Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi ymchwil newydd ar y ffordd y mae coronafeirws yn goroesi ar fwyd a deunydd pecynnu.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ymchwil heddiw ar ba mor hir y gall coronafeirws oroesi ar wyneb bwyd a deunydd pecynnu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 November 2022

Comisiynwyd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan Brifysgol Southampton, gan yr ASB ar ôl iddi gyhoeddi ei hasesiad risg yn 2020. Daeth yr asesiasd risg i’r casgliad ei bod yn annhebygol iawn y gallai pobl ddal y feirws o fwyd. Roedd yr astudiaeth yn cynnwys ychwanegu’r feirws yn fwriadol at wyneb bwyd a deunydd pecynnu. Ni chafodd ei gynllunio i ystyried y tebygolrwydd y byddai bwyd yn cael ei halogi o dan amodau arferol, na'r tebygolrwydd y byddai feirws ar fwyd yn arwain at haint.

Mae canlyniadau’r astudiaeth yn dangos bod pa mor hir y mae’r feirws yn goroesi yn amrywio, gan ddibynnu ar y bwydydd a’r deunydd pecynnu a archwiliwyd.  Ar rai bwydydd, fel caws a ham, goroesodd y feirws am sawl diwrnod. Ar fwydydd eraill, fel afalau ac olewydd, gostyngodd lefelau’r feirws yn gyflym. Ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion bwyd a brofwyd, bu ‘gostyngiad sylweddol’ yn lefelau halogiad y feirws dros y 24 awr gyntaf. Mae'r canfyddiadau hyn yn cadarnhau bod y risg gyffredinol a berir i ddefnyddwyr gan y coronafeirws trwy fwyd yn parhau i fod yn isel iawn.

“Mae’n bwysig sicrhau bod cyngor yr ASB bob amser yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.

“Ar ddechrau’r pandemig, nid oeddem yn gwybod rhyw lawer ynghylch sut y byddai’r feirws yn goroesi ar wahanol arwynebau bwyd a deunydd pecynnu. Felly, roedd yr asesiad risg yn seiliedig ar y rhagdybiaeth waethaf bosib.

“Mae’r ymchwil hon yn rhoi dealltwriaeth ychwanegol i ni o sefydlogrwydd coronafeirws ar arwynebau amrywiaeth o fwydydd, ac yn cadarnhau bod y rhagdybiaethau a wnaethom ar ddechrau’r pandemig yn briodol, sef bod y tebygolrwydd y gallwch ddal COVID-19 trwy fwyd yn isel iawn.”

Anthony Wilson, Arweinydd Tîm Asesu Risg Microbiolegol yr ASB.

Roedd yr astudiaeth labordy yn cynnwys halogi  arwynebau ystod eang o fwydydd gan gynnwys ffrwythau a llysiau amrywiol, caws, cigoedd, bara a toesenni (pastries), a deunydd pecynnu bwyd gan gynnwys hambyrddau a photeli plastig, caniau diod a chartonau â choronafeirws artiffisial.

Ni fydd canlyniadau'r astudiaeth hon yn newid ein cyngor presennol, sef nad oes angen cymryd rhagofalon ychwanegol oherwydd COVID-19 wrth drin bwyd, cyn belled ag y dilynir arferion hylendid da. Fodd bynnag, byddant yn rhan o'r dystiolaeth a ystyrir gan yr ASB ar gyfer asesiadau risg yn y dyfodol.

Cliciwch yma i weld adroddiad llawn y prosiect ymchwil.