Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ceisio safbwyntiau ar ganllawiau ‘Gallai gynnwys’ newydd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau ar gyngor newydd ar sut a phryd i ddefnyddio labelu alergenau rhagofalus (PAL)

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 March 2023

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio safbwyntiau ar gyngor newydd ar sut a phryd i ddefnyddio labelu alergenau rhagofalus (PAL), sydd fel arfer yn rhybuddion “gallai gynnwys” (“may contain”) ar ddeunydd pecynnu bwyd. 

Yn unol â’r cyngor newydd, ac i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd, dylai busnesau bwyd nodi at ba un o’r 14 prif alergenau y mae eu PAL yn cyfeirio – er enghraifft, defnyddio “may contain peanuts” neu “may contain tree nuts” yn hytrach na’r datganiad cyffredinol “may contain nuts”. 

Mae’r ASB yn argymell y dylid ond defnyddio PAL ar ôl cynnal asesiad risg, er mwyn sicrhau nad yw diogelwch a dewis defnyddwyr yn cael eu peryglu’n ddiangen.  

Rydym hefyd yn ceisio safbwyntiau ar ganllawiau newydd sy’n nodi na ddylid defnyddio PAL ar gynhyrchion lle maent hefyd yn honni eu bod yn “rhydd rhag” yr alergen hwnnw. Byddai hyn yn golygu na ddylai cynnyrch sydd â’r label “dairy free”, er enghraifft, gael label yn datgan “may contain milk”.

Roedd 90% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r newidiadau arfaethedig wrth ymateb i’r Ymgynghoriad Gallai Gynnwys a lansiwyd fis Rhagfyr 2021. 

Meddai Ben Rayner, Arweinydd Tîm Gorsensitifrwydd i Fwyd yr ASB: 

“Er bod defnyddio PAL yn wirfoddol, mae'n bwysig y dylai’r labelu fod mor gywir a defnyddiol â phosib i ddefnyddwyr pan gaiff ei ddefnyddio. 

“Bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu i sicrhau bod busnesau a’r rheiny sy’n byw ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd yn elwa o’r defnydd gorau posib o PAL

“Rydym wedi ymrwymo i wella’r ddarpariaeth o wybodaeth am alergeddau i ddefnyddwyr, a dyma ein cam nesaf yn y broses honno.” 

Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru hefyd yn cynghori busnesau i beidio â defnyddio Datganiadau Dim Cynhwysion sy’n Cynnwys Glwten (NGCIs), fel “mae’r fwydlen hon wedi’i chynllunio ar gyfer deiet heb glwten”. Mae’r ASB yn argymell y dylid ond defnyddio’r ymadroddion “heb glwten” neu “lefelau isel o glwten”, a hynny oherwydd canfuwyd bod y datganiadau NGCI yn camarwain defnyddwyr. 

Gall unrhyw un sy’n dymuno ymateb i’r ymgynghoriad wneud hynny ar y dudalen ymgynghori.  

Daw'r ymgynghoriad i ben ddydd Llun 22 Mai.