Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymateb i gynlluniau golygu genynnau'r llywodraeth

Fe wnaeth Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice, y cyhoeddiad ddydd Mercher, 29 Medi 2021, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 September 2021

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn parhau i wrando ar ddefnyddwyr, yn ogystal â’u hysbysu a’u cynghori ar ddiogelwch a safonau bwyd, wrth i'r llywodraeth nodi ei chynlluniau ar gyfer dyfodol golygu genynnau (gene editing) yn Lloegr.

Ddydd Mercher, 29 Medi 2021, cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd George Eustice adolygiad o ddiffiniad rheoleiddiol o organeb sydd wedi’i addasu’n enetig (GMO), i eithrio organebau a gynhyrchir trwy olygu genynnau (GE) a thechnolegau genetig  y gellid fod wedi'u datblygu trwy fridio traddodiadol. 

Gallai'r newid hwn, sy'n dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn gynharach eleni, weld newid i’r ffordd y caiff GE ei reoleiddio er mwyn symleiddio ceisiadau arloesol y bernir bod ganddynt fanteision amgylcheddol, economaidd a maethol.

ASB yn Esbonio

Golygu genomau, sydd weithiau’n cael ei alw’n golygu genynnau, yw'r term sy’n cael ei roi ar amrywiaeth eang o dechnegau a ddefnyddir i newid DNA organebau, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid.

Mae’n gweithio trwy ddefnyddio ensymau penodol i dorri DNA ar bwyntiau penodol. Gellir defnyddio'r dull hwn i ychwanegu, dileu neu amnewid rhannau o DNA.

Gall newidiadau a gyflwynir trwy olygu genomau fod yn union yr un fath â'r rhai sy'n digwydd yn naturiol neu’r rhai a gyflawnir trwy fridio traddodiadol, ond gellir eu gwneud yn gyflymach ac yn fwy cywir. 

Mae'r ASB yn cydnabod bod manteision sylweddol i newid y ffordd yr ydym ni’n rheoleiddio technolegau genetig, i sicrhau bod y system mor gyfoes â phosibl ac yn ystyried technolegau a darganfyddiadau gwyddonol newydd yn briodol.

Meddai’r Athro Robin May, Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB:

“Ein rôl wrth symud ymlaen fydd gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn Defra a rhanddeiliaid allweddol eraill o du mewn a thu allan i'r llywodraeth, er mwyn sicrhau bod y ffordd yr ydym ni’n rheoleiddio technolegau genetig yn briodol, yn gadarn, ac yn cyflawni ein hamcanion o flaenoriaethu diogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr.

“Rydym ni bob amser yn ceisio gwrando ar aelodau'r cyhoedd, a’u hysbysu a’u cynghori o ran bwyd, ac rydym ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Yn dilyn ymchwil defnyddwyr diweddar ar GE, rydym ni’n gwybod bod ymwybyddiaeth isel o'r dechnoleg hon ymysg y cyhoedd. Byddwn ni’n parhau i weithio'n galed i ddarparu gwybodaeth glir a thryloyw fel y gall defnyddwyr fod yn dawel eu meddwl bod yr ASB yn gweithio'n galed i ddiogelu eu bwyd a’u buddiannau.

“Yn olaf, rydym ni'n cefnogi rhoi dewis i ddefnyddwyr. Rydym ni’n cydnabod manteision posibl dulliau Ge, ac yn deall awydd y Llywodraeth i fod yn arloesol a manteisio ar gyfleoedd i gynyddu cynhyrchiant a chynaliadwyedd amgylcheddol yn y gadwyn fwyd. Fodd bynnag, ni chaniateir bwydydd GE neu GM oni bai y bernir eu bod yn ddiogel i'w bwyta, nad yw’r cynhyrchion yn camarwain defnyddwyr, ac nad oes ganddynt lai o werth maethol na chynhyrchion tebyg sydd eisoes ar y farchnad."

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw fwydydd GE ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig.

Mae ymchwil diweddar a gyhoeddwyd gan yr ASB ar farn defnyddwyr o fwydydd GE, a dulliau rheoleiddio rhyngwladol mewn perthynas â bwyd GM a bwydydd newydd, yn ogystal â chanlyniadau gweithdy sganio’r gorwel arbenigol 'Golygu Genomau a Dyfodol Bwyd' i gyd ar gael ar ein gwefan.

Mae rhagor o wybodaeth am dechnolegau GE a fideo’r ‘ASB yn Esbonio’ ar gael i ddefnyddwyr ar ein tudalen we GE bwrpasol.