Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Telerau ac amodau

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mehefin 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Mehefin 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Cynhelir gwefannau'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i'w defnyddio gennych chi. Mae mynediad a defnydd o'r safleoedd hyn yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn. Mae hyn yn cynnwys datganiad preifatrwydd, gwybodaeth am gwcis, datganiad hawlfraint, ymwadiad a pholisi hypergysylltu.

Cysylltu â'n gwefannau ac o'n gwefannau

Hyperddolenni i wefannau'r Asiantaeth Safonau Bwyd

Rydym yn annog defnyddwyr i greu hyperddolenni i'r wefan. Nid oes rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â thudalennau a gynhelir ar y wefan. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu'n uniongyrchol â'n gwybodaeth, ond dylech gael caniatâd os ydych chi'n bwriadu defnyddio ein logo.

Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho mewn fframiau ar eich gwefan. Rhaid i dudalennau'r Asiantaeth Safonau Bwyd lwytho mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr.

Ein hyperddolenni ni yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau allanol, ac nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo'r safbwyntiau a fynegir arnynt. Ni ddylid ystyried dolenni i safleoedd allanol fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy'r amser ac ni allwn ni reoli p'un a yw'r tudalennau cysylltiedig ar gael ai peidio.

Rhaid i chi gael caniatâd os ydych chi'n bwriadu defnyddio ein logo. Ni chaniateir copïo a defnyddio logo'r ASB na logos eraill yr ASB heb gymeradwyaeth yr ASB.

Defnyddio cynnwys food.gov.uk

Mae'r deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron, oni nodir yn wahanol.

© Hawlfraint y Goron

Defnyddio gwybodaeth a gwasanaethau sgorio hylendid bwyd

Mae defnyddio gwybodaeth a gwasanaethau perchenogol am sgoriau hylendid bwyd yn destun telerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.

Mae'r sgoriau yn destun newid gan eu bod yn cael eu diweddaru'n rheolaidd i adlewyrchu'r safonau a ddarganfyddir pan fo busnes yn cael ei arolygu gan swyddog diogelwch bwyd awdurdod lleol. Caiff defnyddwyr eu hatgoffa bod arddangos neu ddefnyddio sgôr annilys neu anghywir yn gallu bod yn dramgwydd troseddol a/neu yn gallu golygu bod y defnyddiwr yn agored i atebolrwydd sifil posibl. Cyfrifoldeb defnyddwyr yw sicrhau bod y sgôr gyfredol yn cael ei defnyddio neu i nodi'r dyddiad pan ddiweddarwyd yr wybodaeth.

Mae delweddau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) a logo'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (y “Delweddau”) yn cael eu gwarchod gan nodau masnach cofrestredig y Deyrnas Unedig (DU) a hawliau eiddo deallusol eraill, ac mae'r ASB yn berchen arnynt ac yn eu rheoli. 

Er mwyn sicrhau nad yw'r cyhoedd yn cael eu drysu na'u camarwain, rhaid dilyn y rheolau isod bob amser pryd bynnag y defnyddir y Delweddau mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys ar: sticeri a phosteri mewn safleoedd, bwydlenni print, taflenni, y cyfryngau cymdeithasu, gwefannau ac unrhyw lwyfannau electronig neu unrhyw weithgarwch a deunydd hyrwyddo arall.

  • Ni ddylid newid na diwygio’r Delweddau heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer unrhyw newid gan yr ASB trwy gysylltu â HygieneRatings@food.gov.uk.
  • Mae enw’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a logo'r ASB yn rhan annatod o ddyluniad y Delweddau. Gellir eu defnyddio yn y cyd-destun hwn, ond ni ddylid eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer defnydd arall o'r fath gan y Tîm Sgoriau Hylendid Bwyd trwy gysylltu â HygieneRatings@food.gov.uk
  • Ni ddylid cyflwyno'r Delweddau mewn unrhyw weithgarwch na deunyddiau hyrwyddo mewn unrhyw fodd a allai awgrymu  bod yr ASB yn hyrwyddo unrhyw fusnes bwyd unigol, cadwyn o fusnesau bwyd, gwefan, adnodd ar-lein neu weithgarwch arall. Dim ond y sgôr go iawn a ddyfarnwyd o dan y Cynllun Sgorio y gellir ei defnyddio. Pe bai sgôr unrhyw fusnes bwyd yn newid mewn arolygiad dilynol, dim ond delweddau o'r sgôr newydd y gellir eu defnyddio a rhaid diweddaru neu dynnu unrhyw ddelweddau o sgoriau blaenorol ar unwaith o'r holl weithgarwch hyrwyddo a’r deunyddiau y maent yn ymddangos ynddynt.
  • Gall yr ASB roi caniatâd, dynnu caniatâd neu roi amodau ar gyfer unrhyw un o'r uchod yn ôl ei disgresiwn llwyr. Cedwir pob hawl arall yn llawn.

Trwy lawrlwytho a/neu ddefnyddio'r Delweddau, mae pob busnes bwyd yn derbyn ac yn cytuno i gydymffurfio'n llawn â'r rheolau hyn.

Mae sticeri’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd sy'n ymgorffori'r Delweddau yn destun i'r holl reolau uchod, ond dim ond awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r cynllun sy'n eu dyfarnu. Rhaid peidio â chaffael sticeri o unrhyw ffynhonnell arall, ac ni ddylai unrhyw ffynhonnell heb awdurdod gynhyrchu'r sticeri.

Mae arddangos neu ddefnyddio sgôr annilys mewn unrhyw weithgarwch neu ddeunydd hyrwyddo yn torri'r rheolau uchod a hawliau'r ASB. Os torrir y rheolau uchod a/neu hawliau eiddo deallusol yr ASB, gall yr ASB fynnu bod unrhyw ddefnydd o'r Delweddau yn dod i ben ar unwaith heb gyfyngu ar rwymedïau cyfreithiol eraill yr ASB.

Gall hefyd fod yn drosedd o dan ddeddfwriaeth safonau masnachu, er enghraifft o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Yng Nghymru, mae'n drosedd o dan Ddeddf Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'n drosedd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016. 

Ymwadiad

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn gywir ac yn gyfoes, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb cyfreithiol am unrhyw wallau, hepgoriadau neu ddatganiadau camarweiniol.

Polisi'r ASB yw cael caniatâd i gysylltu â gwefannau eraill, a chaiff dolenni cyd-destunol eu darparu i safleoedd o'r fath lle bo'n briodol i fusnes yr ASB. Nid yw'r ASB yn gyfrifol am wybodaeth ar safleoedd nad yw'n eu rheoli, ac ni all warantu cywirdeb yr wybodaeth hon; ac ni ddylid ystyried bod cynnwys hyperddolen ar ei gwefan yn golygu bod yr ASB yn cymeradwyo'r safle y mae'n cyfeirio ato.

Defnyddio ein blogiau a'n rhwydweithiau cymdeithasol

Mae'r rhain yn rheolau safonol am bostio sylwadau ar ein blog, ein cyfrif Twitter a'n rhwydweithiau cymdeithasol. Lluniwyd y rheolau i sicrhau bod pawb sy'n cyfrannu yn teimlo'n ddiogel, yn awyddus i gymryd rhan eto ac er mwyn cadw at ei ffocws.

  • Dylai'r drafodaeth fod yn fywiog ond hefyd yn adeiladol ac yn barchus.
  • Peidiwch ac annog casineb ar sail hil, crefydd, rhyw, cenedligrwydd neu rywioldeb neu nodwedd bersonol arall.
  • Peidiwch â rhegi, defnyddio iaith ymosodol neu wneud sylwadau anweddus neu ddi-chwaeth.
  • Peidiwch â thorri'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys enllib, cymeradwyo gweithgarwch anghyfreithlon a dirmygu'r llys (contempt of court) (sylwadau a allai effeithio ar ganlyniad achos llys sydd ar y gweill).
  • Peidiwch â chymryd rhan mewn 'sbamio'. Peidiwch â hysbysebu cynhyrchion na wasanaethau.
  • Os ydych chi o dan 16 oed, cofiwch geisio caniatâd rhiant neu warcheidwad cyn gadael unrhyw sylwadau ar y blog hwn.
  • Peidiwch â dynwared neu honni'n gamarweiniol i gynrychioli person neu sefydliad.
  • Peidiwch â phostio mewn iaith ar wahân i Gymraeg neu Saesneg.
  • Cofiwch ddiogelu eich preifatrwydd chi a phobl eraill. Peidiwch â phostio cyfeiriadau preifat, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost na fanylion cyswllt eraill ar-lein.
  • Glynwch at y pwnc. Peidiwch â phostio negeseuon nad ydynt yn gysylltiedig â'r pwnc.

Caiff sylwadau ar ein blog eu cymedroli cyn iddynt fynd yn fyw. Bydd y sylwadau'n mynd yn fyw cyn gynted ag y bo modd o fewn cyfnod o 48 awr. Os bydd sylw'n mynd yn groes i'r rheolau trafod, ni fydd yn cael ei gyhoeddi a bydd yn cael ei dynnu o'r blog.

Ymwadiad cynnwys

Mae'r safbwyntiau a fynegir gan awduron (neu 'flogwyr') yn perthyn iddyn nhw yn unig ac nid ydynt yn cynrychioli barn yr ASB.

Hawlfraint a hawliau cyfagos

Chi'n sy'n berchen ar yr hawlfraint wrth bostio negeseuon, erthyglau a lluniau. Fodd bynnag, rydych chi hefyd yn cytuno i roi hawl a thrwydded isdrwyddedadwy parhaol, di-freindal, anghyfyngedig i'r ASB i ddefnyddio, atgynhyrchu, addasu, cyhoeddi, cyfieithu, defnyddio i greu gwaith deilliadol, dosbarthu, perfformio, chwarae ac arfer pob hawl hawlfraint a chyhoeddusrwydd mewn perthynas â gwaith o'r fath ledled y byd a/neu ei ymgorffori mewn gwaith arall mewn unrhyw gyfryngau sy'n bodoli nawr neu a ddatblygir yn hwyrach ar gyfer tymor llawn unrhyw hawliau a all fodoli mewn cynnwys o'r fath. Os nad ydych am roi hawliau o'r fath i'r ASB, rydym ni'n awgrymu nad ydych yn cyflwyno'ch sylw i'r wefan hon.

Dylech gofio eich bod yn gyfreithiol gyfrifol am yr hyn rydych chi'n ei ysgrifennu. Trwy gyflwyno sylwadau, rydych chi'n ymgymryd i indemnio'r ASB yn erbyn unrhyw atebolrwydd sy'n deillio o dorri cyfrinachedd neu hawlfraint, neu unrhyw ddatganiad anweddus, difenwol (defamatory), twyllodrus, cableddus neu ddatganiad enllibus arall y gallech ei wneud.

Diogelu rhag feirysau

Mae gweithredwyr y safle yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam cynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i ddefnyddwyr redeg rhaglen gwrth feirws ar yr holl ddeunydd sy'n cael ei lawrlwytho o'r rhyngrwyd.

Ni all yr ASB dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd o wefan yr ASB.

Eich preifatrwydd a chwcis

Sut yr ydym ni'n trin eich data personol

Sut rydym ni'n defnyddio cwcis a sut y gallwch chi eu rheoli.