Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cofnodion cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 11 Mai 2023

Penodol i Gymru

Cyfarfod hybrid â thema - Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau

Yn bresennol:

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol:

  • Peter Price, Cadeirydd
  • Alan Gardner
  • Dr Philip Hollington
  • Christopher Brereton OBE
  • Helen Taylor
  • Georgia Taylor
  • Dr John Williams

Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:

  • Anjali Juneja – Cyfarwyddwr Materion Rhyngwladol a’r Deyrnas Unedig
  • Nathan Barnhouse – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
  • Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
  • Lucy Edwards – Rheolwr Busnes
  • Jonathan Davies – Pennaeth Polisi Safonau a Diogelu Defnyddwyr 
  • Nathan Harvey – Pennaeth Diogelu Defnyddwyr

Arsylwyr:

  • Cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 
  • Cynrychiolwyr o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
    Cynrychiolwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin
    Cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru
    Cynrychiolwyr o Gydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol

Cyflwynwyr:

  • Helen John – Llywodraeth Cymru
  • Jane Clark – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Milfeddygol yr ASB
  • Owen Lewis – Pennaeth Polisi a’r Bartneriaeth ag Awdurdodau Lleol

1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a chofnodion y cyfarfod diwethaf

1.1  Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nodwyd ymddiheuriadau gan Jessica Williams. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod mis Chwefror 2023.

2. Datgan buddiannau

2.1 Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

3. Trosolwg o’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM)

3.1  Cyd-destun Cymru

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Helen John o Lywodraeth Cymru, yn rhoi trosolwg o’r BTOM a sut mae’n effeithio ar Gymru a’r tri phorthladd fferi yng Nghaergybi, Abergwaun a Phenfro. Roedd yn manylu ar y system seiliedig ar risg ar gyfer nwyddau a fewnforir a lefel y gwiriadau SPS a fyddai’n cael eu cynnal o ganlyniad. Rhoddodd Helen drosolwg o’r cerrig milltir, gan nodi y bydd y broses o gyflwyno gwiriadau rheolaethau ffiniau yn dechrau ar 31 Ionawr 2024 ym Mhrydain Fawr. Nid yw hyn yn gymwys i arfordir gorllewinol Cymru ar hyn o bryd ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi pennu dyddiad eto ar gyfer dechrau’r gwiriadau. Eglurodd Helen nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon pennu dyddiad dechrau nes y ceir eglurhad ar y rheolau ynghylch llif nwyddau anuniongyrchol. Roedd y cyflwyniad hefyd yn ymdrin â chodi tâl a’r Cynlluniau Masnachwr Dibynadwy.

3.2  Pan ofynnwyd iddi nodi prif bryderon Llywodraeth Cymru mewn perthynas â BTOM, dywedodd Helen y gallai fod yn her cynnal mynediad dilyffethair i’r farchnad a gwybod pan fydd nwyddau’n dod o Iwerddon neu Ogledd Iwerddon. Pryder arall yw sut i sicrhau bod y porthladdoedd a gwasanaeth y porthladdoedd yn parhau i fod yn economaidd a chynaliadwy. Mae’r tri phorthladd fferi yng Nghymru yn fach ac mae’r llwythi’n cyrraedd amser cinio ac yn yr oriau mân. Gall hyn achosi anhawster gyda’r amserlenni staffio ac argaeledd staff yn y lleoliadau bach anghysbell hyn. Yn olaf, er bod hwn yn faes polisi datganoledig, mae Llywodraeth Cymru am fod yn rhan o system BTOM Prydain Fawr. Arweinir y gwaith hwn yn bennaf gan Defra. Mae hyn yn gweithio’n dda ar y cyfan, ond ymddengys ar adegau nad oes gan Gymru yr un llais yn y sgwrs. Mae Llywodraeth Cymru yn ei chael hi’n anodd cael cyllid gan Lywodraeth y DU ar gyfer porthladdoedd Cymru ar hyn o bryd.

3.3  Cafwyd trafodaethau ar sicrhau’r refeniw i’r porthladdoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael i awdurdodau lleol ac Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd, a arweiniodd wedyn at drafodaethau ar Godi Tâl. Eglurodd Helen y bydd taliadau’n cael eu pennu ar gyfer arolygiadau anifeiliaid a phlanhigion ledled Cymru a Lloegr ond nid ar gyfer gorbenion y porthladdoedd. Bydd ymgynghoriad ar godi tâl yn cael ei gyhoeddi’n fuan a fydd, gobeithio, yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau y mae’r porthladdoedd llai yn eu hwynebu. 

3.4  Cyfraniad yr ASB i BTOM

Roedd yr ail gyflwyniad gan Jane Clark ac Owen Lewis yn canolbwyntio ar gyfraniad yr ASB at ddatblygu’r BTOM. Cyn datblygu’r BTOM, roedd Bwrdd yr ASB wedi cytuno ar gyfres o egwyddorion yr oedd angen i’r BTOM eu bodloni:

  • Mae lefel diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael ei chynnal (neu’n gwella);
  • Mae’r polisi’n cael ei lywio gan wyddoniaeth, data a thystiolaeth;
  • Mae’r polisi’n ddeinamig, ac yn newid yn ymatebol i sicrhau bod rheolaethau bwyd yn targedu’r risg fwyaf;
  • Mae’r cynigion yn cyd-fynd â safonau SPS byd-eang.

Mae’r ASB o’r farn bod y BTOM drafft yn bodloni’r egwyddorion hyn ac, os caiff ei fabwysiadu, y bydd yn parhau i sicrhau eu bod yn cael eu blaenoriaethu yn ystod y cyfnod gweithredu. Aeth Jane ymlaen i esbonio bod yr ASB wedi ymgysylltu’n helaeth ag adrannau arweiniol y llywodraeth; Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), yn ogystal â’r Llywodraethau datganoledig, i sicrhau bod diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a diogelwch defnyddwyr yn parhau i fod wrth wraidd y cynigion. Mae’r ASB yn gadarn o blaid cyflwyno rheolaethau sy’n seiliedig ar risg o ran bwyd a bwyd anifeiliaid sy’n dod i’r DU o’r UE. Dyma’r tair prif ffrwd waith y mae’r ASB yn eu blaenoriaethu: Symleiddio Tystysgrifau Iechyd Allforio, Categoreiddio risg mewnforion (UE/Gweddill y Byd) a datblygu cynlluniau masnachwyr dibynadwy.

Aeth y cyflwyniad ymlaen i ymdrin â’r agweddau ymarferol o roi BTOM ar waith a pha newidiadau a ddaw yn ei sgil i Gymru. Y newid allweddol i Gymru yw’r angen am seilwaith ffiniau newydd (Safle Rheolaethau’r Ffin) i reoli’r gofynion SPS newydd o ran rheoli mewnforion. Mater datganoledig yw cyfrifoldeb dros fioddiogelwch a seilwaith y Safleoedd Rheolaethau’r Ffiniau, a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r ASB yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a Defra i sicrhau bod y Safleoedd Rheolaethau’r Ffin yng Nghymru yn gallu rhoi’r BTOM ar waith. Mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer Safleoedd Rheolaethau’r Ffiniau yng Nghaergybi, Abergwaun a Doc Penfro i wasanaethu mewnforion yr UE o Weriniaeth Iwerddon.

4. Trafodaeth panel a phwyllgor

4.1  Dywedodd y Cadeirydd fod nifer o gwestiynau wedi dod i law’r pwyllgor cyn y cyfarfod, a cheir manylion y cwestiynau a’r atebion yn Atodiad A. 

4.2  Gofynnwyd cwestiwn ynghylch y diwydiant bwyd anifeiliaid yng Nghymru, a busnesau sy’n mewnforio bwyd anifeiliaid i Gymru; sut mae’r ASB yn teimlo ei bod yn cyfrannu at yr elfen hon o’r gwaith yng Nghymru? Dywedodd Jane Clark fod hwn yn faes y bydd angen i’r ASB ei ystyried fel rhan o’r ystyriaeth beilot. Dywedodd Helen John fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i’r peilot gwmpasu amrywiaeth eang y gellir dysgu ohoni er mwyn penderfynu beth sy’n gweithio orau i Gymru o ran bioddiogelwch, a hefyd i fasnachwyr.

4.3  Cafwyd trafodaeth am seilwaith y porthladdoedd a’r gallu i hwyluso gwiriadau ar anifeiliaid byw. Dywedodd Helen John fod y porthladdoedd wedi cyflwyno cynlluniau ac wedi cael caniatâd cynllunio, ond ni fyddai’r gwaith adeiladu yn dechrau tan fod mwy o eglurder ynghylch cyllid gan lywodraeth y DU. 

4.4  Dywedodd aelod o’r pwyllgor fod Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH) yn trafod y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau ar 17 Mai. Prif bryder CIEH yw ei bod yn ymddangos bod y model wedi’i bwysoli’n helaeth tuag at leihau beichiau rheoleiddio ar fusnesau, o gymharu â sicrhau trefn reoleiddio effeithiol a chymesur ar gyfer gwiriadau SPS. Yn ogystal, o dan reoliad yr UE a ddargedwir, dim ond Milfeddygon Swyddogol a all gynnal gwiriadau ar gynhyrchion penodol sy’n dod o anifeiliaid. Mae CIEH yn awgrymu y dylai unrhyw drefn reoleiddio ôl-UE hefyd alluogi neu ystyried galluogi ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd sydd â’r cymwyseddau gofynnol i gefnogi cydweithwyr Milfeddygol wrth ymgymryd â’r maes gwaith penodol hwn.

4.5  Gwnaed sylw am gyflymder a graddau’r newid rheoleiddio a diwygio sy’n digwydd ar yr un pryd a’r risg na fyddai’r system yn cael ei hystyried yn ei chyfanrwydd a allai wedyn arwain at risg i ddiogelwch bwyd. Dywedodd Jane Clark fod tîm BTOM yn gweithio’n agos iawn gyda’r timau sy’n gyfrifol am raglenni trawsnewid eraill i sicrhau dull gweithredu cyfannol.

4.6  Gofynnwyd cwestiwn yn ymhelaethu ar gwestiwn cynharach yn ymwneud â’r ffordd y bydd awdurdodau lleol yn cael eu hariannu i ddarparu’r gwasanaeth hwn, nid yn unig yn y porthladdoedd dan sylw, ond hefyd yn yr awdurdodau lleol mewndirol lle gallai fod angen ymwneud â rheolaethau mewnforio. Dywedodd Helen John fod y ffocws ar y rheolaethau a gynhelir ar y ffin neu ychydig yn fewndirol, ac os felly, yr un awdurdod fyddai’n eu cynnal o hyd, a'r mewnforiwr fyddai'n talu'r costau.

4.7  Roedd sylwadau gan gydweithwyr yn adran Iechyd Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn nodi, o safbwynt iechyd y cyhoedd, ei bod yn hanfodol mabwysiadu dull seiliedig ar risg wedi’i ategu gan asesiad risg deinamig ar sail tystiolaeth. Mae hwn yn fodel asesu risg deinamig, wedi’i ategu gan dystiolaeth. Mae adolygiad cyson o’r wybodaeth, data a chyngor gan arbenigwyr iechyd y cyhoedd a gwyddonwyr ac arbenigwyr eraill yn bwydo i mewn i’r model hwn. Hefyd, ategwyd yr angen i sicrhau bod awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd dan sylw yn cael eu cefnogi gyda phrosesau recriwtio, hyfforddi a gwaith gweithredu, fel bod hyn yn parhau i fod yn  ddilys, yn ariannol hyfyw, yn gynaliadwy ac yn wydn.

4.8  Trafodwyd adnoddau awdurdodau lleol, sef pwnc y mae’r pwyllgor wedi’i drafod droeon, a’r pryder cynyddol am brinder o bobl sy’n dod i weithio yn rolau Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach a’r gwaith sy’n cael ei wneud, gobeithio, i ddenu pobl i’r rolau hyn ac atgyfnerthu’r gweithlu. Nid yw hwn yn fater sy’n unigryw i Gymru; mae’n effeithio ar y DU gyfan.

4.9  Dywedodd aelod o’r pwyllgor mai elfen allweddol nad yw wedi’i thrafod yn fanwl yw’r gadwyn gyflenwi a’r newidiadau sy’n mynd i ddigwydd, a’r effaith y bydd yn ei chael ar weithgynhyrchwyr yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r system fwyd dan bwysau mawr, a hynny o ran y rôl polisi rheoleiddio a’r rôl weithgynhyrchu. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid gan sicrhau ymagwedd gyfannol o fewn cadwyn gyflenwi sy’n wynebu trafferthion.  Mae diffyg cymhwysedd digidol o fewn galluoedd, o ran digideiddio systemau, a bydd angen llawer o waith er mwyn i weithgynhyrchwyr Cymru ddal fynd â hyn.

4.10  I grynhoi, mae’r persbectif Cymreig yn unigryw iawn gan fod pob un o’n porthladdoedd yn wynebu Iwerddon, ac mae hyn yn creu heriau sylweddol. Mae’r pwyllgor yn cydnabod llwyddiant y dull gweithio pedair gwlad ac mae’n hyderus yn y dull hwn sy’n seiliedig ar risg sydd wedi’i ategu gan wyddoniaeth a thystiolaeth.

5. Adborth o Gynhadledd IFST

5.1  Canolbwyntiodd y gynhadledd ar dair her allweddol sy’n wynebu’r diwydiant bwyd: diogeledd bwyd, iechyd a maeth a’r amgylchedd. Dechreuodd sawl cyflwyniad y gynhadledd trwy dynnu sylw at yr angen i drawsnewid y system fwyd yn llwyr, a bod yn rhaid i’w holl weithgareddau a’i rhyngweithiadau newid yn sylfaenol er mwyn ei gwneud yn fwy diogel, sefydlog a chynaliadwy. Roedd pryder penodol yn ymwneud â’r gwahaniaeth enfawr rhwng argaeledd bwyd ar draws y byd a hefyd rhwng yr economïau cyfoethog, sy’n cyfrannu fwyaf at newid yn yr hinsawdd a’r economïau tlotach hynny sy’n talu’r pris. Mae gwledydd y mae’r DU yn dibynnu arnynt am ei chyflenwad bwyd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan newid yn yr hinsawdd, diraddio adnoddau a defnydd o ddŵr. O fewn sector amaethyddiaeth y DU, mae’r ffactorau negyddol sy’n cyfrannu at broblemau newid yn yr hinsawdd yn cynnwys y 70% o dir a ddefnyddir ar gyfer amaethyddiaeth yn unig, gwenwyndra plaladdwyr, diraddio solar, a dirywiad mewn bioamrywiaeth.

Nodwyd hefyd fod diffyg strategaeth newid yn yr hinsawdd neu asesiad risg o wydnwch hinsawdd ymhlith busnesau bwyd yn y DU. Cynigir bod yn rhaid gwella’r defnydd o adnoddau systemau bwyd, effeithlonrwydd a phrosesau lliniaru gwastraff drwy nodi synergeddau rhwng gweithgareddau a rhyngweithiadau sy’n rhan o’r gadwyn cyflenwi bwyd a dadansoddi’r cyfaddawd rhwng diogelwch bwyd, canlyniadau amgylcheddol ac iechyd a maeth, a hynny tra sicrheir hyfywedd masnachol. Clywsom gan arbenigwr yn y maes amaethyddiaeth gellog a chan siaradwyr eraill mewn perthynas â ffynonellau protein amgen a’r ffaith bod mwy ohonynt yn cael eu cynhyrchu. Er bod ganddynt rinweddau da o safbwynt yr amgylchedd, dywedwyd bod eu goblygiadau o ran iechyd yn aneglur, a bod angen ymchwilio ymhellach i hyn. Cafwyd trafodaeth hefyd am dueddiadau’n ymwneud â bwyd, a’r berthynas rhwng iechyd a chynaliadwyedd deiet. Roedd yn ddiwrnod hynod ddiddorol ac roedd llawer i aelodau gnoi cil yn ei gylch.

6. Adroddiad y Cadeirydd (Papur 23/05/02)

6.1  Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar ei adroddiad a oedd yn manylu ar gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ym Manceinion ym mis Mawrth 2023. 

7. Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 23/05/03)

7.1  Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad llafar ar ei adroddiad a oedd yn cynnwys manylion rhaglen ymgysylltu ar lefel Weithredol yn Sioe Frenhinol Cymru eleni. 

8. Unrhyw fater arall 

8.1  Tynnodd aelod sylw at y digwyddiad Gwyddoniaeth a’r Senedd a gynhelir ar 13 Mehefin 2023.

8.2  Nododd yr Aelodau y cynhelir y cyfarfod â thema nesaf ar 12 Gorffennaf yng Nghaerdydd, ac mai thema’r cyfarfod yw gweithrediadau awdurdodau lleol. 

8.3  Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben. 

Annex A - Cwestiynau a gyflwynwyd i WFAC 

Cwestiwn 1

Ar ba sail y mae ASB Cymru wedi penderfynu ar y dull asesu risg ar gyfer y nwyddau a fydd yn Risg Uchel; Canolig ac yn destun dull Masnachwyr Dibynadwy, Canolig ac yn destun Eco-fasnachwyr Dibynadwy; Risg isel; ac a yw’n yn cytuno ag asesiad risg APHA?   A yw’r asesiad risg hwn yn cynnwys derbynadwyedd i ddefnyddwyr ynteu diogelwch bwyd yn unig?

Ateb i gwestiwn 1

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban ynghyd â llywodraethau’r DU ar draws y pedair gwlad yn cydweithio’n agos i asesu unrhyw risgiau diogelwch bwyd. Mae’r dull o reoli mewnforion a amlinellir yn y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) wedi’i ddatblygu i fod yn seiliedig ar risg, yn gymesur ac yn unol â safonau byd-eang. Rydym yn mynd ati’n rhagweithiol i fonitro risgiau sy’n dod i’r amlwg ar sail genedlaethol a rhyngwladol ac yn cydgysylltu â rheoleiddwyr eraill i reoli’r risgiau hynny ar y cyd, fel bod defnyddwyr ym mhob gwlad yn cael eu diogelu. Cynhelir y broses dadansoddi risg hefyd ar sail pedair gwlad i sicrhau bod y dystiolaeth wyddonol a data ar unrhyw risgiau diogelwch yn cael eu hasesu ar gyfer y pedair gwlad a bod camau priodol yn cael eu cymryd. Mae trefniadau llywodraethu ar waith ledled Prydain Fawr i sicrhau bod gwybodaeth a data o bob rhan o’r wlad yn cael eu hystyried.nt.

Mae’r ASB wedi ymgorffori data diogelwch bwyd ym model Monitro Clefydau Rhyngwladol Defra fel y gellir asesu’r risgiau a berir gan fasnachu i iechyd anifeiliaid a diogelwch bwyd/iechyd y cyhoedd, a hynny ar sail gwlad/nwyddau. Mae’r haen diogelwch bwyd yn gallu dosbarthu risg mewn modd sydd, hyd yn oed yng nghamau cynnar y model, yn bodloni amcan allweddol yr ASB, sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel. Bydd yn defnyddio data newydd o reolaethau mewnforio wrth i ni ddatblygu manylion y model ymhellach a chynyddu’r ffocws yr albynnau ar risg.   

Mae model risg BTOM wedi’i ddatblygu’n benodol i asesu’r risg i Brydain Fawr sy’n gysylltiedig â mewnforion. Mae’n dadansoddi gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, fel WAHIS (y gronfa ddata clefydau anifeiliaid rhyngwladol gan Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd (WOAH)) a’r System Rhybuddio Cyflym ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (RASFF) sef system adrodd ryngwladol yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r model hefyd yn ymgorffori barn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol, data ar gyfeintiau masnach a fewnforir i Brydain Fawr, a data ar gydymffurfiaeth ffiniau. Rheolir y model trosfwaol gan arbenigwyr risg milfeddygol yn Swyddfa’r DU dros Sicrwydd Masnach Glanweithdra a Ffytoiechydol (SPS), a gefnogir gan aseswyr risg arbenigol iechyd anifeiliaid o fewn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ac aseswyr diogelwch bwyd yn yr ASB

Disgwylir na fydd y rhan fwyaf o nwyddau yn newid o’u categori cychwynnol, ond gan nad yw’r risg yn sefydlog, bydd y model yn ddeinamig. Os bydd yn briodol, bydd nwyddau’n cael eu symud i gategori uwch neu is, gan gynyddu neu leihau lefel y rheolaethau. Bydd y Llywodraeth yn ceisio rhoi digon o rybudd i bartneriaid masnachu a busnesau am unrhyw newid i’r categorïau risg, gyda chyfnod gweithredu o dri i chwe mis. Gallai’r cyfnod hwn gael ei gwtogi mewn amgylchiadau penodol. Bydd mesurau diogelu i ganiatáu ymateb ar unwaith i achos o glefyd neu ddigwyddiad diogelwch bwyd yn parhau i fod yn fecanwaith annibynnol i ymateb i risgiau sy’n dod i’r amlwg.   

Mae’r cynllun masnachwyr dibynadwy yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda phartneriaid eraill. Rhaid i’r model newydd gael ei arwain gan wyddoniaeth, tystiolaeth a data gydag amser i gynnal asesiadau risg o ran y sicrwydd a’r mesurau lliniaru y gellid eu darparu drwy gynllun o’r fath er mwyn sicrhau bod lefel diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael ei chynnal neu ei gwella. Bydd ymgysylltiad pellach ar y cynllun maes o law.

Gellir gweld y categorïau risg mewnforio ar gyfer anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid a fewnforir o’r UE i Brydain Fawr, o 31 Hydref 2023 yma: