Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Parlwr Pizza a Byrgyrs Papa: yr asesiad

Cyflwyno'ch asesiad ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i chi.

Mae'r canllawiau statudol yng Nghymru (Adran 2.3) yn gofyn bod 'awdurdodau cofrestru' yn ystyried gwybodaeth a ddarperir gan 'awdurdodau arolygu' wrth bennu'r sgôr ac wrth benderfynu pryd y dylid ei hadolygu.

Nawr, dylech ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd a mynd ymlaen i bennu'r sgôr.

Gydag unrhyw ymarfer o’r math hwn, mae cyfyngiadau ar yr hyn y gellid ei gynnwys yn y senario. Rydym wedi cynnwys gwybodaeth ddigonol ar gyfer y dasg a dylech gyfyngu’ch trafodaethau i’r wybodaeth a ddarparwyd i chi. Lle nad oes unrhyw wybodaeth ar fater, dylid cymryd nad oedd unrhyw faterion hylendid bwyd niweidiol ar y pryd i adrodd amdanynt. Nodwch eich sgoriau ar gyfer elfennau canlynol y sgôr risg yn dilyn ymyriad, yn unol â’r hyn sydd yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd er mwyn pennu sgôr risg hylendid bwyd y sefydliad:

  • Cydymffurfiaeth bresennol (Hylendid)
  • Cydymffurfiaeth bresennol (Strwythur)
  • Hyder mewn rheolwyr/gweithdrefnau rheoli.

Efallai bydd y dogfennau canlynol o gymorth i chi:

Yn ôl i’r senario Ymlaen i restr ymarferion cysondeb