Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Beca Lyne-Pirkis - aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Mae Beca yn ysgrifennwr bwyd, cogydd, darlledwr ac awdur Cymreig. Fe’i ganwyd a’i magwyd yng Nghaerdydd gyda theulu ffermio yng Ngorllewin Cymru, ar ôl graddio yn 2005 symudodd i Lundain i weithio o fewn y sector celfyddydau a'r sector elusennol. Mae hi'n wraig filwrol falch i'w gŵr Matthew ac yn fam i ddwy ferch ifanc. 

Ers cyrraedd y rownd derfynol ar The Great British Bake Off yn 2013, mae Beca wedi cael ei chyfres goginio ei hun ar S4C Becws a Bwyd Parti Beca, ac mae'n ymddangos yn rheolaidd ar Radio Cymru a BBC Radio Wales yn trafod amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud â bwyd. 

Mae Beca yn gogydd ymgynghorol yn Borough Market yn Llundain lle mae hi’n arwain arddangosiadau coginio yn ogystal ag ysgrifennu cynnwys a ryseitiau ar gyfer gwefan a chylchgrawn y farchnad.  

Yn ddiweddar, mae hi wedi mynd yn ôl i'r brifysgol i astudio Maeth Dynol a Dieteg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac os nad oedd bywyd eisoes yn ddigon prysur, mae Beca hefyd yn mwynhau cymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n rhoi prawf ar wytnwch corfforol ac wedi cwblhau saith marathon hyd yn hyn yn ogystal ag ‘ultra-marathon’.

Buddiannau personol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Cogydd Ymgynghorol Marchnad Bwrdeistref Llundain
  • Cennad Pwysau Iach: Cymru Iach, Ymgyrch Llywodraeth Cymru
  • Cogydd, Darlledwr ac Ysgrifennydd Bwyd hunangyflogedig
  • Wedi ysgrifennu, tynnu lluniau a ffilmio nifer o ryseitiau er mwyn hyrwyddo bwyd môr Cymru trwy’r ymgyrch ‘Porth i’r Plât’
  • Aelod Bwrdd BDA (Cymdeithas Ddeieteg Prydain) dros Gymru

Gwaith am ffi

  • Awdur Cyhoeddedig gyda Gwasg Gomer (Llyfr Coginio dwyieithog ac wrthi'n cynllunio ail lyfr)

Cyfranddaliadau

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Myfyriwr Maetheg a Dieteteg llawn amser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

Cymrodoriaethau

  • Dim


Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriedolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim