Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food Hygiene Rating Scheme Online Display in Wales: Research report

Arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Ar-lein yng Nghymru: Optimeiddio arddangos y Cynllun ar-lein

Penodol i Gymru

This section outlines ways consumers suggested the Food Hygiene Rating Scheme could be improved.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 June 2023

4.1 Nid yw defnyddwyr yn gweld unrhyw reswm pam na ddylai pob gweithredwr busnes bwyd orfod arddangos ei sgôr ar-lein

Teimlir bod arddangos ar-lein yn briodol ar gyfer pob busnes bwyd (gan gynnwys gwestai, bwytai, canolfannau cymunedol, archfarchnadoedd ac ati).

[Ymatebydd Hŷn] “Dylai unrhyw le sy’n gwerthu bwyd ei ddefnyddio” – Caerdydd

[Ymatebydd Hŷn] “Os ydyn nhw’n ei roi ar eu drysau yna pam na ddylai fod ar eu gwefannau – mae pobl yn dal i fwyta’r bwyd oddi yno?” – Caerdydd

“A phe bai’r sgôr yn uchel, byddech chi’n meddwl y bydden nhw’n falch o’i dangos” – Wrecsam

4.2 Gallai’r dull gweithredu a bennir ar gyfer arddangos y Cynllun ar-lein effeithio ar ei effaith

Roedd gan ddefnyddwyr nifer o bryderon o ran y ffyrdd y gallai sgoriau’r Cynllun gael eu harddangos a sut y gallai busnesau osgoi rheoliadau i leihau effaith arddangos y Cynllun ar-lein.   

Roedd defnyddwyr yn pryderu y gallai busnesau “guddio’r” wybodaeth mewn mannau llai amlwg ar eu gwefannau, neu hyd yn oed bostio sgoriau “ffug” neu hen sgoriau.  Efallai y bydd modd mynd i’r afael â’r materion hyn drwy fynnu bod sgôr yn cael ei harddangos mewn man amlwg ar y wefan yn ogystal â mynnu bod y delweddau sydd wedi’u mewnosod o’r sgôr yn cynnwys dolen i restr benodol y gweithredwr busnes bwyd ar wefan yr ASB. 

Drwy gyfeirio defnyddwyr at wefan yr ASB, gallai hyn hefyd helpu i egluro cwestiynau defnyddwyr am y cynllun.

[Ymatebydd Hŷn] “Ond pwy sy’n gwirio eu bod nhw’n defnyddio sgôr go iawn ar eu gwefan? Pam na fydden nhw jyst yn rhoi llun o sgôr 5?” – Caerdydd

4.3 Mae’n allweddol sicrhau ei bod yn hawdd ac yn gyfleus i ddefnyddwyr weld sgoriau’r Cynllun 

Mae defnyddwyr eisoes yn llywio tirwedd gwybodaeth ddi-drefn yn gyflym. O’r herwydd, mae gwybodaeth nad yw’n cael ei darparu yn y blaen ac yn amlwg, neu y mae angen ymdrech arbennig i ddod o hyd iddi, yn debygol o gael ei hanwybyddu. 

Er mwyn cael yr effaith fwyaf posib, dylai sgoriau’r Cynllun: 

  • Gael eu harddangos yn amlwg
  • Bod ar gael heb fod angen i ddefnyddwyr sgrolio neu glicio trwy dudalennau gwefan neu ddolenni allanol
  • Peidio â chael eu cuddio mewn print mân

“Fyddwn i ddim eisiau mynd trwy’r holl ymdrech yna, byddwn i eisiau iddo fod yn y blaen wrth ymyl y logo. Fyddwn i ddim yn trafferthu pe bai reit ar y diwedd” – Wrecsam

4.4 Mae awydd i ymestyn y Cynllun ar-lein i safleoedd agregwyr a thu hwnt

Mae defnyddwyr yn cytuno mai gwefannau’r gweithredwyr busnesau bwyd eu hunain yw’r lleoliad mwyaf naturiol a disgwyliedig i sgôr y Cynllun gael ei harddangos, o ystyried eu bod ar gael all-lein hefyd. Fodd bynnag, mae awydd cryf hefyd i’r sgoriau ymddangos ar wefannau agregwyr, yn enwedig gan fod y gwefannau hyn yn cael eu defnyddio’n fwy rheolaidd erbyn hyn. Yn wir, mae rhai cyfranogwyr yn meddwl y dylai sgoriau’r Cynllun hefyd ymddangos ar chwiliadau Google yn yr un modd â’r sêr a roddir drwy adolygiadau.  

Mae defnyddwyr yn awyddus i agregwyr ddangos sgoriau yn yr un modd, gyda’r sgoriau wedi’u gosod yn glir ac yn naturiol ar wefannau.  Byddai rhai hefyd yn hoffi gallu didoli canlyniadau fesul Cynllun Sgorio er hwylustod.

[Ymatebydd Hŷn] “Os yw Deliveroo yn cynrychioli’r lleoedd hyn, dylen nhw [sgoriau’r Cynllun] fod arno hefyd. Pam lai?" — Caerdydd

[Ymatebydd Iau] “Dylech allu cymharu eu sgôr hylendid ar y rhestr drosolwg ar JustEat yn union fel y gallwch chi â phellter a’r sgoriau sêr” – Caerdydd 

4.5 Mae defnyddwyr o’r farn y gallai arddangos ar-lein gael effaith gadarnhaol ar weithredwyr busnesau bwyd

Yn gyffredinol, mae defnyddwyr o’r farn y byddai arddangos ar-lein yn cael effaith gadarnhaol ar weithredwyr busnesau bwyd. Maent yn awgrymu y gallai arddangos ar-lein gorfodol gyflawni’r canlynol:

  • Helpu busnesau llai a mwy newydd i gystadlu a sefyll allan yn erbyn cadwyni mawr gydag ecwiti brand cryfach a phresenoldeb ar y stryd fawr, yn enwedig os nad ydynt wedi cael llawer o adolygiadau eto
  • Annog mwy o gydymffurfiaeth gan weithredwyr busnesau bwyd, gan wella ansawdd

“I’r bwyty, byddai’n edrych yn fwy proffesiynol ei chael yno” – Wrecsam
[Ymatebydd Hŷn] “Byddai’n rhaid iddyn nhw weithio’n galetach ar ei chyfer. Eu cadw nhw ar flaenau eu traed” - Caerdydd

[Ymatebydd Iau] “Byddech yn fwy tebygol o archebu pryd o fwyd o’r busnes pe baech yn gwybod bod ganddynt sgôr o 4 neu 5. Pe bai’n sgôr o 2 neu 1 fe fyddech yn penderfynu 'Dydw i ddim yn mynd yno' hyd yn oed os oedd yr adolygiadau’n dda” – Caerdydd