Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Food and You 2: Wave 7 Key Findings

Bwyd a Chi 2, Cylch 7: Crynodeb Gweithredol

Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.

Arolwg ‘Ystadegyn Swyddogol’ yw Bwyd a Chi 2 a gomisiynir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ac a gynhelir ddwywaith y flwyddyn. Mae’r arolwg yn mesur gwybodaeth, agweddau ac arferion defnyddwyr o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.
 
Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Bwyd a Chi 2: Cylch 7 rhwng 23 Ebrill 2023 a 10 Gorffennaf 2023. Cafodd yr arolwg ‘gwthio i’r we’ (push-to-web) ei gwblhau gan gyfanswm o 5,812 o oedolion (16 oed neu hŷn) o 4,006 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (gweler Atodiad A am ragor o wybodaeth am y fethodoleg).

Ymhlith y modiwlau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn, mae ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’, ‘Pryderon am fwyd’, ‘Diogeledd bwyd’, ‘Siopa am fwyd a labelu bwyd’, ‘Llwyfannau ar-lein’ a ‘Bwydydd newydd’. 

Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd

  • Dywedodd 88% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta.
  • Roedd 83% o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir.
  • Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd
  • Dywedodd 68% o’r ymatebwyr fod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd.
  • Roedd yr ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder mewn ffermwyr (84%) ac mewn siopau ac archfarchnadoedd (81%) nag mewn siopau tecawê (54%) a gwasanaethau dosbarthu bwyd (39%).

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

  • Roedd 89% o’r ymatebwyr wedi clywed am yr ASB.
  • Dywedodd 69% o’r ymatebwyr a oedd yn meddu ar o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB eu bod yn ymddiried ynddi i sicrhau bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.
  • Dywedodd 79% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r asiantaeth lywodraethol sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd). Roedd 76% yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol pan gaiff risg sy’n gysylltiedig â bwyd ei nodi, ac roedd 72% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd ynghylch risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd.

Pryderon am fwyd

  • Nid oedd gan 72% o’r ymatebwyr unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 28% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryderon.
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryderon esbonio’n gryno eu pryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin yn ymwneud â dulliau cynhyrchu bwyd (33%), maeth ac iechyd (30%), ac ansawdd bwyd (23%). 
  • Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedd ganddyn nhw bryderon am nifer o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, gan ddewis o blith rhestr o ddewisiadau. Y pryder mwyaf cyffredin oedd prisiau bwyd (72%), ac yna gwastraff bwyd (58%), faint o siwgr sydd mewn bwyd (56%), ansawdd bwyd (56%), a faint o ddeunydd pecynnu a ddefnyddir (56%).

Diogeledd bwyd 

  • Ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 75% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diogeledd bwyd (61% â diogeledd bwyd uchel, 14% â diogeledd bwyd ymylol), a chafodd 25% o’r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â diffyg diogeledd bwyd (13% â diogeledd bwyd isel, 13% â diogeledd bwyd isel iawn).
  • Dywedodd 80% o’r ymatebwyr eu bod wedi newid eu harferion bwyta am resymau ariannol yn ystod y 12 mis blaenorol. Y newidiadau mwyaf cyffredin oedd bwyta allan yn llai aml (49%), bwyta gartref yn amlach (45%), bwyta llai o fwyd tecawê (44%), a phrynu mwy o eitemau ar gynnig arbennig (44%). 
  • Dywedodd 4% o’r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio banc bwyd neu ddarparwr bwyd brys arall yn ystod y 12 mis diwethaf. Nododd 94% o’r ymatebwyr nad oeddent wedi defnyddio’r un o’r rheiny.
  • Dywedodd 5% o’r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio archfarchnad gymdeithasol yn ystod y 12 mis diwethaf. Nododd 79% o’r ymatebwyr nad oeddent wedi gwneud hynny.

Siopa am fwyd a labelu bwyd

  • Dywedodd 75% o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o archfarchnad fawr, a nododd 51% eu bod yn prynu bwyd o archfarchnad fach tua unwaith yr wythnos neu’n amlach.
  • Dywedodd 53% o’r ymatebwyr eu bod yn prynu bwyd o siopau annibynnol (siopau ffrwythau a llysiau, cigyddion, pobyddion, siopau pysgod); 47% eu bod yn prynu bwyd o siop gornel leol, siop bapurau newydd neu siop gorsaf betrol; a 44% eu bod wedi prynu bwyd o farchnadoedd lleol/ffermwyr neu siopau fferm 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod ‘bob amser’ neu ‘y rhan fwyaf o’r amser’ yn gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (85%) neu’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (84%) wrth brynu bwyd. Dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn chwilio am y rhestr gynhwysion (52%), gwybodaeth am faeth (47%), y wlad tarddiad (48%), a logos cynlluniau sicrwydd bwyd (42%) tua hanner yr amser neu’n achlysurol.
  • Roedd 83% o’r ymatebwyr sy’n siopa am fwyd ac sy’n gorfod ystyried rhywun ag alergedd neu anoddefiad bwyd yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn eu galluogi i nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol.

Llwyfannau ar-lein

  • Dywedodd 60% o’r ymatebwyr eu bod wedi archebu bwyd neu ddiod o wefannau bwytai, siopau tecawê neu gaffis, a nododd 54% eu bod wedi archebu bwyd gan gwmnïau archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats). 
  • Roedd 28% o’r ymatebwyr wedi archebu bwyd trwy farchnad ar-lein (er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy). Y llwyfannau a ddefnyddiwyd leiaf gan ymatebwyr oedd apiau rhannu bwyd (er enghraifft Olio, Too Good To Go) (14%) a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor) (8%). 
  • Roedd 46% o’r ymatebwyr ‘bob amser’ neu ‘y rhan fwyaf o’r amser’ yn chwilio am sgoriau’r CSHB. Roedd 31% o’r ymatebwyr yn gwneud hyn tua hanner yr amser neu’n achlysurol, ac nid oedd 21% o’r ymatebwyr byth yn chwilio am sgôr hylendid wrth archebu bwyd a diod ar-lein.
  • Ymhlith yr ymatebwyr hynny sydd â gorsensitifrwydd i fwyd, neu sy’n byw gyda rhywun sydd â gorsensitifrwydd i fwyd, roedd 18% bob amser yn chwilio am wybodaeth a fyddai’n eu galluogi i nodi bwyd a allai achosi adwaith gwael neu annymunol iddynt. Roedd 41% yn chwilio am yr wybodaeth hon yn llai aml, ac nid oedd 37% byth yn chwilio am yr wybodaeth hon.

Bwydydd newydd 

  • Nododd yr ymatebwyr fod ganddyn nhw fwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd a addaswyd yn enetig (GM) na bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau (GE) a bwyd wedi’i fridio’n fanwl. Er enghraifft, nid oedd 68% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd wedi’i fridio’n fanwl, nid oedd 41% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GE, ac nid oedd 9% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GM.
  • Dywedodd 60% o’r ymatebwyr nad oeddent wedi defnyddio na bwyta Canabidiol (CBD), wrth i 14% o’r ymatebwyr nodi eu bod wedi defnyddio neu fwyta CBD.
Add to smarter communications search Off