Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Ymgynghoriadau

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd Ymgynghoriadau, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni’n ei wneud â’r data â’ch hawliau chi.

Datgelu'r wybodaeth a ddarperir gennych

Efallai caiff yr wybodaeth a roddir mewn ymateb i’n hymgynghoriadau ei chyhoeddi i bartïon eraill neu ei datgelu yn unol â'r cyfundrefnau mynediad at wybodaeth (yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, GDPR y DU, Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).

Os dymunwch i'r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi gael ei thrin yn gyfrinachol, dylech fod yn ymwybodol bod yna God Ymarfer statudol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth y mae'n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio ag ef. Mae'n ymdrin, ymhlith pethau eraill, â rhwymedigaethau cyfrinachedd.

O ystyried hyn, byddai'n ddefnyddiol pe gallech esbonio i ni pam eich bod yn ystyried yr wybodaeth a roddwyd gennych yn gyfrinachol. Os cawn gais i ddatgelu'r wybodaeth, byddwn yn ystyried eich esboniad yn llawn, ond ni allwn roi sicrwydd y gellir cadw cyfrinachedd dan bob amgylchiad.

Ni fydd unrhyw ymwadiad cyfrinachedd awtomatig a gynhyrchir gan eich system TG, ar ei ben ei hun, yn cael ei ystyried fel un sy'n rhwymo.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam ein bod ni’n casglu eich data personol a beth fyddwn ni’n ei wneud â’r wybodaeth? 

Mae eich data personol yn cael ei gasglu fel rhan hanfodol o'r broses ymgynghori, fel y gallwn gysylltu â chi ynglŷn â'ch ymateb ac at ddibenion ystadegol. Efallai hefyd y byddwn ni’n ei ddefnyddio i gysylltu â chi am faterion cysylltiedig.

Mae GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 yn datgan y gall yr ASB, fel adran o'r llywodraeth, brosesu data personol fel bo'r angen er mwyn cyflawni’n effeithiol dasg sydd er budd y cyhoedd, hynny yw, ymgynghoriad.

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu?

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu? yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth hon am uchafswm o 7 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

For more information on International Transfers, please see the Trosglwyddiadau rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Drosglwyddiadau Rhyngwladol, gweler yr adran Dinasyddion yr UE yn ein siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau,  gweler yr adran Eich hawliau yn ein siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.