Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer 2022 i 2027

Rhagair – System fwyd sy’n newid

Cyflwyniad i strategaeth bum mlynedd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng nghyd-destun system fwyd sy’n newid.

Mae fersiwn lawn o Strategaeth yr ASB – Bwyd y gallwch ymddiried ynddo ar gael i’w lawrlwytho fel pdf.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithio ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.

Mae ein gwaith yn diogelu iechyd pobl, yn lleihau baich economaidd salwch a gludir gan fwyd ac yn cefnogi economi a masnach y Deyrnas Unedig (DU) trwy sicrhau, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban, fod gan ein bwyd enw da o ran diogelwch a dilysrwydd yn y DU a thramor.

Mae llawer wedi newid ers cyhoeddi ein strategaeth ffurfiol ddiwethaf yn 2015.

Mae ein rôl wedi tyfu’n sylweddol ers i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Rydym wedi ymgymryd â chyfrifoldebau newydd, gan gynnwys rheoleiddio bwydydd newydd, cynghori Llywodraeth y DU ar fargeinion masnach newydd, a chynghori a sicrhau safonau ar gyfer bwyd sy’n cael ei fewnforio a’i allforio.

Yn y cyfamser, mae newidiadau o ran technoleg a busnesau yn y system fwyd yn parhau i gyflymu. Mae pobl yn prynu bwyd mewn ffyrdd newydd, er enghraifft trwy farchnadoedd ar-lein a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn prynu bwyd a’r ffordd y mae busnesau bwyd yn gweithredu.

Mae pobl a llywodraethau ledled y byd yn dod yn fwyfwy ymwybodol o’r effaith y mae cynhyrchu bwyd yn ei chael ar y blaned. Mae'r argyfwng hinsawdd yn sbarduno arloesedd mewn bwyd, wrth i ragor o gwmnïau fuddsoddi mewn ffynonellau protein amgen, neu ddeunydd pecynnu bwyd cynaliadwy.

Mae hefyd her barhaus i wella ein deiet cenedlaethol, fel bod y bwyd yr ydym ni’n ei fwyta yn ein helpu i fyw bywydau hirach ac iachach. Mae ein hymchwil yn dangos bod rhai o bryderon mwyaf pobl am fwyd yn ymwneud ag iechyd a maeth.

Mae pobl hefyd yn poeni’n fawr am fforddiadwyedd bwyd ac ansicrwydd bwyd. Byddwn yn parhau i ystyried effaith y materion hyn ar draws ein holl waith.

Bu’r diwydiant bwyd a llywodraethau Cymru, y DU a Gogledd Iwerddon yn cydweithio i sicrhau cyflenwad diogel o fwyd drwy gydol y pandemig COVID-19. Mae pob sioc fawr i’r system fwyd yn effeithio ar gadwyni cyflenwi, staffio a modelau gweithredu. Rhaid i’r ASB fod yn barod i addasu.

Yn y cyd-destun newidiol hwn, mae cenhadaeth yr ASB – bwyd y gallwch ymddiried ynddo – yn parhau i fod mor bwysig ag erioed.

Mae’r strategaeth hon yn disgrifio’r hyn y byddwn yn ei wneud. Byddwn yn parhau i ddiogelu defnyddwyr drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Byddwn hefyd yn chwarae ein rhan i helpu i wneud bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy i bawb. 

Mae’r rhain yn ganlyniadau yr ydym eu heisiau i bawb, ble bynnag y maent yn byw yn y DU a beth bynnag fo’u hamgylchiadau personol. Mae materion fel fforddiadwyedd, a’r wybodaeth a roddir i ddefnyddwyr fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus, yn berthnasol i bob rhan o’n cenhadaeth. 

Mae ein strategaeth hefyd yn nodi sut y byddwn yn gweithio fel adran annibynnol, anweinidogol o’r llywodraeth. Mae’n ail-gadarnhau rôl gwyddoniaeth a thystiolaeth wrth lywio popeth a wnawn, a’n hymrwymiad i fod yn agored, yn gymesur ac yn arloesol. Mae’n nodi ein dyhead i’w gwneud yn haws i fusnesau bwyd gyflawni eu rhwymedigaethau a gwneud y peth iawn i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Wrth edrych ymlaen, bydd yn hanfodol i’r ASB weithio gydag eraill a thrwy eraill. Gallwn gynnig cryfderau penodol: ein gallu gwyddonol a dadansoddol; ein henw da gyda’r cyhoedd; ein harbenigedd a’n hangerdd dros fwyd; a’n perthnasoedd gwaith technegol ag awdurdodau lleol a’r diwydiant bwyd.

Mae’r system fwyd yn newid ond ceir cyfleoedd cyffrous i sicrhau ei bod yn fwy diogel, yn iachach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Bydd y strategaeth hon yn sicrhau ein bod ni’n chwarae ein rhan.

Yr Athro Susan JebbEmily Miles, Prif Weithredwr