Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn nodi cynlluniau i foderneiddio’r system rheoleiddio bwyd

Mae Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cytuno ar gwmpas y rhaglen Dyfodol Rheoleiddio Bwyd, gyda gweledigaeth glir: system reoleiddio effeithiol, wydn a dibynadwy sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Mawrth 2026

Bydd y rhaglen Dyfodol Rheoleiddio Bwyd yn datblygu cynigion i gryfhau’r system sy’n cadw ein bwyd yn ddiogel, er mwyn sicrhau ei bod yn cydsymud â busnesau bwyd newydd a bwyd sy’n dod i’r amlwg, a’i bod yn adlewyrchu sut mae pobl yn prynu bwyd a’i fwyta heddiw.

Bydd y rhaglen yn archwilio’r meysydd canlynol:

  • gwella’r system cofrestru busnesau bwyd i’w gwneud yn fwy effeithiol
  • dull rheoleiddio cenedlaethol ar gyfer rhai busnesau mawr, sy’n gwneud defnydd gwell o ddata a systemau sicrwydd presennol, ochr yn ochr ag arolygiadau wyneb yn wyneb
  • gwella’r ffordd rydym yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol a busnesau
  • cryfhau pwerau gorfodi, er mwyn galluogi camau gweithredu cyflym a chymesur lle bo angen
  • gwella gwybodaeth i ddefnyddwyr, gan gynnwys gwneud dangos Sgoriau Hylendid Bwyd yn orfodol yn Lloegr, gan adeiladu ar ymddiriedaeth yn y cynllun

Mae ein nod yn syml: dylai pawb yn y wlad hon allu ymddiried bod eu bwyd yn ddiogel. Mae’r pwrpas cyffredin hwn yn gyrru’r hyn rydyn ni, a’n partneriaid cyflenwi, yn ei wneud bob dydd i ddiogelu defnyddwyr ac iechyd y cyhoedd.   

Mae’r system fwyd yn newid, ac rydyn ni’n gwybod bod busnesau ac awdurdodau lleol yn wynebu heriau newydd. Rydyn ni am sicrhau bod gwaith rheoleiddio bwyd yn cydsymud â’r dirwedd fwyd sy’n newid ac yn aros yn effeithiol ac yn wydn, a bod defnyddwyr a busnesau yn dal i ymddiried ynddo.  

Efallai bod y nod yn syml ond dyw’r dasg ddim. Rydyn ni’n cydnabod pa mor fawr yw’r set hon o ddiwygiadau posib i bolisi, a’r effaith y gallai’r diwygiadau hyn ei chael. Dyna pam mae angen i ni weithio gyda busnesau a phartneriaid cyflenwi wrth i ni ddatblygu cynigion i gryfhau’r system rheoleiddio bwyd ar gyfer y dyfodol.

Yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Yn dilyn cais gan y llywodraeth yng Nghyllideb 2025, cytunodd y Bwrdd y dylai’r rhaglen ddatblygu cynigion ar gyfer system reoleiddio genedlaethol ar gyfer busnesau bwyd mawr yn Lloegr — fel archfarchnadoedd mawr.

Gyda chyllid gan y llywodraeth bellach yn ei le, bydd y rhaglen Dyfodol Rheoleiddio Bwyd yn archwilio system reoleiddio genedlaethol ochr yn ochr â diwygiadau ehangach eraill a fydd yn gwneud y system diogelwch a safonau bwyd yn fwy gwydn.

Cytunodd y Bwrdd y gallai gwelliannau i’r system helpu i nodi risgiau diogelwch bwyd yn gyflymach, gan leihau beichiau gweinyddol diangen i fusnesau heb beryglu’r rheolaethau rheoleiddiol sy’n hanfodol i gynnal lefelau uchel o ddiogelwch bwyd.

Bydd yr ASB nawr yn mynd ati i ymgysylltu ymhellach ag awdurdodau lleol, defnyddwyr, busnesau, a chyrff y diwydiant, gan weithio mewn partneriaeth i lunio system rheoleiddio bwyd sy’n addas ar gyfer y dyfodol.