Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn lansio ymgynghoriad newydd ar bwerau ymchwilio ychwanegol i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi lansio ymgynghoriad newydd heddiw sy’n ceisio safbwyntiau’r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd a phartneriaid yn y sector bwyd ar y cynnig i sicrhau pwerau ymchwilio ychwanegol i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU).

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 July 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae gennych tan 6 Awst i ddweud eich dweud. 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar sicrhau pwerau ychwanegol cyfyngedig pellach i’r NFCU a fyddai’n caniatáu i swyddogion troseddau bwyd fod yn bresennol a chynorthwyo gyda chwiliadau’n gyfreithlon ar ôl i’r heddlu arestio’r troseddwyr. 

Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd ar sicrhau pwerau ymchwilio uwch i’r NFCU. Roedd yr ymatebion yn gefnogol ar y cyfan.  

Mae’r ASB yn ceisio sicrhau pwerau cyfreithiol priodol pellach i’r NFCU sy’n hollbwysig os yw am ymchwilio i droseddau bwyd yn effeithiol ac yn annibynnol, gan fod yn llai dibynnol ar gymorth gan bartneriaid fel awdurdodau lleol a’r heddlu. 

Dywedodd Andrew Quinn, Pennaeth Dros Dro’r NFCU yn yr ASB: 

“Rydym wedi lansio’r ymgynghoriad hwn gan ein bod am ddiogelu defnyddwyr a busnesau rhag twyll bwyd yn well. Byddai’r pŵer ychwanegol hwn i chwilio a chael mynediad yn arf hanfodol er mwyn sicrhau y gellir symud ymchwiliadau yn eu blaen yn fwy uniongyrchol. Byddai hefyd yn rhyddhau gwasanaethau heddluoedd lleol fel y gallant dargedu eu hadnoddau hanfodol i flaenoriaethau eraill.  

“Ar yr un pryd, bydd y pwerau mynediad a chwilio hyn yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynnil, gan ganolbwyntio ar reoleiddio effeithiol i atal a chanfod troseddau bwyd, ac yn amodol ar reolaethau cadarn a chraffu allanol. Rydym yn parhau i ymrwymo i ddefnyddio unrhyw bwerau ychwanegol mewn ffordd gymesur sy’n diogelu’r cyhoedd, gyda threfniadau diogelu a goruchwylio cryfach i ddiogelu rhag cam-ddefnyddio’r pwerau. Rydym yn annog pawb sydd eisiau dweud eu dweud i ymateb fel y gallant lywio ein gwaith yn y dyfodol.” 

Ar hyn o bryd, mae’r NFCU yn dibynnu ar gytundeb partneriaeth gyda Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu sy’n darparu cymorth fel mesur dros dro. Pe bai’r NFCU yn cael pwerau chwilio a mynediad o dan adran 18, mae’n debygol y byddai angen i swyddogion yr heddlu fod yn bresennol o hyd rhag ofn y byddai angen arestio troseddwyr, ond ni fyddai angen cymaint ohonynt. Mae pwerau ychwanegol yn ateb hirdymor mwy cynaliadwy a byddent yn cryfhau gallu’r NFCU i fynd i’r afael â thwyll bwyd a diogelu defnyddwyr.  

Uned gorfodi’r gyfraith o fewn yr ASB yw NFCU sy’n mynd i’r afael ag achosion o droseddau difrifol, cyfundrefnol neu gymhleth sy’n ymwneud â bwyd. Ei rôl yw canfod, atal ac ymchwilio i dwyll difrifol a throseddu cysylltiedig o fewn cadwyni cyflenwi bwyd, ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.   
 
Gwahoddir rhanddeiliaid yng Nghymru a Lloegr i ymateb i’r ymgynghoriad, a fydd yn para pedair wythnos. Mae deddfwriaeth ar wahân sy’n llywodraethu pwerau ymchwilio yn gymwys i Ogledd Iwerddon. Mae’r ASB yn bwriadu cynnal ymgynghoriad ar gyfer Gogledd Iwerddon maes o law. 

Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn berthnasol i’r Alban, lle mae Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban yn gyfrifol am ymateb i droseddau bwyd. 
 
Mae’r ymgynghoriad ar gael ar wefan yr ASB, lle gallwch hefyd gael gwybodaeth am waith yr NFCU.