwerthu’n anghyfreithlon
Mae Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi llwyddo i sicrhau gorchymyn atafaelu gwerth dros £30,000 am roi bwyd anniogel ar y farchnad yn Lloegr.
Cynhaliwyd gwrandawiad atafaelu, yn unol â’r Ddeddf Elw Troseddau, yn Llys y Goron yn Isleworth fis diwethaf, lle gorchmynnwyd i Ian Thomas, 46, o Heol Gorseinon, Penllergaer, Abertawe, dalu £31,250.51 am ei ran wrth fynd ati’n anghyfreithlon i ladd, cynhyrchu a dosbarthu ‘smokies’ ledled Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a’r Alban.
Dafad neu afr sydd wedi’i ladd mewn modd anghyfreithlon yw ‘smokie’. Ar ôl lladd yr anifail, caiff y carcas – sydd heb ei flingo – ei losgi â chwythlamp. Cynhelir y broses hon mewn safle heb ei gymeradwyo, sy’n annhebygol o gydymffurfio â’r safonau a’r gofynion hylendid llym ar gyfer paratoi cig neu fwyd.
Mae’r achos hwn yn dangos ein bod ni nid yn unig yn fodlon erlyn y rhai sy’n cyflawni troseddau bwyd, ond y byddwn ni hefyd yn eu herlid i adennill yr elw maen nhw wedi’i wneud o’u gweithgarwch anghyfreithlon ac i adennill arian trethdalwyr a wariwyd er mwyn cynnal gwaith ymchwilio a’u herlyn.
Gall troseddau bwyd gael effaith ddifrifol sy’n peryglu cymunedau, a gallant hefyd danseilio busnesau cyfreithlon, a’r buddsoddiad a’r twf economaidd sy’n dod law yn llaw â nhw.
Rydym yn cefnogi busnesau cyfreithlon, ac rydym yn eu cefnogi’n rhagweithiol drwy amharu ar yr elfen droseddol a’i hatal.
Os ydych chi’n amau twyll bwyd, rhowch wybod i’r tîm Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar food.gov.uk/report neu drwy ffonio 0800 028 1180 (0207 276 8787 ar gyfer ffonau symudol a galwadau ffôn o’r tu allan i’r DU).