Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn Croesawu Adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

Mae Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) Emily Miles wedi croesawu adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, sef ‘Rheoleiddio ar ôl Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd’, a gyhoeddwyd heddiw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 May 2022

Mae Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) Emily Miles wedi ymateb i adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, sef  ‘Rheoleiddio ar ôl Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd’, a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r adroddiad yn archwilio rôl reoleiddiol yr ASB a dau reoleiddiwr arall y mae Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) wedi effeithio’n sylweddol ar eu gwaith. 

Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd Prif Weithredwr yr ASB, Emily Miles:

“Rydym yn nodi’r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn, sy’n cydnabod twf sylweddol cyfrifoldebau’r ASB ers i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Rydym wedi sicrhau, ar bob cam, fod bwyd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac mae hyn yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni. 

“Ers ymadael â’r UE, rydym wedi ymgymryd â sawl swyddogaeth newydd. Yn benodol, rydym bellach yn gyfrifol am gymeradwyo cynhyrchion bwyd newydd sy’n cyrraedd marchnad y DU. Mae gennym rôl ehangach mewn rheolaethau mewnforio ar gyfer bwyd sy’n dod i mewn i'r wlad ac rydym wedi ehangu ein gwaith i fynd i’r afael â thwyll bwyd. 

“Nid oes gennym fynediad llawn at rybuddion data’r UE mwyach, ond rydym bellach yn cysylltu â mwy na 180 o wledydd ar gyfer hysbysiadau diogelwch bwyd, tra hefyd yn cael hysbysiadau trydedd wlad gan yr UE. Mae hyn yn sicrhau ein bod yn rheoli digwyddiadau bwyd yn effeithiol ac yn mynd i'r afael ag ymddygiad twyllodrus.

“Mae’r adroddiad yn cydnabod bod strategaeth newydd yr ASB yn ein hail-ymrwymo i’n cenhadaeth, sef bwyd y gallwch ymddiried ynddo ac yn nodi egwyddorion ar gyfer sut y byddwn yn rheoleiddio am y pum mlynedd nesaf.”

“Rydym yn edrych ymlaen at ymateb i’r adroddiad yn llawn, ac yn y cyfamser byddwn yn parhau i weithio gyda Gweinidogion, rhannau eraill o’r llywodraeth, ein partneriaid rhyngwladol a lleol, gan gynnwys awdurdodau lleol ac ar y cyd â’r diwydiant, i sicrhau bod bwyd yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.”