Llawlyfr rheolaethau swyddogol
Gofynion a safonau cyfreithiol ar gyfer sefydliadau cig cymeradwy
Unwaith y bydd eich safle wedi’i gymeradwyo, bydd y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol (y Llawlyfr) yn fuddiol i gael mwy o wybodaeth.
Mae’r Llawlyfr yn disgrifio tasgau, cyfrifoldebau a dyletswyddau ein staff sy’n cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy.
Canllawiau ar y llawlyfr rheolaethau swyddogol
Mae’r ddogfennaeth Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol yn gywir ar 25 Chwefror 2025. Gellir gweld newidiadau i’r Llawlyfr yn y log adolygu.
Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae swyddogion o’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yn cynnal rheolaethau hylendid cig swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy ar ran yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r Llawlyfr yn disgrifio tasgau, cyfrifoldebau a dyletswyddau swyddogion DAERA sy’n cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy ar ein rhan. Mae hyn yn cael ei gynnal a’i ddiweddaru gan DAERA ac mae i’w weld ar eu gwefan.
Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB
Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).
Ffurflenni gwybodeth am y gadwyn fwyd
Gall staff yr ASB gael mynediad at y dogfennau canlynol mewn ffeiliau mewnol:
- Atodiad 1: Cyfradd Marwolaethau Dyddiol Gronnol (CDMR)
- Atodiad 2: Dogfen enghreifftiol: Llythyr at weithredwr busnes bwyd yn caniatáu lladd
- Atodiad 3: Dogfen enghreifftiol: gwybodaeth am y gadwyn fwyd ar gyfer ceffylau
- Atodiad 4: IRIS – Canllaw i ddefnyddwyr WEDI’I DILEU
- Atodiad 5: IRIS – Dogfen holi ac ateb WEDI’I DILEU
- Atodiad 6: IRIS – Dogfen amodau cyn-lladd WEDI’I DILEU
- Atodiad 7: IRIS – Dogfen amodau ôl-lladd WEDI’I DILEU
- Atodiad 13: Gwybodaeth am y gadwyn fwyd – Anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio a gwartheg anystywallt (‘fractious’) a laddwyd ar y fferm
- Atodiad 15: Gwybodaeth am y gadwyn fwyd – Lladd mewn argyfwng WEDI’I DILEU
- Atodiad 17: Gwybodaeth am y gadwyn fwyd – Anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio ac sy’n agored i TB buchol
Local Authorities should check in the Food Law Code of Practice and on FSA LINK or within your local Food Liaison Group or on the Knowledge Hub to see if there are other LAs that are willing to share their template forms.
Dylai awdurdodau lleol wirio yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd ac ar Rwydwaith Rhannu’r ASB neu o fewn eu Grŵp Cyswllt Bwyd lleol neu ar yr Hyb Gwybodaeth i weld a oes awdurdodau lleol eraill sy’n fodlon rhannu eu ffurflenni templed.
Mae’r dogfennau canlynol (yn Saesneg yn unig) ar gael i’w gweld ar-lein:
Y llawlyfr rheolaethau swyddogol
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
England and Wales
Cyfarwyddiadau Gweithredol Dros Dro
England and Wales
England and Wales
England and Wales
Log o adolygiadau i’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol
Gwnaed diwygiadau i ddogfennaeth y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol ar 25 Chwefror 2025.
Gallwch weld log o adolygiadau i’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol yma (Saesneg yn unig).
Hanes diwygio
Published: 21 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Mawrth 2026