Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi cyngor yn dilyn galw fformiwla babanod Elecare Similac ac Alimentum Similac yn ôl

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi cyngor i rieni ar ôl i gynhyrchydd fformiwla babanod, Abbott, gymryd y cam rhagofalus o alw sypiau amrywiol o fformiwla powdr Elecare Similac ac Alimentum Similac yn ôl. Mae hyn oherwydd presenoldeb posibl Salmonela a Cronobacter sakazakii.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 February 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 February 2022

Defnyddir cynhyrchion Elecare Similac ac Alimentum Similac at ddibenion meddygol arbennig i fwydo babanod, ac fe’u defnyddir fel arfer o dan oruchwyliaeth feddygol. Mae’r cwmni wedi cysylltu â phob siop a fferyllfa sy’n cyflenwi’r cynhyrchion hyn i roi gwybod iddynt am y rhybudd galw’r cynhyrchion yn ôl.

Byddwn yn gweithio gydag asiantaethau partner i fonitro unrhyw adroddiadau o salwch.

Ein cyngor i rieni

Ni ddylai unrhyw un sydd wedi prynu neu sydd wedi cael presgripsiwn am unrhyw un o’r cynhyrchion sydd wedi’u cynnwys yn y rhybudd galw’n ôl eu bwydo i’w babanod, a dylent ddychwelyd y cynnyrch i’r man lle cafodd ei brynu. 

Pwysig

Ceir manylion y swp (batch) a chod dyddiad ar waelod y can.

Mae rhestr lawn o’r sypiau sydd wedi’u cynnwys yn y rhybudd galw’n ôl hwn ar gael ar dudalen y rhybudd.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach am sut i ddychwelyd y cynnyrch, cysylltwch ag Abbott trwy 01795 580303.

Os ydych chi wedi prynu’r cynnyrch hwn ond bod rhifau’r swp yn wahanol i’r rhai a nodir yn y rhybudd galw’n ôl hwn, nid oes angen gweithredu, a gallwch chi barhau i fwydo’ch babi yn ôl yr arfer.

The location of batch codes and best-before dates on the base of recalled cans of Elecare Similac and Alimentum Similac. This batch 30374Z20, best before December 2022 is included in the recall.

The location of batch codes and best-before dates on the base of recalled cans of Elecare Similac and Alimentum Similac. This batch 30374Z20, best before December 2022 is included in the recall.

 


Dylai unrhyw un sydd eisoes wedi defnyddio rhywfaint o’r swp dan sylw neu’r swp i gyd fod yn wyliadwrus o unrhyw symptomau sy’n gysylltiedig â Salmonela a Chronobacter sakazakii, sydd fel arfer yn cynnwys twymyn, dolur rhydd, crampiau abdomenol, anniddigrwydd a thrafferth wrth fwyta. 

Os oes gan eich babi unrhyw un o’r symptomau hyn, dylech chi gysylltu â’ch meddyg, eich bydwraig neu eich fferyllydd am gyngor. Os yw eich babi yn iach ac nid yw’n dangos unrhyw symptomau, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth na cheisio unrhyw driniaeth.

Dylai rhieni neu warcheidwaid sydd wedi prynu neu gael presgripsiwn am unrhyw un o’r cynhyrchion sydd wedi’u cynnwys yn ein rhybudd galw’n ôl siarad â’u meddyg, eu bydwraig neu eu fferyllydd am ddewisiadau amgen i’r cynnyrch. 

Ein cyngor i ddosbarthwyr

Mae Abbott wedi cysylltu â’r holl fusnesau y bu’n cyflenwi’r cynhyrchion hyn iddynt i roi gwybod iddynt am y rhybudd galw’n ôl, eu cynghori i roi’r gorau i ddefnyddio’r cynnyrch ar unwaith ac i argymell dewisiadau bwydo amgen  addas i rieni.

Mae’n bwysig bod pob dosbarthwr yn dilyn ein cyngor i beidio â chyflenwi’r cynnyrch hwn i rieni. Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi rhannu ein hysbysiad galw’n ôl gyda darparwyr gofal iechyd.

Camau gweithredu pellach

Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda llwyfannau ar-lein er mwyn eu hatal rhag gwerthu unrhyw gynhyrchion sydd wedi’u cynnwys yn y rhybudd galw’n ôl. Rydym ni’n ymwybodol bod nifer bach o gynhyrchion ar y rhestr yn parhau i fod ar werth ac rydym ni’n gweithio i sicrhau bod y rhain yn cael eu tynnu i lawr.

Byddwn yn parhau i fonitro’r risg bosibl a berir gan y cynhyrchion dan sylw.  Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu rhannu ar y dudalen hon.