Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Prosiect ymchwil

Bwyd a Chi 2 – Cylch 3

Ymchwil o Bwyd a Chi 2: Cylch 3

Cyflwyniad

Mae Bwyd a Chi 2 yn arolwg a gynhelir ddwywaith y flwyddyn i fesur yr wybodaeth, yr agweddau a’r ymddygiadau o ran diogelwch bwyd a materion bwyd eraill ymhlith oedolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, fel y’u cofnodir gan y defnyddwyr eu hunain.

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar-lein gan ddefnyddio methodoleg ‘gwthio i’r we’ (push to web).

Cynhaliwyd gwaith maes rhwng 28 Ebrill  2021 a 25 Mehefin 2021. Cwblhawyd yr arolwg gan gyfanswm o 6,271 o oedolion o 4,338 o gartrefi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae’r pynciau a gwmpesir gan adroddiad canfyddiadau Bwyd a Chi 2: Cylch 3 yn cynnwys:

  • Hyder mewn diogelwch bwyd, dilysrwydd bwyd, a’r gadwyn cyflenwi bwyd  
  • Pryderon am fwyd  
  • Mynediad at gyflenwad bwyd sicr
  • Siopa am fwyd a labelu bwyd 
  • Llwyfannau ar-lein 
  • Ymddygiadau sy'n gysylltiedig â bwyd ac arferion bwyta 

Prif ganfyddiadau

Prif ganfyddiadau adroddiad Bwyd a Chi 2: Cylch 3:

  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (90%) eu bod yn hyderus bod y bwyd maen nhw’n ei brynu yn ddiogel i'w fwyta
  • Dywedodd mwy nag o 8 o bob 10 (83%) o’r ymatebwyr eu bod yn hyderus bod yr wybodaeth ar labeli bwyd yn gywir
  • Dywedodd bron i dri chwarter o’r ymatebwyr (73%) fod ganddyn nhw hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd
  • Dywedodd tri chwarter (75%) o’r ymatebwyr a oedd yn gwybod o leiaf rywfaint am yr ASB eu bod yn ymddiried ynddi i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label
  • Nid oedd gan y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (80%) unrhyw bryderon am y bwyd maen nhw’n ei fwyta, a dim ond 20% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod ganddyn nhw bryder. Roedd y pryderon mwyaf cyffredin, a ddewiswyd o restr o faterion sy’n gysylltiedig â bwyd, yn ymwneud â faint o siwgr sydd mewn bwyd (63%), a gwastraff bwyd (61%).
  • Ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, cafodd 85% o'r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â chyflenwad bwyd sicr (72% sicrwydd uchel, 13% sicrwydd ymylol) a chafodd 15% o'r ymatebwyr eu dosbarthu fel pobl â chyflenwad bwyd ansicr (9% ansicr, 6% ansicr iawn)
  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr eu bod nhw’n gwirio’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ (84%) neu’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ (82%) yn aml wrth brynu bwyd.
  • Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr (83%) sy’n siopa am fwyd gan ystyried rhywun ag alergedd neu anoddefiad bwyd yn hyderus bod yr wybodaeth a ddarperir ar labeli bwyd yn eu galluogi i nodi bwydydd a fydd yn achosi adwaith corfforol gwael neu annymunol
  • Roedd tua hanner (52%) yr ymatebwyr wedi archebu bwyd neu ddiod trwy gwmni archebu a dosbarthu ar-lein (er enghraifft Just Eat, Deliveroo, Uber Eats) ac roedd 30% wedi archebu trwy farchnad ar-lein (er enghraifft Amazon, Gumtree, Etsy)
  • Roedd arferion bwyta y rhan fwyaf o’r ymatebwyr wedi newid yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda dim ond 19% o'r ymatebwyr yn dweud nad oedd eu harferion bwyta wedi newid o gwbl

Adroddiadau ymchwil

Tablau data

Mae tablau canlyniadau ar gyfer adroddiad Bwyd a Chi 2 ar gael yn ein catalog data.