Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme Online Display in Wales: Research report

Arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Ar-lein yng Nghymru: Casgliadau

Penodol i Gymru

Mae'r casgliad hwn yn canfod, yn gyffredinol, bod defnyddwyr yn hyderus wrth wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble i brynu bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023

5.1 Trosolwg o'r canfyddiadau

Ar y cyfan, mae defnyddwyr yn eithaf hyderus wrth lywio’r dirwedd (o ran dewis bwytai a siopau tecawê) ac, mewn gwirionedd, nid oes angen heb ei ddiwallu am gymorth i ddewis. At ei gilydd, nid oes angen cymorth ychwanegol ar ddefnyddwyr ac, ar hyn o bryd, maent yn ymdopi ag ystod o feini prawf gwahanol (gan gynnwys adolygiadau; argymhellion gan eraill) i helpu i lywio dewisiadau a phenderfyniadau.

Wedi dweud hynny, mae’r wybodaeth sydd ar gael i helpu i lywio eu penderfyniadau yn dameidiog, yn annelwig ac yn anodd ei dilysu. Nid yw gwybodaeth am hylendid ar gael yn hawdd, ac yn aml nid yw defnyddwyr naill ai’n ymwybodol bod modd chwilio am sgoriau’r Cynllun ar-lein, neu nid ydynt yn ystyried chwilio amdanynt. Ystyrir bod gwybodaeth y Cynllun yn gredadwy, yn annibynnol ac yn wiriadwy gan roi ‘dilysrwydd’ iddo nad yw adolygiadau ac argymhellion yn ei gynnig. Pe bai’n cael ei weithredu’n dda, byddai arddangos y Cynllun ar-lein yn ychwanegiad defnyddiol at y gronfa o  wybodaeth allweddol sydd ar gael i ddefnyddwyr.

5.2 Amcanion ymchwil

Dyma grynodeb o’r atebion i’r cwestiynau ymchwil penodol a restrir uchod.

Sut a ble y dylid cyfeirio’r wybodaeth am sgoriau er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a defnydd ymhlith cwsmeriaid?

Mae’n hanfodol i ddefnyddwyr bod gwybodaeth y Cynllun yn cael ei harddangos yn glir. Roedd defnyddwyr eisiau i sgoriau’r Cynllun gael eu harddangos mewn man amlwg ar wefannau’r gweithredwyr busnesau bwyd. 

Beth sy’n ysgogi ymatebion a dewisiadau defnyddwyr?

Gan fod defnyddwyr eisoes yn llywio tirwedd anghyson, mae’n hanfodol bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno’n agored ac yn glir fel y gellir ei gweld a’i deall yn hawdd.

Pa mor uchel yw’r risg o gamddealltwriaeth neu rwystrau eraill? 

Ar sail y dystiolaeth hon, nid oes llawer o risg y bydd defnyddwyr yn camddeall sgoriau hylendid bwyd ar-lein. Gallai rhwystrau rhag defnyddio (a ddiffyg hyder yn y system) ddigwydd pe bai defnyddwyr yn teimlo y gall gweithredwyr busnesau bwyd guddio neu ffugio sgôr. 

Pa strategaethau allai helpu i atal dryswch a chynyddu hygyrchedd?

Er mwyn cael yr effaith fwyaf posib, dylai sgoriau’r Cynllun: 

  • Gael eu harddangos yn amlwg
  • Fod ar gael heb fod angen i ddefnyddwyr lywio drwy wefannau neu ddolenni allanol
  • Peidio â chael eu cuddio mewn print mân

Beth yw’r ffyrdd gorau o gyflwyno’r sgoriau fel bod defnyddwyr yn gallu cael mynediad hawdd at wybodaeth ystyrlon sy’n rhoi grym iddynt wneud dewisiadau gwybodus?

Yn ogystal ag arddangos sgoriau’r Cynllun yn amlwg, mae defnyddwyr yn gofyn bod y delweddau sydd wedi’u mewnosod o’r sgôr yn cynnwys dolen i restr benodol yr ASB.