Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Llawlyfr rheolaethau swyddogol

Gofynion a safonau cyfreithiol ar gyfer sefydliadau cig cymeradwy.

Unwaith y bydd eich safle wedi’i gymeradwyo, bydd y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol (y Llawlyfr) yn fuddiol i gael mwy o wybodaeth.

Mae’r Llawlyfr yn disgrifio tasgau, cyfrifoldebau a dyletswyddau ein staff sy’n cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy.

Canllawiau ar y llawlyfr rheolaethau swyddogol 

Mae’r ddogfennaeth Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol yn gywir ar 3 Gorffennaf 2023. Gellir gweld newidiadau i’r Llawlyfr yn y log adolygu.

Gogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon, mae swyddogion o’r Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yn cynnal rheolaethau hylendid cig swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy ar ran yr ASB yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r Llawlyfr yn disgrifio tasgau, cyfrifoldebau a dyletswyddau swyddogion DAERA sy’n cynnal rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cymeradwy ar ein rhan. Mae hyn yn cael ei gynnal a’i ddiweddaru gan DAERA ac mae i’w weld ar eu gwefan.

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Pwysig

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

Log o adolygiadau i’r Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol

Gwnaed y diwygiadau canlynol i ddogfennaeth y Llawlyfr Rheolaethau Swyddogol ar 3 Gorffennaf 2023:

Pennod 1

  • Adran 3.3.3 Ychwanegu adran ar ddiogelwch llyfrau dydd
  • Adran 4.1.2 Paragraff ychwanegol yn egluro sut y bydd yr ASB yn penderfynu a ddylid cael gwared ar orfodi deuol OPOAO  

Pennod 2.1

  • Adran 2.1.12 Ychwanegu gwybodaeth am fethiannau yn ystod y cyfnod profi Salmonela

Pennod 2.3

  • Adran 1.2.11 Cod ymarfer ar gyfer ieir bwyta
  • Adran 3.3.1 Canllawiau wedi’u diweddaru ar atgyfeirio
  • Adran 3.3.2 Canllawiau diwygiedig ar DEO ac anifeiliaid cig coch a gwyn ar wahân
  • Adran 3.3.4 Gweithdrefn ychwanegol ar gyfer anifeiliaid sy’n feichiog iawn
  • Adran 3.3.5 Canllawiau ychwanegol a diwygiedig ar FPD
  • Adran 6.1.3 Canllawiau wedi’u hychwanegu a’u diweddaru ar ymdrin ag anifeiliaid sy’n anaddas i’w bwyta gan bobl a’u lladd Adran 6.1.5 Ychwanegu dolen i fodiwlau FDQ
  • Adran 6.1.7 Ychwanegu dolen i fodiwlau FDQ
  • Adran 6.2.3 Newidiadau i’r tabl CoC, cofnodion 14, 15 ac 16

Pennod 2.4

  • Adran 13.2.5 Ychwanegu cyfeiriad at restr wirio SHV Dofednod a’r amser cadw perthnasol

Pennod 2.5

  • Adrannau 1.1.3, 2.9.1, 2.9.2, 2.9.4, 3.2.1, 4.1.1, 4.4.4, 4.5.1, 4.10.4, a 5.2.2 Geiriad sy’n cyd-fynd â’r gofynion yn Rheoliad 2019/627, Erthygl 43
  • Adran 2.11 Egluro’r gofynion adnabod ar gyfer moch a chyfarwyddiadau milfeddygol swyddogol os bydd problemau’n codi

Pennod 2.6

  • Adran 2.14 Ychwanegu hysbysiad samplau o ansawdd gwael a chamau gofynnol
  • Adran 3.17.4 Ychwanegu hysbysiad samplau o ansawdd gwael a chamau gweithredu gofynnol  

Pennod 2.8

  • Adran 1.2.6 Ychwanegu manylion am ddau senario lle gallai ART 29 fod yn gymwys i fusnesau bwyd, nad oeddent wedi’u nodi yn y rhan hon o’r cyfarwyddiadau
  • Adran 1.5.4 Egluro’r angen i staenio cat 3 pydredig, nid israddio i cat 2
  • Adran 4.1.1 Diweddarwyd fel yn 1.2.6 uchod er cysondeb
  • Adran 5.3.1 Egluro sut i gyflwyno hysbysiad ABP
  • Adran 5.5 Nid yw’r cytundeb lefel gwasanaeth gydag APHA i olrhain ABPs bellach ar waith, disodlwyd gan “gytundeb adrodd” lle gall y Swyddog adrodd am bryderon ynghylch cyrchfan ABP i APHA
  • Adran 5.5.3 Wedi cael gwared ar y tabl gan nad yw’r cytundeb lefel gwasanaeth bellach ar waith
  • Atodiad 1 Cael gwared ar ffurflen ABP 31

Pennod 2.10

  • Ychwanegu Adran 3: Arolygiad mewn ffatrïoedd torri wedi’u cydleoli
  • Ychwanegu Atodiad 5: Offeryn penderfynu ar sail risg ar gyfer arolygiadau mewn ffatrïoedd torri wedi’u cydleoli
  • Ychwanegu Atodiad 6: Canllawiau ar gyfer cwblhau’r adroddiad arolygiadau mewn ffatrïoedd torri wedi’u cydleoli

Pennod 3

  • Atodiad 10: Diweddarwyd RMOP gydag adrannau C4 ac F4
  • Atodiad 11: Canllawiau ychwanegol a diwygiedig ar samplu swyddogol E. Coli

Pennod 4.1

  • Diwygiodd Adran 4.7.3 ganllawiau mewn perthynas â’r angen am UAIs mewn CPau wedi’u cydleoli sy’n gweithredu ar ddiwrnodau lladd a diwrnodau heb ladd
  • Adran 5.2.2 “Dim achos critigol yn ystod y cyfnod archwilio” wedi’i ychwanegu

Pennod 4.2

  • Adran 2.4.2 Dileu cyfeiriadau at SRM fel perygl
  • Adran 2.5.2 Dileu cyfeiriadau at fesurau rheoli SRM i CPP
  • Adran 2.6.2 Dileu cyfeiriadau at SRM at derfynau critigol

Pennod 6

  • Adran 2.2.2.9 Siart lif y weithdrefn ar gyfer ND person a ddrwgdybir wedi’i diwygio i gyd-fynd â’r geiriad yn yr adrannau blaenorol
  • Adran 8.2.2 Dileu’r frawddeg sy’n ailadrodd
  • Adran 8.4.2 Cyfrifoldeb diwygiedig i adlewyrchu newidiadau yn strwythur rheoli’r CDS
  • Adran 8.4.3 Cyfeirnod diwygiedig i’r adran Ddynodi
  • Adran 8.7 Disgrifiad manwl o ddyletswyddau’r ASB
  • Atodiad 33 newydd, ychwanegu gwiriadau tîm OV-ASB yn ystod achosion o AI 

Pennod 7

  • Adran 2.5.12 Cywiro rhif cyfeirnod a chywiro sillafu
  • Adran 4.1.2.3 Newidiadau fformatio
  • Adran 4.10.2 Ychwanegu testun i egluro’r broses gywir ar gyfer uwchgyfeirio RFIs ailadroddus
  • Adran 5 Canllawiau diwygiedig ynghylch gorfodi ar sail risg a defnyddio’r ENF11/29
  • Atodiad 12 Cael gwared ar hen sylw, tynnu tudalen wag ac addasu rhif y tudalennau. Ychwanegu tabl i ddiffinio opsiynau Statws

Pennod 9

  • Adran 2.6 DH ENF 11-6 wedi’i diweddaru i adlewyrchu newidiadau o ran cyfeiriadau e-bost
  • Adran 2.7 ENF 11-6 wedi’i diweddaru i adlewyrchu newidiadau o ran cyfeiriadau e-bost

Pennod 10

  • Adran 3.4.5 Cyfnod cadw wedi’i gywiro ar gyfer ffurflen “Gwirio cymhwysedd”
  • Adran 3.6.1 Cyfnod cadw wedi’i gywiro ar gyfer ffurflen PIA PM-1