Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Enghreittiau am pryd mae angen i chi wneud cais i gymeradwyo sefydliad bwyd neu sefydliad cig, naill ai i'r Asiantaeth Safonau Bwyd neu i'ch awdurdod lleol yn ddibynnol ar y math o sefydliad a'ch lleoliad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Hydref 2022
Lle y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd, gan ddibynnu ar y math o sefydliad a’ch lleoliad.

Mae angen i rai sefydliadau cig a sefydliadau bwyd gael eu cymeradwyo cyn y gallant ddechrau gweithredu. Gan ddibynnu ar y gweithgareddau y byddwch yn eu cyflawni a’ch lleoliad, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu eich awdurdod lleol.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Rhaid i’r sefydliadau canlynol gael cymeradwyaeth gennym ni cyn iddynt ddechrau masnachu:

Cymru a Lloegr

  • lladd-dai
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig

Gogledd Iwerddon

  • lladd-dai
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig
  • canolfannau casglu llaeth amrwd
  • gweithfeydd prosesu llaeth gwlyb
  • canolfannau pecynnu – pecynnu a graddio wyau yn ôl ansawdd a phwysau

Ni allwch ddechrau masnachu cyn cael eich cymeradwyo. Ni ddylech ddechrau unrhyw weithgaredd busnes sy’n gofyn am gymeradwyaeth oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer y gweithgarwch arfaethedig gan yr ASB. Os byddwch chi’n dechrau masnachu heb gymeradwyaeth, mae’n drosedd a allai arwain at erlyniad.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol

Cymru a Lloegr

 

Sefydliadau cyffredinol

  • storfeydd oer
  • sefydliadau ail-lapio ac ailbecynnu

Sefydliadau cig

  • sefydliadau briwgig 
  • sefydliadau paratoi cig
  • sefydliadau cig wedi’i wahanu’n fecanyddol
  • ffatrïoedd prosesu cynhyrchion cig
  • ffatrïoedd prosesu brasterau anifeiliaid wedi’u rendro a chriwsion 
  • ffatrïoedd prosesu stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin
  • ffatrïoedd prosesu gelatin
  • ffatrïoedd prosesu colagen

Sefydliadau pysgod a physgod cregyn

  • sefydliadau molysgiaid dwygragennog byw gan gynnwys canolfannau dosbarthu a chanolfannau puro
  • sefydliadau sy’n gweithio gyda chynhyrchion pysgodfeydd gan ddefnyddio llongau ffatri a rhewi, ffatrïoedd prosesu, cynhyrchion pysgodfeydd ffres, neuaddau arwerthu, marchnadoedd cyfanwerthu

Sefydliadau llaeth 

  • canolfannau casglu llaeth amrwd lle caiff ei oeri a’i hidlo
  • ffatrïoedd prosesu sy’n cynhesu, prosesu a/neu’n lapio cynhyrchion llaeth (llaeth neu unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys llaeth)

Sefydliadau wyau a chynhyrchion wyau

  • canolfannau pecynnu – pecynnu a graddio wyau yn ôl ansawdd a phwysau 
  • ffatrïoedd prosesu – prosesu cynhyrchion wyau
  • ffatrïoedd wyau hylifol – trin cynnwys wyau heb ei brosesu ar ôl tynnu’r plisgyn

 

    Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr asesiad cymeradwyo, a’r hawl i apelio.

    Rhestr o sefydliadau a gymeradwyir gan yr ASB.

    Cais am sefydliad newydd

    Defnyddiwch ein gwasanaeth cymeradwyo i wneud cais gam gymeradwyaeth gan yr AS ar gyfer eich sefydliad. Bydd angen i chi greu cyfrif er mwyn defnyddio'r gwasanaeth hwn.

    Pan ddaw eich cais i law, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i drefnu ymweliad i gynnal asesiad.

    Cais am weithgareddau ychwanegol  

    Os ydych eisoes wedi’ch cymeradwyo fel sefydliad cig ac rydych am wneud cais i gymeradwyo gweithgareddau neu rywogaethau ychwanegol, defnyddiwch ein gwasanaeth cymeradwyo.

    Gwneud cais am gymeradwyaeth gan yr ASB

    Rheoli eich cais

    Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwch yn gallu ei reoli a'i olrhain trwy ein gwasanaeth ceisiadau am gymeradwyaeth.

    Cymru a Lloegr

    Ymweliadau cynghori

    Os ydych am wneud cais i gymeradwyo eich sefydliad, gallwch ofyn am ymweliad cynghori. Nod ymweliadau cynghori yw eich helpu i nodi’r gofynion lles a hylendid a allai fod yn gymwys i’ch gweithgareddau cymeradwyo arfaethedig. Mae’r meysydd cyngor yn cynnwys strwythur adeiladau, offer a chyfleusterau, ystyriaethau hylendid gweithredol a HACCP, arferion da, rheoli cofnodion, a gweithdrefnau gweithredu safonol yn ogystal â lles anifeiliaid.

    Codir ffi benodol am ymweliadau cynghori sy’n daladwy cyn yr ymweliad.  Y ffi ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 yw £375.36 gan gynnwys TAW. Ni ellir ad-dalu’r ffi hon. 

    Gallwch ofyn am ymweliad cynghori pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais wrth ddefnyddio ein gwasanaeth cymeradwyo.

    England and Wales

    Pwysig

    Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd yn nogfennau canllaw'r ASB

    Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddwyd ers i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020. Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg rydym ny cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig.

    Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir. Gallwch gyrchu cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu’n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk.

    Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel y rhestrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn gymwys i Ogledd Iwerddon yn yr amgylchiadau hyn.

    Asesiad cymeradwyo

    Fel rhan o'r broses gymeradwyo, byddwn yn asesu:

    • offer a seilwaith eich sefydliad
    • eich system rheoli diogelwch bwyd, fel rhan o'r broses gymeradwyo.

    Nid oes hawl gennych weithredu tan i chi gael cymeradwyaeth amodol.

    Ar ôl eich cymeradwyo, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn dychwelyd o fewn tri mis i asesu’r broses gynhyrchu a'ch cydymffurfiaeth â’r holl ofynion hylendid a nodir yn:

    Ar ôl i’r safle gael ei gymeradwyo, ychwanegir manylion y safle ynghyd â gwybodaeth sy’n ymwneud â'r mathau o fwydydd a gynhyrchir at y rhestrau o sefydliadau cymeradwy.

    Yr hawl i apelio

    Mae gennych hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad os gwrthodir cymeradwyaeth i’ch safle o dan gyfraith bwyd.

    Gallwch gyflwyno apêl un mis o’r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad.

    Mae trosolwg llawn o’r broses ar gyfer cymeradwyo sefydliadau cig ym mhennod 1 adran 4 o’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol (MOC). Mae hefyd yn egluro ym mha amgylchiadau y byddem yn tynnu eich cymeradwyaeth yn ôl.

    Cymeradwyo sefydliadau bwyd yng Ngogledd Iwerddon: trefniadau llywodraethu a pholisi cymeradwyo
     

    Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy

    Rhestr lawn o sefydliadau, fel ffatrïoedd torri a lladd-dai, a gymeradwywyd i drin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid y gosodir gofynion ar eu cyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 853/2004.

    Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdod lleol, y broses gymeradwyo a’r hawl i apelio.

    Rhestr o sefydliadau a gymeradwyir gan awdurdod lleol

    Os ydych yn meddwl efallai y bydd angen cymeradwyaeth arnoch, bydd angen i chi gysylltu â’ch awdurdod lleol cyn gwneud cais.

    Pryd na fydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth

    Mae rhai eithriadau rhag y gofyniad i gael cymeradwyaeth gan awdurdod lleol, gan gynnwys:

    • eich bod ond yn gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd 
    • eich bod yn fusnes manwerthu sy’n cyflenwi cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill (gan gynnwys arlwywyr) ar sail ymylol, lleol a chyfyngedig

    Yn ogystal, efallai y bydd eithriad ar gael yn dibynnu i ba raddau y byddwch yn dymuno cyflenwi bwyd sy’n dod o anifeiliaid i fusnesau eraill. Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i benderfynu a allwch hawlio eithriad o’r fath rhag yr angen i gael gymeradwyaeth.

    Os nad oes angen i fusnes bwyd gael cymeradwyaeth, rhaid i chi gofrestru eich busnes bwyd gyda’r awdurdod lleol o leiaf 28 diwrnod cyn agor. Os ydych chi eisoes yn masnachu a heb gofrestru, mae angen i chi wneud hynny cyn gynted â phosib.

    Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer rheoli tymheredd a dull storio unrhyw fwyd a gludir gennych.

    Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdod lleol

    Asesiad cymeradwyo

    I gael cymeradwyaeth, bydd rhaid i sefydliadau fodloni’r holl ofynion perthnasol:

    Ni allwch ddechrau masnachu cyn cael cymeradwyaeth. Ni chewch redeg busnes sydd angen ei gymeradwyo oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer eich gweithgarwch arfaethedig gan yr awdurdod lleol. Os byddwch yn dechrau masnachu heb gymeradwyaeth, mae’n drosedd a all arwain at erlyniad.

    Ar ôl eu cymeradwyo, caiff manylion y safle ynghyd â gwybodaeth am y mathau o fwyd a gynhyrchir eu hychwanegu at y rhestr o sefydliadau cymeradwy.

    Yr hawl i apelio

    Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad a wneir gan yr awdurdod lleol yn gwrthod cymeradwyo eich busnes. 

    Cewch apelio ar y llys perthnasol yn erbyn y penderfyniad hwnnw. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno apêl cyn pen mis i’r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad.

    Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy