Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr ASB yn ymgynghori ynghylch cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ymgynghoriad heddiw ar gyflwyno newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir gan ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 June 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 June 2022

Mae'n well gan rai Mwslimiaid gasglu eu cig ac offal Qurbani cyn gynted â phosib ar ôl lladd yr anifail gan fod hyn yn nodi dechrau'r ŵyl. Mae yna fframwaith cyfreithiol clir ar waith o safbwynt hylendid, sy'n cynnwys y gofynion oeri ar gyfer cig ac offal. Er parchu bod Qurbani yn arfer crefyddol, nid yw casglu’r cig ac offal cyn eu hoeri’n llawn yn cyd-fynd ar hyn o bryd â fframwaith rheoleiddio’r ASB.

Gofynnodd cynrychiolwyr y diwydiant i'r ASB archwilio dulliau amgen o gyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha ac, o bosib, adolygu'r fframwaith deddfwriaethol cyfredol.

Mae dull gweithredu newydd arfaethedig yn adeiladu ar y datganiad ar y cyd gan Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth Qurbani (QPWG SG) a gwaith ymgysylltu parhaus yr ASB â'r grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd hyn yn cynnwys cynhyrchu Asesiad Risg ar gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol.

Mae’r ASB bellach yn ymgynghori gan geisio safbwyntiau ar y cynigion hyn. Gwahoddir rhanddeiliaid yng Nghymru a Lloegr i ymateb i’r ymgynghoriad deuddeg wythnos. 

Bydd yr ASB yn gwerthuso’r ymatebion, ac, yn ddibynnol ar y canlyniad, gallai fod ymgynghoriad pellach i ganolbwyntio ar weithredu.  Mae’r dull dau gam hwn yn galluogi ymgysylltu a chyfrannu trylwyr gan randdeiliaid trwy gydol y broses. 

Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi’r Asiantaeth Safonau Bwyd:

“Mae’n bwysig cydnabod bod Qurbani yn weithred o arwyddocâd crefyddol i'r gymuned Fwslimaidd, a bod rhaid ei pharchu. Dylai cig Qurbani fod ar gael i ddefnyddwyr sy’n dymuno ei baratoi a’i fwyta. Mae’r ymgynghoriad hwn a’n deialog gydag awdurdodau yn y gymuned Fwslimaidd yn ehangu’r drafodaeth er mwyn sicrhau bod yr arfer hwn yn gallu parhau gan hefyd ddarparu’r safonau diogelwch a hylendid bwyd uchaf posib i ddiogelu defnyddwyr.”

I gael gwybod rhagor, ewch i'r canllawiau ymgynghori.