Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Online display of food hygiene ratings by food businesses in Wales

Arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein gan fusnesau bwyd yng Nghymru: Crynodeb gweithredol

Penodol i Gymru

Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar y canfyddiadau o weithdai sy’n archwilio safbwyntiau rheoleiddwyr am gynigion i orfodi busnesau bwyd yng Nghymru i arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023


Comisiynwyd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i hwyluso gweithdy i archwilio safbwyntiau rheoleiddwyr am gynigion i orfodi busnesau bwyd yng Nghymru i arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein. Mae’r adroddiad hwn yn manylu ar y canfyddiadau.

Roedd y cyfranogwyr yn cefnogi cynigion yr ASB ac yn croesawu’r cyfle i ymgysylltu’n gynnar. Roeddent yn unfrydol yn eu barn y byddai gorfodi busnesau i arddangos sgoriau hylendid bwyd ar-lein yn ddilyniant naturiol o’r cynllun presennol sydd wedi esblygu dros amser, gan adlewyrchu newidiadau yn y dirwedd lle mae gwerthiant bwyd ar-lein wedi cynyddu’n aruthrol.

Roedd y cyfranogwyr yn ffafrio dull graddol o gyflwyno unrhyw ofynion newydd ar gyfer busnesau bwyd gydag busnesau ‘canfod llwybr’ (pathfinder) yn arddangos ar-lein yn wirfoddol i ddechrau, ac yna gweithredu cynllun statudol fesul cam. 

Un pryder a nodwyd gan y cyfranogwyr a oedd yn croesawu’r posibilrwydd o ddatrysiad technolegol posib a fyddai’n diweddaru gwefannau busnesau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn awtomatig gyda’r sgoriau diweddaraf, oedd yr heriau TG tebygol sy’n gysylltiedig â rhoi hyn ar waith, yn enwedig ar gyfer busnesau bwyd bach. 

O ran sicrhau cydymffurfiaeth busnesau, tynnwyd sylw at y goblygiadau i adnoddau awdurdodau lleol sydd eisoes dan bwysau, ond nodwyd y cyfle i’r ASB neu eraill gynnal y gwaith gwyliadwriaeth o bell, a dim ond os bydd problem neu achos o ddiffyg cydymffurfio y byddai angen rhoi gwybod i awdurdodau lleol er mwyn iddynt gymryd camau gorfodi posib. 

Nodwyd bod buddsoddi mewn technoleg yn allweddol i lwyddiant y fenter hon gan mai’r farn gyffredinol ymhlith y cyfranogwyr oedd, er bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) wedi datblygu dros amser, nad yw’r dechnoleg sy’n ei gefnogi wedi datblygu. Awgrymodd y cyfranogwyr y dylid datblygu ap ar gyfer dyfeisiau symudol i roi gwybodaeth gyflym, cyfredol a hawdd ei gweld i gwsmeriaid am y sgoriau. Byddai ap hefyd yn arwain at fanteision eraill.  

O ran camau nesaf posib i’r ASB, nodwyd y dylid ymgysylltu’n gynnar am y cynigion ag agregwyr a nodi busnesau bwyd ‘canfod llwybr’, ynghyd â pharhau â gwaith i archwilio datrysiadau technolegol i leihau beichiau posib ar fusnesau a rheoleiddwyr sy’n gysylltiedig â gweithredu’r Cynllun.