Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
research page

Bwyd a Chi 2, Cylch 9: Pennod 5 – Llwyfannau ar-lein

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddefnydd yr ymatebwyr o lwyfannau ar-lein, gan gynnwys pa mor aml mae pobl yn defnyddio llwyfannau ar-lein i brynu bwyd a diod, a’r mathau o fwyd a diod mae pobl yn eu harchebu.

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mai 2025

Cyflwyniad

Mae llwyfan gwerthu bwyd ar-lein yn fusnes technoleg sy’n hwyluso cyfnewid bwyd rhwng gwerthwyr a defnyddwyr. Rhaid i unrhyw fusnes sy’n gwerthu bwyd ar-lein, gan gynnwys busnesau dosbarthu bwyd, gael ei gofrestru fel busnes bwyd. (footnote 1)  Mae’r ASB yn darparu canllawiau ar gyfer busnesau bwyd sy’n defnyddio llwyfannau ar-lein. (footnote 2)  Bydd swyddog diogelwch bwyd o’r awdurdod lleol yn arolygu busnes i sicrhau ei fod yn dilyn cyfraith hylendid bwyd fel bod y bwyd yn ddiogel i’w fwyta. 

Mae Bwyd a Chi 2 yn gofyn i’r ymatebwyr am eu defnydd o wahanol fathau o lwyfannau ar-lein sy’n gwerthu bwyd, a’u profiadau ohonyn nhw. Gofynnwyd cwestiynau i ystod o lwyfannau ar-lein, fel busnesau bwyd a gwefannau dosbarthu bwyd, apiau rhannu bwyd, a marchnadoedd cyfryngau cymdeithasol. 

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o ddefnydd yr ymatebwyr o lwyfannau ar-lein, gan gynnwys pa mor aml mae pobl yn defnyddio llwyfannau ar-lein i brynu bwyd a diod, a’r mathau o fwyd a diod mae pobl yn eu harchebu.  Mae hefyd yn darparu gwybodaeth am ymwybyddiaeth pobl a’u defnydd o sgoriau hylendid bwyd a gwybodaeth am alergenau ar lwyfannau ar-lein. 

Pa lwyfannau ar-lein a ddefnyddir i archebu bwyd neu ddiod ar-lein?

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi a ydyn nhw erioed wedi archebu bwyd neu ddiod ar-lein trwy nifer o wahanol lwyfannau. Dywedodd chwech o bob deg o’r ymatebwyr (60%) eu bod wedi archebu bwyd neu ddiod o wefannau bwyty, siop tecawê neu gaffi; ac roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr (55%) wedi archebu gan gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats). Roedd tua thri o bob deg o’r ymatebwyr (27%) wedi archebu bwyd trwy farchnad ar-lein (er enghraifft Amazon, Gumtree, Etsy). Y llwyfannau a ddefnyddiwyd leiaf gan ymatebwyr oedd apiau rhannu bwyd (er enghraifft Olio, Too Good To Go) (17%) a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor) (7%) (Ffigur 16). (footnote 3)

Roedd y defnydd o farchnadoedd ar-lein (er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy) i archebu bwyd neu ddiod yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein o gymharu ag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 33% o’r rheiny 16-24 oed wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein o gymharu â’r rheiny 65-74 oed (13%) a’r rhai 75 oed a hŷn (7%). 
  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi llai. Er enghraifft, roedd 16% o’r rheiny sy’n byw mewn cartrefi 1 person wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein o gymharu â 34% o’r rheiny mewn cartrefi â 4 person a 34% o’r rheiny mewn cartrefi 5 person neu fwy.
  • Plant (dan 16 oed) yn y cartref:  roedd 34% o’r rheiny â phlant o dan 16 oed yn y cartref wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein o gymharu â 24% o’r rheiny heb blant o dan 16 oed.
  • Plant dan chwe blwydd oed yn y cartref: roedd 35% o’r rheiny â phlant o dan chwe oed yn y cartref wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein o gymharu â 26% o’r rheiny heb blant o dan chwe oed.
  • Incwm blynyddol y cartref: roedd yr ymatebwyr ag incwm llai na £19,000 (33%) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein na chartrefi ag incwm rhwng £32,000-£63,999 (25%). 
  • Diogeledd bwyd: roedd yr ymatebwyr yn y categorïau isel (40%) neu isel iawn (38%) o ran diogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein na’r rheiny â diogeledd bwyd ymylol (27%) neu uchel (23%). 
  • Cyfrifoldeb dros siopa: roedd y rheiny sy'n siopa am fwyd (28%) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o farchnad ar-lein na'r rheiny nad ydyn nhw byth yn siopa am fwyd (15%). 

Roedd defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebok, Instagram, Nextdoor) i archebu bwyd neu ddiod yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: roedd oedolion dan 45 oed yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod drwy’r cyfryngau cymdeithasol nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 15% o’r rheiny 25-34 oed a 12% o’r rheiny 35-44 oed wedi archebu bwyd neu ddiod drwy’r cyfryngau cymdeithasol o gymharu â 2% o bobl 75 oed neu hŷn. 
  • Diogeledd bwyd: roedd y rhai â lefelau is o ddiogeledd bwyd yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o’r cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, roedd 20% o’r rheiny â diogelwch bwyd isel iawn wedi archebu bwyd neu ddiod o’r cyfryngau cymdeithasol o gymharu â 4% o’r rheiny â diogelwch bwyd uchel.  

Roedd defnyddio apiau rhannu bwyd (er enghraifft Olio, Too Good To Go) i archebu bwyd neu ddiod yn amrywio rhwng gwahanol gategorïau o bobl yn y ffyrdd canlynol: 

  • Grŵp oedran: roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd nag oedolion hŷn. Er enghraifft, roedd 27% o oedolion 16-24 oed wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd o gymharu â 6% o bobl 75 oed neu hŷn. 
  • Maint y cartref: roedd yr ymatebwyr a oedd yn byw mewn cartrefi mwy yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o ap rhannu bwyd na’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi llai. Er enghraifft, roedd 32% o’r rheiny a oedd yn byw mewn cartrefi 5 person neu fwy wedi archebu bwyd neu ddiod o ap rhannu bwyd o gymharu ag 9% o’r rheiny mewn cartrefi 1 person. 
  • NS-SEC: roedd yr ymatebwyr a oedd yn ddi-waith dros gyfnod hir a/neu nad oeddent erioed wedi gweithio (27%) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod o ap rhannu bwyd na’r rhai mewn galwedigaethau (er enghraifft, 12% mewn galwedigaethau canolradd a 10% mewn galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is).
  • Diogeledd bwyd: roedd y rheiny â diogeledd bwyd ymylol (20%), isel (23%) ac isel iawn (27%) yn fwy tebygol o fod wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ap rhannu bwyd na’r rheiny â diogeledd bwyd uchel (13%). 

Ffigur 16. Y llwyfannau y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod ar-lein.

Ffigur 16. Y llwyfannau y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod ar-lein.
Column1 Na Ie
Cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor 93 7
Ap rhannu bwyd, er enghraifft, Olio neu Too Good To Go 83 17
Marchnad ar-lein, er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy 73 27
Cwmni archebu a dosbarthu ar-lein, er enghraifft, Just Eat, Deliveroo neu Uber Eats 45 55
Gwefan bwyty, caffi neu siop tecawê ei hun 40 60

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Beth mae unigolion yn ei archebu ar-lein o wefan bwyty, siop tecawê neu gaffi?

Roedd yr ymatebwyr a archebodd fwyd neu ddiod o wefan bwyty, siop tecawê neu gaffi yn fwyaf tebygol o archebu prydau neu fyrbrydau wedi’u coginio a’u paratoi (90%), nwyddau wedi’u pobi a phwdinau (19%) ac ysgytlaeth/hufen iâ (14%). (footnote 4) Yn yr un modd, roedd y rheiny a archebodd fwyd neu ddiod gan gwmni archebu a dosbarthu ar-lein yn fwyaf tebygol o archebu prydau neu fyrbrydau wedi’u coginio a’u paratoi (93%), nwyddau wedi’u pobi a phwdinau (19%) ac ysgytlaeth/hufen iâ (19%).  (footnote 5)

Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod trwy lwyfannau ar-lein?

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi archebu bwyd neu ddiod trwy ystod o lwyfannau ar-lein pa mor aml yr oedden nhw’n archebu bwyd neu ddiod trwy’r llwyfan hwnnw. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod o bob math o lwyfannau ar-lein 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml, gyda lleiafrif yn defnyddio’r mathau hyn o lwyfannau tua unwaith yr wythnos neu’n amlach.  Er enghraifft, roedd un rhan o bump (21%) o’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod trwy gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft, Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) tua unwaith yr wythnos neu’n amlach, ac roedd 74% o’r ymatebwyr yn gwneud hyn tua 2-3 gwaith y mis neu’n llai aml.  Dywedodd bron i hanner (46%) yr ymatebwyr nad oedden nhw’n gallu cofio pa mor aml yr oedden nhw’n archebu bwyd neu ddiod o lwyfan cyfryngau cymdeithasol (er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor) (Ffigur 17). (footnote 6)

Ffigur 17. Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod trwy wahanol lwyfannau ar-lein.

Ffigur 17. Pa mor aml y mae’r ymatebwyr yn archebu bwyd neu ddiod trwy wahanol lwyfannau ar-lein.
Column1 Tua unwaith yr wythnos neu'n amlach 2-3 gwaith y mis neu lai aml
Cyfryngau cymdeithasol, er enghraifft, Facebook, Instagram, Nextdoor 11 43
Ap rhannu bwyd, er enghraifft, Olio neu Too Good To Go 7 78
Marchnad ar-lein, er enghraifft, Amazon, Gumtree, Etsy 7 76
Gwefan bwyty, caffi neu siop tecawê ei hun 14 79
Cwmni archebu a dosbarthu ar-lein, er enghraifft, Just Eat, Deliveroo neu Uber Eats 21 74

Lawrlwytho’r siart hon

Ffynhonnell: Bwyd a Chi 2: Cylch 9

Defnydd o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar lwyfannau ar-lein

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus o ran ble i fwyta allan neu siopa am fwyd trwy roi gwybodaeth glir am safonau hylendid busnesau. Mae busnesau’n cael sgôr o 0 i 5. Mae sgôr o 5 yn dangos bod y safonau hylendid yn dda iawn ac mae sgôr o 0 yn dangos bod angen gwella ar frys. Mae’r ASB yn rhoi’r cynllun ar waith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd wedi archebu bwyd neu ddiod trwy lwyfan ar-lein ac a oedd wedi clywed am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd pa mor aml yr oedden nhw’n edrych am sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth archebu bwyd a diod ar-lein. Roedd bron i hanner yr ymatebwyr (47%) yn chwilio am sgoriau’r CSHB  ‘bob amser’ neu ‘y rhan fwyaf o’r amser’. Roedd 30% o’r ymatebwyr yn gwneud hyn tua hanner yr amser neu’n achlysurol, ac nid oedd 21% o’r ymatebwyr byth yn chwilio am sgôr hylendid wrth archebu bwyd a diod ar-lein. (footnote 7)

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a ddywedodd eu bod yn chwilio am sgoriau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wrth archebu bwyd neu ddiod ar-lein pa mor aml oedd y sgoriau’n hawdd eu canfod. Dywedodd hanner yr ymatebwyr (50$%) fod y sgoriau ‘bob amser’ neu’r ‘rhan fwyaf o’r amser’ yn hawdd eu canfod; dywedodd 38% fod y sgoriau’n hawdd eu canfod tua hanner yr amser neu’n achlysurol; a dywedodd 4% nad oedd y sgoriau byth yn hawdd eu canfod. (footnote 8)

Gorsensitifrwydd i fwyd a defnyddio llwyfannau ar-lein

Gofynnwyd i’r ymatebwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd, a/neu sy’n byw gyda rhywun â gorsensitifrwydd i fwyd, pa mor aml y maen nhw’n chwilio am wybodaeth sy’n eu galluogi i nodi bwyd a allai achosi adwaith gwael neu annymunol wrth archebu bwyd neu ddiod ar-lein. O’r rheiny, roedd un o bob pump (20%) o’r ymatebwyr yn dweud eu bod bob amser yn chwilio am wybodaeth a fyddai'n eu galluogi i nodi bwyd a allai achosi iddyn nhw gael adwaith gwael neu annymunol, ac roedd 40% o’r ymatebwyr yn chwilio am yr wybodaeth hon yn llai aml (hynny yw, y rhan fwyaf o’r amser, tua hanner yr amser, yn achlysurol). Fodd bynnag, dywedodd 36% nad oeddent byth yn chwilio am wybodaeth a fyddai'n eu galluogi i nodi bwyd a allai achosi adwaith gwael neu annymunol wrth archebu bwyd neu ddiod ar-lein. (footnote 9) 

O’r ymatebwyr hynny sy’n chwilio am wybodaeth ar-lein sy’n eu galluogi i osgoi bwyd a allai achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol, dywedodd hanner (48%) ei bod bob amser, neu’r rhan fwyaf o’r amser, yn hawdd dod o hyd i’r wybodaeth hon. Dywedodd 30% ei bod yn hawdd dod o hyd i’r wybodaeth hon weithiau neu nad oedd byth yn hawdd dod o hyd iddi. (footnote 10) O’r rheiny sy’n dod o hyd i wybodaeth am alergenau wrth chwilio am hyn ar-lein, dywedodd chwech o bob deg (60%) fod yr wybodaeth hon bob amser neu’r rhan fwyaf o’r amser yn hawdd ei deall. (footnote 11)