Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori defnyddwyr y bydd rhai cynhyrchion dofednod mewn oergelloedd wedi’u rhewi a’u dadmer yn flaenorol er mwyn cynnal lefelau stoc y Nadolig hwn

Penodol i Gymru a Lloegr

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynghori defnyddwyr sy’n prynu cynhyrchion twrci, hwyaden, caprwn (capon) neu ŵydd yn ystod y cyfnod yn arwain at y Nadolig, y gallent fod wedi’u rhewi a’u dadmer (defrosted) cyn cael eu gwerthu fel rhai wedi’u hoeri.

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 November 2022

Dylai'r cynhyrchion gael eu labelu'n glir fel rhai 'wedi'u dadmer' a dylent fod yn addas i'w rhewi gartref os yw'n dweud hynny ar y label. Bydd gwybodaeth ar gael ar wefannau manwerthwyr yn ogystal ag yn y siopau eu hunain. 

Bydd y newid dros dro hwn yn berthnasol i rai cynhyrchion twrci, hwyaden, capon a gŵydd, a fydd ar werth rhwng 28 Tachwedd a 31 Rhagfyr. Nid yw'n berthnasol i gyw iâr.  

Daw’r cyngor hwn, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig, ar ôl i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyfres o fesurau i helpu i gefnogi’r diwydiant dofednod gyda’r heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd oherwydd ffliw adar.  

Meddai Narriman Looch, Pennaeth Clefydau a Gludir gan Fwyd yr ASB:  

Fel dofednod eraill, bydd y cynhyrchion hyn sydd wedi’u dadmer yn berffaith ddiogel i chi a’ch teulu eu bwyta cyn belled â’ch bod yn dilyn y cyfarwyddiadau ar y label ac yn dilyn arferion hylendid bwyd da. 

Mae hyn yn wahanol i’n cyngor arferol o beidio ag ail-rewi cig amrwd wedi’i ddadmer gartref gan fod gan y diwydiant bwyd offer arbenigol i rewi’n gyflym iawn, ac yna dadmer y cynhyrchion hyn dan amodau a reolir yn llym. Mae rhewgelloedd yn y cartref yn llai effeithlon, felly gallai dadmer ac ail-rewi cig amrwd gartref ganiatáu i germau niweidiol dyfu.
 

Meddai Andrea Martinez-Inchausti, Dirprwy Gyfarwyddwr Bwyd Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC): 

“Mae manwerthwyr yn cymryd camau gweithredol i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn gallu mwynhau twrci dros gyfnod yr ŵyl. Drwy ladd adar ychydig yn gynt a’u rhewi, gellir dadmer y cynhyrchion hyn a’u gwerthu yn y cyfnod cyn y Nadolig heb boeni am effaith ffliw adar ar gyflenwad.” 
 
Cyngor hylendid bwyd i ddefnyddwyr sy’n trin dofednod, gan gynnwys cynhyrchion twrci, hwyaden, caprwn a gŵydd Nadolig wedi’u hoeri ac sydd wedi’u rhewi’n flaenorol:  

  • Golchwch eich dwylo cyn ac ar ôl trin dofednod amrwd Peidiwch â golchi adar cyfan neu gynhyrchion cig dofednod 
  • Cofiwch wirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ 
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau storio ar y label, a dylech ond rhewi’r dofednod wedi’i oeri gartref os yw’r label yn nodi ei fod yn ddiogel gwneud hynny 
  • Os yw’r aderyn wedi’i rewi, gwiriwch y label, oherwydd gall rhai adar llai gael eu coginio yn syth o’r rhewgell 
  • Efallai y bydd angen i chi ganiatáu amser ychwanegol i ddadmer aderyn mawr cyn ei goginio. Cofiwch gynllunio hyn ymlaen llaw, oherwydd gall twrci cyfan gymryd rhwng 3 a 5 diwrnod i ddadmer yn iawn. 
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau coginio, a gwnewch yn siŵr fod y cig yn stemio’n boeth. 
     

Cyngor ar ffliw adar i ddefnyddwyr:  

Mae dofednod a chynhyrchion dofednod wedi’u coginio’n drylwyr gan gynnwys eich twrci, hwyaden, caprwn neu ŵydd, yn ddiogel i’w bwyta. Mae ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y DU, ac mae cyngor yr ASB ar fwyta cynhyrchion dofednod yn aros yr un fath.  

I gael mwy o awgrymiadau ar storio, dadmer, coginio a beth i’w wneud gydag unrhyw fwyd dros ben dros gyfnod y Nadolig, ewch i food.gov.uk