Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn ymgysylltu â’r diwydiant ar gynigion i fynd i’r afael â phrinder Milfeddygon Swyddogol

Heddiw, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ysgrifennu at berchnogion lladd-dai i’w gwahodd i rannu eu safbwyntiau ar rai newidiadau sy’n cael eu hystyried i’r ffordd y mae’r ASB yn cynnal rheolaethau swyddogol trwy filfeddygon swyddogol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 October 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 October 2022

Fel y nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddoe, mae yna brinder difrifol o filfeddygon yn y DU, sy’n gysylltiedig â llawer o ffactorau, gan gynnwys Covid-19, Ymadawiad y DU â’r UE, cynnydd yn y galw am filfeddygon ar gyfer Ardystiadau Iechyd Allforio, a chynnydd yn nifer y bobl sy’n berchen ar anifeiliaid anwes. Mae ffigurau Coleg Brenhinol y Milfeddygon yn dangos bod y nifer a ymunodd â’r proffesiwn milfeddygol yn y DU rhwng 2019 a 2021 wedi gostwng 26%, ac yn 2020 gwelwyd y nifer uchaf o filfeddygon yn gadael y maes yn y DU mewn 10 mlynedd.  

Mae Milfeddygon Swyddogol yn chwarae rhan hollbwysig wrth gynnal rheolaethau swyddogol. Pe na bai modd dosbarthu milfeddygon swyddogol yn gyson, ni fyddai lladd-dai yn gallu gweithredu, gan effeithio’n sylweddol ar ddiwydiant cig y DU, sy’n werth £9 biliwn. 

Meddai Junior Johnson, Cyfarwyddwr Gweithrediadau: 

Er gwaethaf heriau o ran recriwtio milfeddygon, mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi parhau i gynnal rheolaethau swyddogol yn llawn mewn lladd-dai, ac ni fu unrhyw darfu ar y gwasanaeth hyd yma.  

Fodd bynnag, mae yna brinder o filfeddygon swyddogol, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i atebion i’r problemau systemig hyn o ran darparu adnoddau, a hynny er mwyn i’r ASB allu parhau i ddarparu gwasanaeth dibynadwy i’r diwydiant, cynnal safonau diogelwch bwyd uchel, diogelu iechyd a lles anifeiliaid,  a galluogi busnesau i werthu bwyd gartref a thramor.

Bydd llythyr sy’n amlinellu’r newidiadau arfaethedig yn cael ei rannu â lladd-dai a ffatrïoedd torri heddiw. Mae’r llythyr yn eich gwahodd i roi adborth ar sut gallai’r newidiadau arfaethedig hyn effeithio ar eu busnesau. Bydd y mewnwelediad hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio penderfyniadau’r ASB a chamau nesaf y prosiect.