Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Parlwr Pizza a Byrgyrs Papa

Parlwr Pizza a Byrgyrs Papa yw fan pizza a byrgyrs symudol a weithredir gan Mr Luigi Benito o 34 Stryd yr Eog, Fulchester.

Mae ei frodyr, Antonio ac Angelo, yn ei gynorthwyo ac mae'r busnes bwyd wedi'i gofrestru â'r awdurdod lleol. Nid ydynt yn aelod o gymdeithas fasnach ac nid ydynt yn rhan o Bartneriaeth Prif Awdurdod.

Hanes

Er bod y busnes wedi'i gofrestru yn Fulchester, nid yw erioed wedi masnachu yno ac felly mae'r awdurdod cofrestru (Fulchester) wedi dibynnu ar adroddiadau arolygu oddi wrth awdurdodau arolygu sydd wedi arolygu'r fan ar gyfer digwyddiadau yn eu hawdurdodau nhw. Fodd bynnag, cafodd sgôr arolygu gychwynnol o "5" ei rhoi gan Gyngor Fulchester pan ddechreuodd y busnes fasnachu ym mis Medi 2015. Adeg yr arolygiad cychwynnol hwn, roedd y fan wedi'i pharcio yn nhŷ Luigi ac ni welodd y swyddog a gynhaliodd yr arolygiad unrhyw fwyd yn cael ei drin neu ei baratoi. Mae'r busnes yn defnyddio'r pecyn Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell.

Interior of Papa's pizza and burger van. Shows the cooking and preparation surfaces as well as a fridge

Yn ôl i’r ymarferion cysondebNesaf: y senario