Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn rhybuddio am risg listeria gyda chawsiau meddal Baronet

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â bwyta cawsiau lled-feddal Baronet sydd wedi’u galw’n ôl, am eu bod wedi’u halogi â listeria

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Mawrth 2023

Mae’r ASB ac UKHSA yn rhybuddio’r cyhoedd i beidio â bwyta cawsiau lled-feddal Baronet sydd wedi’u galw’n ôl am eu bod wedi’u halogi â listeria, i lefelau uchel iawn yn achos rhai o’r cawsiau.  

Mae Baronet yn gaws lled-feddal wedi'i basteureiddio gyda chroen oren-binc ac arogl cryf. Mae'n cael ei werthu mewn rowndiau unigol bach ac fel olwynion 1kg y gellir eu torri yn llai yn ôl archeb.

Weithiau caiff y cawsiau eu gweini wedi’u sleisio o gownter deli, felly efallai na fydd bob amser yn amlwg a ydych wedi prynu cynnyrch yr effeithiwyd arno. Os oes unrhyw amheuaeth, rydym yn cynghori defnyddwyr i gysylltu â’r manwerthwr lle prynwyd y caws i ddarganfod a yw’r caws Baronet hwnnw wedi dod gan y busnesau a’r sypiau yr effeithir arnynt, ac i beidio â bwyta’r cynnyrch yn y cyfamser. 

Mae gwaith gwyliadwriaeth Dilyniannu Genom Cyfan o samplau listeriosis gan UKHSA wedi nodi 3 achos sy’n gysylltiedig â’r cynnyrch hwn yn dilyn ymchwiliadau i achos salwch yn yr unigolion hyn, a arweiniodd at alw’r cynnyrch yn ôl. Yn drist iawn, mae un person wedi marw.
 
Gall symptomau listeriosis fod yn debyg i’r ffliw ac maent yn cynnwys tymheredd uchel, poen yn y cyhyrau, ias oer, chwydu neu deimlo bod angen chwydu a dolur rhydd. Fodd bynnag, mewn achosion prin, gall yr haint fod yn fwy difrifol, gan achosi cymhlethdodau difrifol, fel llid yr ymennydd (meningitis). 
 
Dylai bobl sy’n fwy agored i heintiau listeria fod yn arbennig o ofalus. Mae hyn yn cynnwys y rheiny dros 65 oed, pobl feichiog a’u babanod heb eu geni, babanod llai na mis oed a phobl sydd â systemau imiwnedd gwan (fel y rheiny â chanser, HIV, clefyd yr afu neu’r arennau neu bobl sy’n cael triniaeth gwrthimiwnedd). 

Os ydych chi wedi prynu unrhyw gynhyrchion sydd wedi’u galw’n ôl, mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud y canlynol:

  • Peidio â bwyta’r cynnyrch
  • Glanhau unrhyw arwynebau sydd wedi dod i gysylltiad â’r bwyd yn drylwyr er mwyn atal croeshalogi’r bwyd ac eitemau eraill a ddefnyddir i fwyta ac yfed
  • Sicrhau bod oergelloedd yn cael eu cadw ar y tymheredd cywir – pum gradd celsius neu’n is – gan y bydd hyn yn cyfyngu ar dwf unrhyw facteria niweidiol
  • Defnyddio cynhyrchion hyd at ac o fewn eu dyddiad ‘defnyddio erbyn’ bob amser, gan ddilyn y cyfarwyddiadau storio ar y label

 Meddai Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau’r ASB:

“Oherwydd y brigiad o achosion (outbreak) o Listeria monocytgenes, rydym yn annog defnyddwyr sy’n agored i haint Listeria, gan gynnwys pobl sy’n feichiog a phobl sydd â systemau imiwnedd gwan, i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y cyngor yn yr hysbysiadau galw cynnyrch yn ôl, sy’n nodi manylion yr holl gynhyrchion a allai beri risg. 

“Rydym hefyd yn gofyn i bobl wneud yn siŵr bod perthnasau oedrannus a allai fod wedi prynu’r eitemau sydd wedi’u galw’n ôl, ac sydd mewn perygl arbennig, yn ymwybodol o’r rhybudd galw’n ôl ac yn dilyn y cyngor.”

Meddai Richard Elson, Pennaeth Digwyddiadau ac Ymateb yn UKHSA:

“Mae listeriosis yn haint prin a bydd y rhan fwyaf o bobl ond yn cael symptomau ysgafn, fel poen yn yr abdomen a dolur rhydd, sydd fel arfer yn pasio ymhen cwpwl o ddiwrnodau heb fod angen triniaeth. Ond mae pobl sydd â systemau imiwnedd gwan, pobl feichiog, babanod neu bobl oedrannus mewn mwy o berygl o ddatblygu symptomau difrifol. 

“Mae gan rai bwydydd fwy o risg o listeria nag eraill. Mae’r rhain yn cynnwys cawsiau meddal, pâté, pysgod mwg, cigoedd oer wedi’u sleisio a chynhyrchion eraill sy’n barod i’w bwyta wedi’u hoeri. Os ydych chi mewn grŵp sydd â risg uwch o symptomau difrifol, mae gwybodaeth ar wefan y GIG am ba fwydydd i’w hosgoi a beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl bod gennych listeriosis.”

    Cynghorir unrhyw un sy’n mynd yn sâl â symptomau listeriosis i ddilyn y cyngor ar wefan y GIG ac i roi gwybod i’w hawdurdod lleol.

    Cynghorir busnesau hefyd fod yn rhaid iddynt wirio a yw’r rhybudd galw a thynnu’r cynhyrchion yn ôl yn effeithio arnynt, a sicrhau eu bod yn arsylwi ac yn gweithredu lle bo angen. Os yw cyflenwyr wedi gwerthu i fanwerthwyr, mae’n hanfodol bod pob manwerthwr yn cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl ac yn rhoi gwybod i’w hawdurdod lleol.  
     
    Mae’n bwysig bod busnesau’n dilyn y broses o alw a thynnu cynnyrch yn ôl, ac os yw’r cynnyrch wedi cyrraedd eu busnes, sicrhau arferion hylendid da i atal y risg o groeshalogi. Mae’n bosib y bydd cawsiau eraill, os cânt eu trin gan ddefnyddio’r un offer neu arwynebau, hefyd fod wedi’u halogi ac felly wedi’u heffeithio. 
     
    Mae’r ASB ac UKHSA yn parhau i weithio’n agos gyda’i gilydd ac awdurdodau lleol mewn ymateb i’r brigiad hwn o achosion. Efallai y bydd mwy o rybuddion galw cynnyrch yn ôl yn cael eu cyhoeddi os canfyddir bod mwy o gynhyrchion yn cael eu heffeithio.