Bwyd a Chi 2 Cylch 7: Pennod 6 Bwydydd newydd
Mae'r bennod hon yn darparu trosolwg o ymwybyddiaeth chapter provides an overview of respondents' awareness of genetic technologies and reported awareness and use of Cannabidiol.
Cyflwyniad
Gweledigaeth yr ASB fel y’i hamlinellir yn Strategaeth 2022-2027 yw system fwyd lle mae ‘bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy’. Mae hyn yn rhoi ystyriaeth i iechyd a chynaliadwyedd deietegol fel blaenoriaethau cynyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, a defnyddwyr.
Yr ASB sy’n gyfrifol am awdurdodi bwydydd newydd. Cadarnhawyd statws bwyd newydd canabidiol (CBD) yng Nghymru a Lloegr ym mis Ionawr 2019. Yng Ngogledd Iwerddon, mae cynhyrchion bwyd CBD yn fwydydd newydd heb eu hawdurdodi.
Mae gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gylch gwaith eang ac mae’n chwarae rhan fawr wrth gynyddu cynaliadwyedd, cynhyrchiant a gwytnwch y sectorau amaethyddiaeth, pysgota, bwyd a diod, gwella bioddiogelwch ar y ffin, a chodi safonau lles anifeiliaid. Yn ogystal, mae Defra yn goruchwylio’r gwaith o reoleiddio technolegau genetig fel organebau a addaswyd yn enetig (GMO), organebau sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE) ac organebau wedi’u bridio’n fanwl(footnote).
Ymwybyddiaeth o fwydydd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau (GE), bwydydd wedi’u haddasu’n enetig (GM) a bwydydd wedi’u bridio’n fanwl
Ffigur 21. Ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau/golygu genomau (GE) a bwyd wedi’i fridio’n fanwl.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent erioed wedi clywed am fwyd wedi’i addasu’n enetig (GM), bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau a bwyd wedi’i fridio’n fanwl. Adroddodd yr ymatebwyr fod ganddyn nhw fwy o ymwybyddiaeth a gwybodaeth am fwyd a addaswyd yn enetig (GM) na bwyd sydd wedi bod yn destun golygu genynnau neu olygu genomau (GE) ac roeddent â’r wybodaeth leiaf am fwyd wedi’i fridio’n fanwl. Er enghraifft, nid oedd 68% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd wedi’i fridio’n fanwl, lle roedd 41% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GE. Nid oedd 9% o’r ymatebwyr erioed wedi clywed am fwyd GM (Ffigur 21)(footnote).
Ymwybyddiaeth a defnydd o Ganabidiol (CBD)
Ffigur 22. Ymwybyddiaeth o ganabidiol (CBD) a gwybodaeth amdano.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw erioed wedi clywed am ganabidiol (CBD). Roedd tua hanner (55%) yr ymatebwyr wedi clywed am CBD: dywedodd 7% eu bod yn gwybod cryn dipyn amdano; dywedodd 21% eu bod yn gwybod ychydig amdano; dywedodd 27% nad ydyn nhw’n gwybod llawer amdano, a dywedodd 11% nad ydyn nhw’n gwybod dim amdano. Dywedodd tua thraean (34%) yr ymatebwyr nad oedden nhw erioed wedi clywed am CBD (Ffigur 22)(footnote).
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oeddent wedi defnyddio neu fwyta CBD yn ystod y 12 mis blaenorol. Dywedodd dros 1 o bob 10 (14%) o’r ymatebwyr eu bod wedi defnyddio neu fwyta CBD a dywedodd 60% o’r ymatebwyr nad oeddent wedi defnyddio na bwyta CBD. Dywedodd chwarter (25%) yr ymatebwyr nad oedden nhw’n gwybod a oedden nhw wedi defnyddio neu fwyta CBD(footnote) yn ystod y 12 mis blaenorol.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi defnyddio neu fwyta CBD yn ystod y 12 mis blaenorol sut y gwnaethant benderfynu ar ddos neu faint dogn addas. Y dulliau mwyaf cyffredin o benderfynu ar ddos neu faint dogn addas oedd dilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn neu’r label (58%), ymchwilio i’r pwnc ar y we (22%), a monitro’r effaith mae’n ei gael a chynyddu/lleihau’r dos yn ôl yr angen (21%)(footnote).
Ffigur 23. Mathau o gynnyrch cannabidiol (CBD) a ddefnyddir neu a fwyteir ymhlith defnyddwyr CBD.
Lawrlwytho’r siart hon
Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 7
Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi defnyddio neu fwyta CBD yn ystod y 12 mis blaenorol pa mor aml yr oeddent wedi defnyddio neu fwyta gwahanol fathau o gynhyrchion CBD. Dywedodd tua 6 o bob 10 o’r ymatebwyr eu bod wedi yfed diodydd (62%) neu olewau (58%) yn cynnwys CBD. Dywedodd tua thraean yr ymatebwyr eu bod wedi bwyta bwyd (36%) neu gynhyrchion cnoi (34%) yn cynnwys CBD. Roedd tua chwarter yr ymatebwyr wedi defnyddio fêps neu gynhyrchion tybaco (27%), colur (23%) neu gynhyrchion meddyginiaethol (23%) yn cynnwys CBD (Ffigur 23)(footnote).