Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn erlyn lladd-dy am achosion difrifol o dorri cyfraith diogelwch bwyd

Mae lladd-dy ym Manceinion Fwyaf wedi cael gorchymyn i dalu dirwyon sylweddol ar ôl ei gael yn euog o un ar ddeg o gyhuddiadau diogelwch bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 March 2024

Gorchmynnwyd Higginshaw Abattoir Ltd, sydd wedi’i leoli yn Royton, Oldham, i dalu £12,000 ar ôl ei gael yn euog o gyhuddiadau’n ymwneud â dosbarthu cig ar dymheredd rhy uchel.  

Mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i gig gael ei oeri ar unwaith a’i gadw o dan 7°C, ac o dan 3°C yn achos offal, cyn y gellir ei anfon o ladd-dy. Ar ddyddiadau amrywiol rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mehefin 2019, canfuwyd carcasau defaid ac offal ar gerbydau cludo a oedd yn barod i’w hanfon o Ladd-dy Higginshaw ar dymheredd llawer uwch na’r terfynau cyfreithiol. Felly, canfuwyd bod y lladd-dy wedi methu yn ei ddyletswydd i sicrhau bod cig yn cael ei oeri’n gywir a’i gadw o dan y terfynau gofynnol.

Cyflwynwyd Hysbysiad Camau Unioni (RAN) i sicrhau bod y lladd-dy’n cydymffurfio â’r terfynau cyfreithiol. Fodd bynnag, ar bedwar dyddiad gwahanol ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad cyfreithiol, canfuwyd bod y cwmni’n dal i gludo cig cynnes.  

Cafwyd y lladd-dy’n euog o 11 o 15 o gyhuddiadau, gan gynnwys torri’r RAN. Yn ogystal â’r dirwyon am y troseddau, gorchmynnodd y Barnwr i Higginshaw Abattoir Ltd dalu £20,000 tuag at gostau cyfreithiol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a gordal dioddefwr statudol o £170.  

“Mae’r achos hwn yn dangos bod yr ASB a’r llysoedd yn cymryd achosion o dorri rheolaidau iechyd y cyhoedd o ddifrif, ac rydym yn croesawu penderfyniad y llys. 

“Mae’n hanfodol bwysig, i ddefnyddwyr a’r diwydiant ehangach, fod rheoliadau diogelwch bwyd fel y rhain yn cael eu dilyn, a bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu.”

Rob Tindall, Pennaeth Cyflawni Gweithrediadau (Gogledd Lloegr) yr ASB