Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
research page

Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 1 – Bwyd y gallwch ymddiried ynddo

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ymwybyddiaeth yr ymatebwyr o’r ASB a’u hymddiriedaeth ynddi, yn ogystal â’u hyder mewn diogelwch bwyd a chywirdeb yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025

Cenhadaeth gyffredinol yr ASB yw sicrhau ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’. Gweledigaeth yr ASB yw system fwyd sy’n bodloni’r gosodiadau canlynol:

  • Mae bwyd yn ddiogel
  • Mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy

Hyder o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus o ran diogelwch a dilysrwydd bwyd (hynny yw, eu bod yn ‘hyderus iawn’ neu’n ‘eithaf hyderus’). Dywedodd 89% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta; a dywedodd 81% o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir. (footnote 1)

Roedd hyder o ran diogelwch bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r ymatebwyr ag incwm is, er enghraifft, 96% o’r rheiny sy’n ennill dros £96,000 o gymharu ag 85% o’r rheiny sy’n ennill llai nag £19,000.
  • NS-SEC (footnote 2): roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol (91%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta na’r rheiny a oedd yn gyflogwyr bach ac yn weithwyr ar eu liwt eu hunain (81%).
  • Rhanbarth (Lloegr) (footnote 3): roedd yr ymatebwyr yn Nwyrain Canolbarth Lloegr (94%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rheiny yn Llundain (83%) a Gogledd-ddwyrain Lloegr (84%).
  • Diogeledd bwyd (footnote 4): roedd yr ymatebwyr a oedd â lefelau uwch o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta o gymharu â’r rheiny a oedd â lefelau is o ddiogeledd bwyd (er enghraifft, 92% o’r rheiny â diogeledd bwyd uchel o gymharu ag 82% o’r rheiny â diogeledd bwyd isel iawn).
  • Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): roedd yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB (ac a oedd yn gwybod llawer neu ychydig amdano) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod y bwyd y maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i’w fwyta (91%), o gymharu â’r rheiny nad oedden nhw wedi clywed am y cynllun (65%).

Roedd hyder yng nghywirdeb yr wybodaeth ar labeli bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm uwch yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir na’r rheiny ag incwm is. Er enghraifft, 87% o’r rheiny sy’n ennill rhwng £64,000 a £95,999 ac 87% o’r rheiny sy’n ennill rhwng £32,000 a £63,999, o gymharu â 75% o’r rheiny sy’n ennill llai nag £19,000.
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau (er enghraifft, 83% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd ac 84% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir na’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (69%) neu a oedd yn fyfyrwyr amser llawn (72%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yn Ne-orllewin Lloegr (89%), De-ddwyrain Lloegr (82%) a Gogledd-orllewin Lloegr (83%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir na’r rheiny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr** (79%) a Llundain (72%).
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â diogeledd bwyd uchel (86%) ac ymylol (82%) yn fwy tebygol o nodi hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd isel (72%) neu isel iawn (67%).
  • Gorsensitifrwydd i fwyd: roedd y rheiny a nododd fod ganddyn nhw alergedd bwyd (91%) yn fwy tebygol o fynegi hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny heb unrhyw orsensitifrwydd i fwyd (81%).
  • Cyfrifoldeb dros goginio: Roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (82%) yn fwy tebygol o ddweud bod ganddyn nhw hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (67%).
  • Ymddiriedaeth yn yr ASB: roedd yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn ymddiried yn yr ASB (90%) yn fwy tebygol o fynegi hyder yng nghywirdeb labeli bwyd na’r rheiny nad ydyn nhw’n ymddiried yn yr ASB (44%).
  • Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): rodd y mwyafrif o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano (83%) neu a oedd wedi clywed am y CSHB ond nad oedden nhw’n gwybod llawer neu ddim byd amdano (79%) yn hyderus bod labeli bwyd yn gywir, o gymharu â 49% o’r rheiny nad oedden nhw wedi clywed am y cynllun.

Hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd

Dywedodd tua dwy ran o dair o’r ymatebwyr (69%) fod ganddyn nhw hyder (hynny yw, eu bod yn hyderus iawn neu’n eithaf hyderus) yn y gadwyn cyflenwi bwyd. (footnote 5)

Roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr a oedd yn 45 oed neu’n hŷn yn fwy tebygol o fynegi hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny a oedd yn 34 oed neu’n iau (er enghraifft, roedd 76% o’r rhai 75+ oed, 72% o’r rhai 65-74 oed, 75% o’r rhai 55-64 oed a 71% o’r rhai 45-54 oed yn hyderus o gymharu â 58% o’r rhai 16-24 oed a 63% o’r rhai 25-34 oed).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr mewn galwedigaethau (er enghraifft, 78% o’r rheiny mewn galwedigaethau lled-ailadroddus/ailadroddus, 72% o’r rheiny mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is, 69% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol a 70% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fynegi hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r rheiny a oedd yn fyfyrwyr amser llawn (55%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd yn amrywio fesul rhanbarth, gydag ymatebwyr yn Llundain yn llai tebygol na phob rhanbarth arall (ac eithrio Swydd Efrog a Glannau Humber) o deimlo’n hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd. Er enghraifft, roedd 58% o’r ymatebwyr yn Llundain yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd o gymharu â 75% o’r rheiny yn y De-orllewin, 73% yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a 73% yn Nwyrain Canolbarth Lloegr.
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr â lefel uchel o ddiogeledd bwyd (73%) yn fwy tebygol o fynegi hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd na’r ymatebwyr â lefel ymylol (64%), isel (63%) neu isel iawn (61%) o ddiogeledd bwyd.
  • Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): roedd 70% o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano a 61% o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ond nad oedden nhw’n gwybod llawer neu ddim byd amdano yn hyderus yn y gadwyn cyflenwi bwyd, o gymharu â 47% o’r rheiny nad oedden nhw wedi clywed am y cynllun.

Ymwybyddiaeth o’r ASB ac ymddiriedaeth a hyder ynddi

Ymwybyddiaeth o’r ASB

Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (91%) wedi clywed am yr ASB. (footnote 6)

Roedd ymwybyddiaeth o’r ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr hŷn yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r ymatebwyr iau. Er enghraifft, dywedodd 97% o’r rheiny rhwng 65 a 74 oed eu bod wedi clywed am yr ASB, o gymharu â 79% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed.
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm o fwy nag £19,000 yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny ag incwm o £19,000 neu lai. Er enghraifft, roedd 93% o’r rheiny ag incwm dros £96,000 a 94% o’r rheiny ag incwm rhwng £64,000 a £95,999 wedi clywed am yr ASB o gymharu ag 84% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000.
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 93% o’r rheiny mewn galwedigaethau canolradd) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na myfyrwyr amser llawn (77%) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir a/neu erioed wedi gweithio (76%).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (94%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (81%). (footnote 7)
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (92%) yn fwy tebygol o fod wedi clywed am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (79%).
  • Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): roedd 94% o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ac yn gwybod llawer neu ychydig amdano ac 87% o’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ond nad oedden nhw’n gwybod llawer neu ddim byd amdano wedi clywed am yr ASB, o gymharu â 65% o’r rheiny nad oedden nhw wedi clywed am y cynllun.

Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB; dywedodd 51% eu bod yn gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith; a dywedodd 6% eu bod yn gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith. Dywedodd tua thraean (32%) o’r ymatebwyr eu bod wedi clywed am yr ASB ond nad oedden nhw’n gwybod dim amdani, nid oedd 5% wedi clywed am yr ASB cyn iddyn nhw gael gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg Bwyd a Chi 2, ac nid oedd 6% erioed wedi clywed am yr ASB (Ffigur 1). (footnote 8)

Ffigur 1. Gwybodaeth am yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)

Mae manylion y graff i’w cael yn y testun.
Disgrifiad;Canran yr ymatebwyr (%)
Dydw i erioed wedi clywed am yr ASB;6
Doeddwn i ddim wedi clywed am yr ASB nes i mi gael gwahoddiad i gymryd rhan yn yr arolwg hwn";5
Rwy wedi clywed am yr ASB ond dydw i ddim yn gwybod dim amdani
;32
Rwy’n gwybod ychydig am yr ASB a’i gwaith;51
Rwy’n gwybod llawer am yr ASB a’i gwaith;6

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Roedd gwybodaeth am yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: (footnote 9)

  • Grŵp oedran: roedd yr ymatebwyr rhwng 25 a 64 oed (er enghraifft, 68% o’r rheiny rhwng 55 a 64 oed) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr iau (er enghraifft, 38% o’r rheiny rhwng 16 a 24 oed) neu’r ymatebwyr hynaf (46% o’r rheiny 75 oed a hŷn).
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm o fwy nag £19,000 yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r rheiny ag incwm o £19,000 neu lai (er enghraifft, 63% o’r rheiny ag incwm rhwng £32,000 a £63,999 o gymharu â 51% o’r rheiny ag incwm o lai nag £19,000).
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr yn y rhan fwyaf o grwpiau galwedigaethol (er enghraifft, 63% o’r rheiny mewn galwedigaethau rheoli/gweinyddol/proffesiynol) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na myfyrwyr amser llawn (40%) a’r rheiny a oedd yn ddi-waith yn y tymor hir neu nad oedden nhw erioed wedi gweithio (36%).
  • Gwlad: roedd yr ymatebwyr yng Nghymru (65%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r ymatebwyr yng Ngogledd Iwerddon (55%) a Lloegr (57%).
  • Rhanbarth (Lloegr): roedd yr ymatebwyr yn Llundain (60%) a Gogledd-orllewin Lloegr (61%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny yn Nwyrain Lloegr (50%).
  • Grŵp ethnig: roedd yr ymatebwyr gwyn (59%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB o gymharu â’r ymatebwyr Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (49%). (footnote 10)
  • Cyfrifoldeb dros goginio: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am goginio (59%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw’n coginio (41%).
  • Cyfrifoldeb dros siopa am fwyd: roedd yr ymatebwyr sy’n gyfrifol am siopa am fwyd (59%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (37%).
  • Ymwybyddiaeth o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB): roedd yr ymatebwyr a oedd wedi clywed am y CSHB ac a oedd yn gwybod llawer neu ychydig amdano (71%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn gwybod am yr ASB na’r rheiny a oedd wedi clywed am y CSHB ond nad oedden nhw’n gwybod llawer neu ddim byd amdano (35%) a’r rheiny nad oedden nhw wedi clywed am y cynllun (29%).

Ymddiriedaeth yn yr ASB

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ag o leiaf rywfaint o wybodaeth am yr ASB i ba raddau roedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, hynny yw sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label. Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (69%) eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith, nid oedd 26% o’r ymatebwyr yn ymddiried nac yn anymddiried yn yr ASB i wneud hyn, a dywedodd 2% o’r ymatebwyr nad oedden nhw’n ymddiried yn yr ASB i wneud hyn. (footnote 11)

Roedd ymddiriedaeth yn yr ASB yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol:

  • Grŵp oedran: roedd y rheiny rhwng 25 a 34 oed (76%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith na’r rheiny rhwng 35 a 44 oed (64%).
  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy, o 5 neu fwy o bobl (81%), yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn ymddiried yn yr ASB i wneud ei gwaith na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi o 2 (68%) neu 4 (67%).

Dywedodd y rhan fwyaf (78%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus y gellir dibynnu ar yr ASB (neu’r asiantaeth o’r llywodraeth sy’n gyfrifol am ddiogelwch bwyd) i ddiogelu’r cyhoedd rhag risgiau sy’n gysylltiedig â bwyd (fel gwenwyn bwyd neu adweithiau alergaidd a achosir gan fwyd). Roedd tua thri chwarter (76%) o’r ymatebwyr yn hyderus bod yr ASB yn cymryd camau priodol pe bai risg sy’n gysylltiedig â bwyd yn cael ei chanfod, ac roedd 70% yn hyderus bod yr ASB wedi ymrwymo i gyfathrebu’n agored â’r cyhoedd am risgiau sy’n ymwneud â bwyd. (footnote 12)