Awdurdodau lleol
Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol yn y DU i helpu i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn onest. Mae gennym gytundebau a phrotocolau ar waith i gefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith a rhoi arweiniad i esbonio’r rheoliadau a sut y gellir eu cymhwyso i fusnesau bwyd.
Dewch o hyd i Godau Ymarfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid
Cysylltwch â thîm diogelwch bwyd lleol
Hwyluso Cyfathrebu yr ASB
Fel rhan o ddatblyg’r ffordd yr ydym ni’n cyfathrebu gydag awdurdodau lleol yn barhaus, ac yn darparu adnoddau iddynt er mwyn cyflawni eu rolau’n effeithiol, rydym ni wedi creu llwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB; llwyfan i alluogi cyfathrebu, cydweithio ac adnoddau sydd wedi’u targedu at swyddogion awdurdodau lleol sy’n gweithio ym meysydd gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid.
Y llwyfan hwn fydd y prif borth i awdurdodau lleol ddod o hyd i adnoddau fel ffurflenni, templedi, pecynnau cymorth a chanllawiau. Bydd swyddogion hefyd yn gallu dewis pa fath o gyfathrebiadau maen nhw’n ei dderbyn gennym ni a pha mor aml.
I ddefnyddio llwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB mae angen i chi greu cyfrif. Dylai swyddogion awdurdodau lleol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost gwaith swyddogol er mwyn cael mynediad ar unwaith; bydd rhanddeiliaid â diddordeb angen cael cymeradwyaeth gan weinyddwr y system. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Hwyluso Cyfathrebu'r ASB.
Gallwch weld yr archif o lythyrau gorfodi a anfonwyd gennym at awdurdodau lleol yn yr Archifau Cenedlaethol.
Cefnogi awdurdodau lleol
Rydym yn darparu canllawiau a fframweithiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson wrth orfodi’r cyfreithiau perthnasol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae'r rhain yn cynnwys Codau Ymarfer, Cytundebau Fframwaith a Chanllawiau Ymarfer.
Cytundeb Fframwaith
Mae’r Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol (Saesneg yn unig) yn rhoi ffordd i ni arfer ein pwerau o dan y Ddeddf Safonau Bwyd er mwyn dylanwadu ar weithgarwch gorfodi awdurdodau lleol a’i oruchwylio.
Mae’r Cytundeb yn nodi manylion am y canlynol:
- cynlluniau gwasanaethau lleol sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn cynyddu tryloywder gwasanaethau gorfodi lleol
- safonau gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid y cytunwyd arnynt ar gyfer awdurdodau lleol
- camau monitro data gwell gyda mwy o ffocws ar ganlyniadau arolygiadau ac sy’n rhoi gwybodaeth fanylach ar berfformiad awdurdodau lleol
- cynllun archwilio gyda'r nod o sicrhau gwelliannau a rhannu arfer da
Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol
Mae’r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol ar gyfer bwyd anifeiliaid ac ar gyfer hylendid bwyd ar lefel cynhyrchu cynradd yn cael eu datblygu’n flynyddol mewn ymgynghoriad â’r canlynol:
- cynrychiolwyr awdurdod lleol
- Safonau Masnach Cenedlaethol
- arweinwyr bwyd anifeiliaid rhanbarthol
- Panel Amaethyddiaeth Cenedlaethol
- Aelodau Panel Cenedlaethol Bwyd Anifeiliaid mewn Porthladdoedd
Mae ymgorffori’r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol i raglen o reolaethau swyddogol yn helpu i gynnal gwelliannau o ran lefelau cydymffurfio gan weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid drwy orfodi ar sail gwybodaeth. Nod hyn yw:
- cynnal cydraddoldeb ar gyfer busnesau onest a diwyd, sydd er budd y diwydiant bwyd anifeiliaid yn ei gyfanrwydd
- lleihau beichiau diangen ar fusnesau drwy ganolbwyntio gweithgarwch awdurdodau lleol ar feysydd cytunedig sy’n peri’r bygythiad mwyaf i iechyd pobl a/neu iechyd anifeiliaid
- creu dull ymyrryd hyblyg ac effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth, tra’n cynnal lefelau priodol o fonitro cydymffurfiaeth ledled Cymru a Lloegr
- gwireddu ein nod strategol o ‘Fwyd y Gallwn Ymddiried Ynddo’
- gwella ansawdd a chysondeb rheolaethau swyddogol ledled Cymru a Lloegr
- diogelu iechyd anifeiliaid a/neu iechyd y cyhoedd
Deunyddiau canllaw ategol ar gyfer swyddogion gorfodi
Yn ogystal â’r Cod Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer, rydym yn cyhoeddi dogfennau canllaw annibynnol ar amrywiaeth o bynciau. Yn aml, mae hyn o ganlyniad i reoliadau newydd yn dod i rym, datblygiad mewn polisi neu mewn ymateb i ddigwyddiad.
Mae’r Canllaw ar Gyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (diweddarwyd Ionawr 2018) yn cyfeirio at ddeddfwriaeth labelu bwyd a chyfansoddiad bwyd yng Nghymru. Mae hefyd yn amlinellu sut mae'r cyfrifoldeb am gyfraith bwyd yn y DU wedi'i rannu, diweddariadau ar ddeddfwriaeth sydd wedi'i diwygio, deddfwriaeth sydd ar y gweill a deddfwriaeth sydd wedi'i chanslo.
Hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi
Rydym ni’n darparu hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi ar nifer o wahanol bynciau gan gynnwys:
- samplu
- labelu
- diogelwch bwyd
- hylendid a safonau
- diogelwch bwyd anifeiliaid
- gallu i olrhain
Mae dolenni i ddeunyddiau hyfforddi a chyrsiau ar-lein ar gyfer swyddogion gorfodi ar gael drwy lwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB, ein porth adnoddau a chyfathrebu ar gyfer awdurdodau lleol.
Monitro gweithgarwch awdurdodau lleol
Fel rheoleiddiwr, mae angen i ni fonitro’r hyn mae awdurdodau lleol yn ei ddarganfod yn ystod eu gweithgareddau gorfodi. Bob blwyddyn, mae awdurdodau lleol yn uwchlwytho data a gynhyrchir drwy eu systemau i’n platfform ar-lein o’r enw LAEMS (System Monitro Gorfodi Awdurdodau Lleol).
Yna mae’r data sy’n cael ei lanlwytho i LAEMS yn cael ei gyfuno a’i rannu’n gategorïau fel ymyriadau, samplu a gorfodi. Unwaith mae’r data wedi’u cadarnhau yna gellir eu gwerthuso a’u cyhoeddi.
System Monitro Gorfodi Awdurdodau Lleol – data
Mis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020
Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Adroddiad blynyddol ar orfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol 2019-2020
- Data hylendid bwyd 2019-2020
- Data safonau bwyd 2019-2020
- Data samplu 2019-2020
Mis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019
Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Adroddiad blynyddol ar orfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol 2018-2019
- Data hylendid bwyd 2018-2019
- Data safonau bwyd 2018-2019
- Data samplu 2018-2019
Mis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018
Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Adroddiad blynyddol ar orfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol 2017-2018
- Ffeithlun gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol 2017-2018
- Data hylendid bwyd 2017-2018
- Data safonau bwyd 2017-2018
- Data samplu 2017-2018
Mis Ebrill 2016 i fis Mawrth 2017
Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Adroddiad blynyddol ar orfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol 2016-2017
- Ffeithlun gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol 2016-2017
- Data diogelwch bwyd 2016-1017
- Data safonau bwyd 2016-2017
- Data samplu 2016-2017
Mae adroddiadau o flynyddoedd cynharach ar gael ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.
Cymru
Mae’r Llawlyfr Safonau Bwyd yn cyfeirio at ddeddfwriaeth labelu bwyd a chyfansoddiad bwyd yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys dolenni defnyddiol i ddeddfwriaeth a nodiadau canllawiau. Nod y llawlyfr hwn yw helpu swyddogion diogelwch bwyd i ddod yn fwy cyfarwydd â deddfwriaeth safonau bwyd a'r canllawiau cysylltiedig. Dylai’r llawlyfr roi trosolwg o gamau gweithredu ymarferol deddfwriaeth safonau bwyd, gorfodi’r ddeddfwriaeth a galluogi swyddogion i nodi ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol.
Hanes diwygio
Published: 7 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2022