Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn rhybuddio am bresenoldeb posib E-coli mewn amryw gynhyrchion caws ‘Mrs Kirkham’s Lancashire Cheese’

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), Safonau Bwyd yr Alban, (FSS) ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â bwyta pedwar cynnyrch caws Mrs Kirkham’s Lancashire Cheese sydd wedi’u galw’n ôl. Mae hyn oherwydd y gallent fod wedi’u halogi â math penodol o facteria E. coli o’r enw E. coli sy’n cynhyrchu Shigatocsin, a elwir hefyd yn STEC neu VTEC.

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 December 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 December 2023

Mae’r ASB ac UKHSA yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â bwyta pedwar cynnyrch caws Mrs Kirkham’s Lancashire Cheese sydd wedi’u galw’n ôl fel mesur rhagofalus. Mae hyn oherwydd y gallent fod wedi’u halogi â math penodol o facteria E.coli o’r enw E. coli sy’n cynhyrchu Shigatocsin, a elwir hefyd yn STEC neu VTEC, pathogen a all achosi gwenwyn bwyd. 

Dyma’r pedwar caws:

  • Mrs Kirkham’s Mild & Creamy Lancashire 
  • Mrs Kirkham’s Tasty Lancashire 
  • Mrs Kirkham’s Mature Lancashire 
  • Mrs Kirkham’s Smoked Lancashire 

Mae symptomau a achosir gan organebau STEC yn cynnwys dolur rhydd difrifol (gan gynnwys dolur rhydd gwaedlyd), poen yn yr abdomen, ac weithiau syndrom wremig hemolytig (HUS), sef cyflwr difrifol a all arwain at yr arennau’n methu ac sy’n gallu lladd. 

Gall haint STEC ledaenu trwy lawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys bwyta bwyd neu ddŵr wedi’u halogi, trwy gysylltiad uniongyrchol ag anifail wedi’i heintio neu drwy amgylchedd yr anifail, neu hefyd trwy gysylltiad agos â pherson sydd wedi’i heintio. Felly, nid yw’n anghyffredin i’r haint hwn ledaenu o berson wedi’i heintio i bobl eraill sy’n byw yn yr un cartref neu mewn lleoliadau fel meithrinfeydd. 

Weithiau caiff y cawsiau eu gweini fel rhan o hamper, fel dognau unigol neu gellir eu prynu fel set neu flwch i’w rhoi fel anrheg, felly efallai na fydd bob amser yn glir a ydych wedi prynu cynnyrch yr effeithiwyd arno.  

Os oes unrhyw amheuaeth, rydym yn cynghori defnyddwyr i gysylltu â’r manwerthwr lle prynwyd y caws i ddarganfod a yw wedi dod gan y busnesau a’r sypiau yr effeithir arnynt. Yn y cyfamser, peidiwch â bwyta’r caws a gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i storio’n ddiogel, wedi’i lapio’n llawn ac nad yw’n dod i gysylltiad â bwydydd eraill. 

Os ydych chi wedi prynu unrhyw gynhyrchion sydd wedi’u galw’n ôl, mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud y canlynol: 

  • Peidio â bwyta’r cynnyrch 
  • Glanhau unrhyw arwynebau, offer a chyfarpar sydd wedi dod i gysylltiad â’r caws yn drylwyr er mwyn atal croeshalogi bwydydd a diodydd eraill  
  • Sicrhau bod oergelloedd yn cael eu cadw ar y tymheredd cywir – pum gradd Celsius (5°C) neu’n is – gan y bydd hyn yn cyfyngu ar dwf unrhyw facteria niweidiol.  O ystyried pa mor llawn yw oergelloedd ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n arbennig o bwysig gwirio hyn. 

Dywedodd Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r ASB: 

“Rydym yn ymwybodol y gallai’r cynnyrch hwn sy’n cael ei alw’n ôl fod yn boblogaidd dros gyfnod y Nadolig, yn enwedig gan ei fod wedi’i werthu fel rhan o hamper sy’n cael ei roi fel anrheg Nadolig ac felly rydym yn annog defnyddwyr i wirio a ydynt wedi prynu’r cynnyrch hwn neu wedi’i gael fel anrheg.
  
“Oherwydd y brigiad o achosion o E. coli O145, rydym yn annog pob defnyddiwr i sicrhau eu bod yn dilyn y cyngor yn yr hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl, sy’n rhoi manylion yr holl gynhyrchion a allai achosi risg: 

Route des Terroirs yn galw Morbier Maison Monts & Terroirs Chalet De Vevy Cheese yn ôl oherwydd halogiad ag E. Coli | Yr Asiantaeth Safonau Bwyd 

“Rydym hefyd yn gofyn i bobl rannu’r cyngor hwn gyda ffrindiau a theulu a allai fod naill ai wedi prynu’r cynnyrch sy’n cael ei alw’n ôl neu wedi’i gael fel anrheg.” 

Dywedodd Amy Douglas, Cyfarwyddwr Digwyddiadau yr Is-adran Heintiau Gastroberfeddol a Diogelwch Bwyd yn UKHSA:  

“Mae o leiaf 30 o achosion wedi’u cadarnhau o’r math penodol hwn o STEC yn y DU. 

“Mae symptomau STEC yn cynnwys dolur rhydd difrifol (gan gynnwys dolur rhydd gwaedlyd), crampiau yn y stumog, chwydu a gwres. Os oes gennych ddolur rhydd ac rydych chi’n chwydu, gallwch gymryd camau i osgoi ei drosglwyddo i deulu a ffrindiau dros gyfnod y Nadolig.  

“Bydd golchi'ch dwylo â sebon a dŵr cynnes a defnyddio cynhyrchion cannydd (bleach) i lanhau arwynebau yn helpu i atal heintiau rhag lledaenu. Peidiwch â pharatoi bwyd i eraill os oes gennych symptomau neu am 48 awr ar ôl i’r symptomau ddod i ben. 

“Bydd llawer ohonom yn teithio dros gyfnod y Nadolig, ond os ydych yn sâl dylech osgoi ymweld â phobl mewn ysbytai a chartrefi gofal er mwyn osgoi trosglwyddo’r haint yn y lleoliadau hyn. Peidiwch â dychwelyd i’r gwaith neu’r ysgol unwaith y bydd y tymor wedi ailddechrau, tan 48 awr ar ôl i’ch symptomau ddod i ben.” 

Mae’n bwysig bod busnesau’n dilyn y broses o alw a thynnu cynnyrch yn ôl, ac os yw’r cynnyrch wedi cyrraedd eu busnes, sicrhau arferion hylendid da i atal y risg o groeshalogi. Mae’n bosib y bydd cawsiau eraill, os cânt eu trin gan ddefnyddio’r un offer neu arwynebau, hefyd fod wedi’u halogi ac felly wedi’u heffeithio.   
     

Mae’r ASB ac UKHSA yn parhau i weithio’n agos gyda’i gilydd ac awdurdodau lleol mewn ymateb i’r brigiad hwn o achosion. Efallai y bydd mwy o rybuddion galw cynnyrch yn ôl yn cael eu cyhoeddi os canfyddir bod mwy o gynhyrchion yn cael eu heffeithio.  

I gael mwy o fanylion am ba sypiau o gaws yr effeithir arnynt, edrychwch ar yr Hysbysiad Galw Cynnyrch yn Ôl ar food.gov.uk.

Mrs Kirkham's Lancashire Cheese Ltd yn galw ei Caws Swydd Gaerhirfryn yn ôl oherwydd halogiad posib ag E. Coli | Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.