Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Argymhelliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd i asesu’r system rheoli diogelwch bwyd yng Ngwlad Pwyl

Argymhelliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) i asesu’r modd y caiff Salmonela ei ganfod a’i reoli mewn cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod sy’n cael eu hallforio o Wlad Pwyl i’r DU.

Cefndir

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r DU wedi gweld cynnydd yn nifer yr hysbysiadau gan System Rhybuddio Cyflym yr UE ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid mewn perthynas â Salmonela a ganfuwyd mewn cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod Pwylaidd a oedd wedi’u hallforio i’r DU. Mae’r hysbysiadau hyn yn mynnu bod yn rhaid i weithredwyr busnesau bwyd ac awdurdodau bwyd yn y DU gynnal ymyriadau diogelwch bwyd fel tynnu a/neu alw cynhyrchion yn ôl, sy’n faich sylweddol ar yr awdurdodau hynny a’r diwydiant bwyd.

Drwy ymchwiliadau, cyfarfodydd ag awdurdodau Pwylaidd, a gwaith gyda’r diwydiant, nodwyd pryderon ynghylch gallu Gwlad Pwyl i ganfod Salmonela mewn cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod, ac, ar ôl ei ganfod, reoli’r pathogen yn briodol.

Cyflwynwyd camau unioni a gwell rheolaethau gan awdurdodau Gwlad Pwyl i sicrhau na fyddai modd allforio cynhyrchion dofednod anniogel i’r DU. Mae tystiolaeth ddiweddar yn dangos bod y sefyllfa’n gwella, er nad yw wedi’i datrys yn llawn.

Argymhelliad yr ASB – mis Ebrill 2023

Mae’r ASB yn argymell archwiliad i asesu’r system rheoli diogelwch bwyd yng Ngwlad Pwyl a gwirio’r trefniadau ar gyfer gweithredu camau unioni hanesyddol ac arfaethedig. Diben hyn fydd sicrhau bod digon o fesurau diogelu iechyd ar waith ar gyfer defnyddwyr yn y DU mewn perthynas â mewnforion cig dofednod a chynhyrchion cig dofednod sy’n tarddu o Wlad Pwyl.