Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd i lansio ymgyrch i annog pobl ifanc a bwytai i godi llais dros alergeddau

Yr wythnos hon, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn lansio ‘Codi Llais dros Alergeddau’ – ymgyrch wedi’i hanelu at bobl ifanc a busnesau bwyd. Bydd yr ymgyrch yn annog pobl ifanc i gefnogi ffrindiau sydd ag alergeddau wrth fwyta mewn bwytai, gan hefyd amlygu’r rôl bwysig sydd gan staff blaen tŷ pan fydd person ifanc ag alergeddau’n bwyta yn y bwyty.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 March 2022

Gall alergeddau bwyd gael effaith anferthol ar fywydau pobl, ac mae ymchwil yn dangos bod pobl ifanc yn teimlo’n fwy hyderus yn dweud wrth fusnesau bwyd am eu halergeddau bwyd pan fo’u ffrindiau nhw’n gefnogol ac yn gydymdeimladol. Bydd yr ymgyrch Codi Llais Dros Alergeddau yn hyrwyddo’r neges hon ar draws ystod o blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol, a bydd yr ASB yn gweithio gyda dylanwadwyr i gyrraedd pobl ifanc.   

Mae hefyd gan fusnesau ran i'w chwarae wrth gefnogi pobl ag alergeddau. Mae pobl ifanc yn aml yn teimlo'n nerfus ynglŷn â sôn am eu halergeddau rhag ofn eu bod yn achosi anghyfleustra ac yn arafu archebion. Felly mae’r modd y bydd staff yn ymateb i’r ceisiadau hyn yn bwysig o ran gwneud i gwsmeriaid deimlo’n gyfforddus ac yn hyderus.  

Bydd yr ymgyrch yn cefnogi busnesau bwyd i sicrhau bod ganddyn nhw ddigon o brosesau rheoli alergenau ar waith, a rhoi hyfforddiant a gwybodaeth i staff fel eu bod yn gallu sicrhau eu bod yn ymateb yn effeithiol i ymholiadau am alergenau gan ddefnyddwyr.

Dywedodd Rebecca Sudworth, Cyfarwyddwr Polisi, yr ASB: 

“Gall alergeddau bwyd beryglu bywyd, ac maen nhw’n effeithio ar fywydau miliynau o bobl ledled y Deyrnas Unedig. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus wrth ddweud wrth fusnes bwyd am eu halergedd, a bod y busnes bwyd yn barod i wrando ac yn eu deall.  

“Gall busnesau bwyd ymweld â gwefan yr ASB, lle gallant ddod o hyd i hyfforddiant alergenau rhad ac am ddim yn ogystal â rhestr wirio alergenau ddefnyddiol y gallant ei defnyddio i gefnogi cwsmeriaid ag alergeddau.”    

Ewch i'n dudalen 'Rhestr Wirio Alergenau' i gael rhagor o wybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi busnesau bwyd.