Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban yn rhoi cyngor rhagofalus i ddefnyddwyr i beidio â bwyta cynhyrchion Kinder penodol sy'n gysylltiedig â brigiad o achosion o salmonela

Cynhyrchion pellach yn cael eu galw'n ôl fel cam rhagofalus yn dilyn brigiad o salmonela yn gysylltiedig â chynhyrchion Kinder penodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 April 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 April 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd, ynghyd â Safonau Bwyd yr Alban, yn cynghori defnyddwyr i beidio â bwyta cynhyrchion Kinder penodol a restrir yn yr hysbysiad galw cynnyrch yn ôl (PRIN). Mae hyn o ganlyniad i gysylltiad posib â brigiad o achosion o salmonela. Mae’r salwch wedi effeithio ar nifer o blant ifanc. 

O ganlyniad i'r ymchwiliad parhaus i'r brigiad, mae Ferrero wedi mynd ati’n fel cam rhagofalus i alw yn ôl yr holl gynhyrchion a gynhyrchir yn ei ffatri yn Arlon, Gwlad Belg, a restrir yn y PRIN. Mae’r rhain yn cynnwys Kinder Surprise 20g a 20g x 3, Kinder Surprise 100g, Kinder Mini Eggs 75g, Kinder Egg Hunt Kit 150g a Kinder Schokobons 200g.


Mae ymchwiliadau, a arweiniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru,  Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig (IKHSA), Iechyd Cyhoeddus yr Alban ac Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng brigiad o achosion o wenwyn salmonela ledled y Deyrnas Unedig (DU) a chynhyrchion a gynhyrchwyd gan gwmni Ferrero.


Mewn ymateb i hyn, mae Ferrero wedi galw rhagor o gynhyrchion yn ôl ar unwaith fel cam rhagofalus tra bod yr ymchwiliadau'n parhau. 

Mae manylion llawn y cynhyrchion yr effeithir arnynt yn yr hysbysiad galw cynnyrch yn ôl. Efallai na fydd deunydd pecynnu y cynhyrchion a alwyd yn ôl yn cyfeirio at y ffatri yng Ngwlad Belg lle cawsant eu cynhyrchu a gallant gynnwys cyfeiriad cyswllt gwahanol, felly mae'n bwysig bod defnyddwyr yn gwirio eu cynhyrchion yn erbyn y wybodaeth ychwanegol yn yr hysbysiad galw'n ôl  – yn enwedig y dyddiadau "ar ei orau cyn".

Er mwyn lleihau’r risg o unrhyw salwch pellach, ni ddylai defnyddwyr fwyta’r cynhyrchion a restrir yn y rhybudd galw cynnyrch yn ôl, a dylid dilyn y cyngor iechyd ynddo.


Mae symptomau salmonelosis fel arfer yn gwella ymhen ychydig ddiwrnodau heb driniaeth, ac maent yn cynnwys dolur rhydd, poen yn y stumog, teimlo’n gyfoglyd, chwydu, a gwres. Fodd bynnag, gall symptomau fod yn fwy difrifol ac angen eu trin mewn ysbyty, yn enwedig ymhlith plant ifanc iawn a’r rheiny sydd â system imiwnedd gwan.

Meddai Tina Potter, Pennaeth Digwyddiadau'r ASB:

“Rydym ni wedi cymryd camau ynghyd ag awdurdodau lleol ac awdurdodau yng Ngwlad Belg i leihau'r risg yn seiliedig ar y dystiolaeth hyd yma.

Rydym yn croesawu’r camau rhagofalus y mae Ferrero wedi eu cymryd ac rydym yn cynghori defnyddwyr i beidio â bwyta unrhyw un o’r cynhyrchion a restrir yn rhybudd yr ASB. Mae’n bwysig iawn bod defnyddwyr yn dilyn y cyngor hwn er mwyn osgoi’r risg o fynd yn sâl gyda gwenwyn salmonela.


“Rydym ni'n gwybod bod y cynhyrchion penodol hyn yn boblogaidd ymhlith plant ifanc, yn enwedig wrth i'r Pasg agosáu. Felly rydym ni'n annog rhieni a gwarcheidwaid plant i edrych i weld a oes ganddynt unrhyw rai o’r cynhyrchion yr effeithir arnynt eisoes yn eu cartref.


“Mae’r busnes bwyd dan sylw wedi galw a thynnu’r cynhyrchion hyn yn ôl yn wirfoddol ac rydym ni’n gweithio’n agos gyda’r busnes a’i awdurdodau cymwys i nodi union darddiad y brigiad o achosion hwn. Rydym ni hefyd yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys UKHSA a Safonau Bwyd yr Alban.”

Meddai Dr Lesley Larkin, Arweinydd Gwyliadwriaeth, Pathogenau Gastroberfeddol a Diogelwch Bwyd (One Health) yn UKHSA:

“Rydym ni’n croesawu cydweithrediad Ferrero International SA wrth alw a thynnu yn ôl nifer o gynhyrchion melys sy'n gysylltiedig â brigiad o achosion parhaus o Salmonela yn y DU.  Rydym ni’n gweithio’n agos gyda’r cwmni yn ogystal â’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Safonau Bwyd yr Alban, Iechyd Cyhoeddus yr Alban, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus Gogledd Iwerddon ac awdurdodau iechyd cyhoeddus a diogelwch bwyd rhyngwladol i sicrhau bod y risg i’r cyhoedd mor isel â phosibl.

“Mae symptomau salmonelosis fel arfer yn gwella heb driniaeth o fewn ychydig ddyddiau. Fodd bynnag, gall symptomau fod yn fwy difrifol, yn enwedig ymhlith plant ifanc a'r rhai â systemau imiwnedd gwan. Dylai unrhyw un sy’n pryderu bod ganddynt symptomau salmonelosis gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio GIG 111. Gall salmonela gael ei ledaenu o berson i berson, felly dylai unrhyw un yr effeithir arno ac sydd â symptomau ddilyn arferion hylendid da fel golchi dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r ystafell ymolchi ac osgoi trin bwyd i eraill lle bo’n bosibl.”

Mae rhagor o gyngor ac arweiniad ar salmonela ar gael ar-lein.