Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyngor Adran 42 ar y cyd – Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd

Cyngor ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd.

Cyflwyniad

Fel Awdurdodau Diogelwch Bwyd y DU sydd â dyletswydd statudol i sicrhau diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid(footnote) a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, ar 13 Mai 2022 gofynnodd yr Adran Busnes a Masnach i’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban ddarparu cyngor ar y cyd ar y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd, fel y’i llofnodwyd ar 28 Chwefror 2022. Yn benodol, gofynnwyd i’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban, yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, ddarparu cyngor ynghylch a yw’r mesurau yn y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd yn gyson, neu i ba raddau y maent yn gyson, â chynnal lefelau diogelwch statudol y DU ar gyfer iechyd pobl mewn perthynas â’r meysydd o fewn cylch gorchwyl statudol yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban. Mae’r ymateb hwn yn cynrychioli ein cyngor yn dilyn y cais gan yr Adran Busnes a Masnach.

I grynhoi, dyma gyngor yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban:

  • Mae’r Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd yn cynnal y mesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd a maethiad yn unol â chyfreithiau a rheoliadau’r DU
  • Nid oes angen unrhyw newidiadau i system reoleiddio bwyd y DU i weithredu’r Cytundeb Masnach Rydd hwn ar ôl iddo ddod i rym
  • Mae testun y Cytundeb Masnach Rydd yn cadw ymreolaeth reoleiddiol llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig o ran materion diogelwch bwyd a maethiad, ac ni fydd yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol yn hyn o beth. Bydd gweinidogion iechyd ledled y DU yn parhau i wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch bwyd ar sail cyngor tryloyw ar wyddoniaeth a thystiolaeth gan yr ASB, Safonau Bwyd yr Alban, a chyrff arbenigol eraill lle bo’n briodol, gan gynnwys Pwyllgor Honiadau Maeth ac Iechyd y DU. Mae hyn yn allweddol i gynnal mesurau diogelu statudol yn y dyfodol.

Cwmpas cyngor yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban

Er mwyn adlewyrchu cylch gorchwyl statudol llawn yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban fel sefydliadau sydd â buddiannau datganoledig o ran polisi, rydym yn darparu cyngor ar fesurau diogelu statudol ar gyfer materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a maethiad.(footnote) Nid yw’r cyngor yn cwmpasu mesurau diogelu statudol ar gyfer safonau bwyd nad ydynt yn gysylltiedig ag iechyd dynol sydd y tu allan i gwmpas y cyngor hwn. Bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn parhau i ystyried ein dull tuag at faterion ehangach o ran iechyd pobl sy’n ymwneud â bwyd ar gyfer ceisiadau yn y dyfodol am gyngor o dan adran 42(4) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020.

Diffinnir lefelau mesurau diogelu statudol y DU(footnote) yn Neddf Amaethyddiaeth 2020 fel y lefelau diogelwch y darperir ar eu cyfer ar adeg llunio’r adroddiad, o dan unrhyw ddeddfwriaeth sydd mewn grym yn y Deyrnas Unedig, neu mewn unrhyw ran ohoni. Mae materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a maethiad yn rhai datganoledig, sy’n golygu bod unrhyw ddeddfwriaeth sy’n bodoli ac sydd ag effaith gyfreithiol mewn unrhyw ran o’r DU yn berthnasol i’r asesiad hwn. Mae hyn yn cynnwys cyfreithiau cenedlaethol ar draws y DU a chyfraith a gymathwyd sy’n gymwys ym Mhrydain Fawr. Nid yw cyfraith yr UE sy’n gymwys ar hyn o bryd yng Ngogledd Iwerddon yn rhinwedd Atodiad 2 o’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon o fewn cwmpas y cyngor hwn – mae erthygl 1.2(3) o Bennod 1 ar Ddarpariaethau Cychwynnol a Diffiniadau Cyffredinol yn cadarnhau ein gallu i fabwysiadu, cynnal a diwygio mesurau sy’n darparu ar gyfer gweithredu darpariaethau cyfraith yr UE sy’n gymwys yn y DU mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, tra bydd y Protocol yn parhau i fod mewn grym. O ganlyniad, er bod Erthygl 1.2(4) yn darparu sail ar gyfer trafodaeth am effaith unrhyw ddarpariaethau o’r fath, nid yw’r Cytundeb Masnach Rydd yn effeithio ar gymhwyso’r deddfau sydd wedi’u cynnwys yn y Protocol. Mae pob cyfeiriad at fesurau diogelu statudol y DU yn y cyngor hwn, felly, yn ymwneud â’r ddeddfwriaeth a ddisgrifir yn y paragraff hwn fel deddfwriaeth sydd o fewn y cwmpas.

O ystyried y Cytundeb Iechydol cyfredol(footnote) rhwng y DU a Seland Newydd ar fesurau iechydol sy’n gymwys wrth fasnachu anifeiliaid byw a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, nid yw’r bennod yn y Cytundeb Masnach Rydd ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol yn gymwys i unrhyw fesur neu nwydd a gwmpesir gan y Cytundeb Iechydol. Yn yr un modd, roedd y cytundeb mewn egwyddor rhwng y DU a Seland Newydd yn egluro y bydd cynhyrchion cyfansawdd yn dod o fewn cwmpas y Cytundeb Iechydol yn hytrach na’r Cytundeb Masnach Rydd. Yn rhinwedd hyn, mae’r bennod felly’n canolbwyntio ar fesurau ffytoiechydol sy’n gymwys wrth fasnachu ‘planhigion, cynhyrchion planhigion a bwyd wedi’i brosesu sy’n seiliedig ar blanhigion’. Cymerir hyn i ystyriaeth yn y cyngor hwn.

Buddiannau defnyddwyr a rhanddeiliaid

Wrth ysgrifennu’r cyngor hwn, mae’n bwysig yn gyntaf nodi’r cyd-destun ehangach perthnasol mewn perthynas â safbwyntiau defnyddwyr a phryderon rhanddeiliaid. Yn dilyn y cais a ddaeth i law gan yr Adran Busnes a Masnach, gwahoddodd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban sylwadau ar fesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd a maethiad gan nifer o bartïon â buddiant, gan gynnwys y rhai sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr. Gan ddiolch i’r rheiny a ymatebodd, mae tystiolaeth a ddaeth i law fel rhan o’r broses ymgynghori hon, ac sy’n berthnasol i’r cwestiwn y mae ein cyngor yn mynd i’r afael ag ef, wedi’i dyfynnu yn ein cyngor.

Mae data o arolygon ymgysylltu â defnyddwyr diweddar yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban wedi dangos yn gyson fod gan ddefnyddwyr bryderon sylweddol uwch am safonau bwyd a gynhyrchir y tu allan i’r DU o gymharu â bwyd a gynhyrchir domestig. Fel rhan o gylch diweddaraf arolwg ‘Bwyd a Chi 5’ yr ASB,(footnote) a gasglodd safbwyntiau defnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2021, roedd 75% o’r cyfranogwyr yn poeni am ddiogelwch a hylendid bwyd sy’n dod o’r tu allan i’r DU o gymharu â 54% ar gyfer bwyd yn y DU. Roedd 71% yn poeni nad yw bwyd sy’n cael ei gynhyrchu y tu allan i’r DU yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, o gymharu â 51% ar gyfer bwyd sy’n dod o’r DU. Canfu cylch diweddaraf arolwg Safonau Bwyd yr Alban, Food in Scotland,(footnote) a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2021 fod 70% o’r ymatebwyr wedi nodi eu bod yn poeni am safonau bwyd ac ansawdd y bwyd y maent yn ei fwyta. Canfu ymchwil defnyddwyr Safonau Bwyd yr Alban(footnote) a gynhaliwyd ym mis Medi 2020, cyn i’r DU ymadael â’r UE, fod 77% o’r ymatebwyr naill ai’n ‘poeni neu’n poeni’n fawr’ am ostyngiad mewn safonau ar ôl 31 Rhagfyr 2021. Canfu arolwg barn cynrychioliadol cenedlaethol gan yr ASB a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020(footnote) fod bron i wyth o bob deg o bobl (78%) yn meddwl y dylai’r DU gadw ei safonau bwyd presennol, hyd yn oed os oedd bwyd a gynhyrchir yn y DU yn ddrutach ac yn llai cystadleuol yn y farchnad fyd-eang.

Ym mis Mehefin 202, cynhaliodd y sefydliad defnyddwyr Which?(footnote) ymchwil gyda grŵp cynrychioliadol cenedlaethol o 3,263 o ddefnyddwyr er mwyn deall eu barn a’u hagweddau tuag at fasnach ryngwladol. Gwnaeth Which? hefyd nodi lefelau uchel o gefnogaeth ar gyfer cynnal safonau diogelwch bwyd y DU. O’r ymatebwyr hynny a gymerodd ran, dywedodd 91% eu bod o’r farn y dylai llywodraeth y DU sicrhau, wrth gytuno ar gytundebau masnach, fod yr un safonau sy’n ymwneud â diogelwch ac iechyd yn gymwys i fwyd a fewnforir ag sy’n gymwys i fwyd a gynhyrchir yn y DU. 

Mae’n amlwg o’r dystiolaeth hon fod cynnal safonau diogelwch bwyd ac iechyd mewn cytundebau masnach yn bwysig i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid. Bydd mesurau diogelu statudol presennol, fel yr hawl i reoleiddio ar gyfer lefelau diogelwch sy’n briodol i ddefnyddwyr y DU yn seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a’r hawl i gymryd camau rhagofalus cymesur dros dro i ddiogelu defnyddwyr, yn chwarae rhan allweddol o ran sut y cynhelir y safonau hynny yn y dyfodol. Bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn parhau i ddarparu cyngor seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth i weinidogion sy’n ystyried buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, a hynny fel y gallant fod yn hyderus bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label wrth i lywodraeth y DU fwrw ymlaen â’i pholisi masnach annibynnol.

Mae rhanddeiliaid hefyd wedi bod yn glir ynghylch pwysigrwydd bod â threfniadau craffu cadarn ar waith ar gyfer asesu’r effeithiau ar iechyd pobl. Roedd tystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (EFRA) gan y Gynghrair Sustain yn pwysleisio’r ddyletswydd o dan Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i’r Ysgrifennydd Gwladol adrodd ar fesurau diogelu statudol ar gyfer iechyd pobl ac i adroddiadau o’r fath fod yn ddarostyngedig i’r un lefelau o dryloywder, casglu tystiolaeth a chyhoeddi fel y rheiny ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion.

Trosolwg

Mae’r rhagymadrodd i destun cyfreithiol y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd yn gosod y naws ar gyfer cytundeb masnachu sydd wedi’i ategu gan rai themâu pwysig yng nghyd-destun cynnal mesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd a maethiad. Yn bennaf, mae’r Partïon yn cydnabod ymreolaeth a hawl ei gilydd i reoleiddio o fewn eu tiriogaethau, a hynny er mwyn cyflawni amcanion polisi cyhoeddus cyfreithlon, gan gynnwys diogelu a hybu iechyd y cyhoedd, moesau’r cyhoedd a lles anifeiliaid.

Mae’r darpariaethau cychwynnol ym Mhennod 1 yn cefnogi’r thema hon drwy nodi bod y Partïon yn cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau presennol mewn perthynas â’i gilydd o dan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd. Mewn cyd-destun diogelwch bwyd a maethiad, mae’r hawliau rhyngwladol sylfaenol hyn yn caniatáu i lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig barhau i gynnal mesurau unochrog cymesur sy’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd defnyddwyr ledled y DU.

O ystyried bod ymreolaeth reoleiddiol wedi’i nodi fel rhywbeth pwysig i’r ddau Barti yn y Cytundeb Masnach Rydd hwn, mae’n dilyn felly, na chytunwyd ar unrhyw ganiatadau nac awdurdodiadau newydd ‘ymlaen llaw’ ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth nad ydynt eisoes wedi’u hawdurdodi i’w mewnforio i’r DU neu Seland Newydd. Er mwyn cael mynediad i farchnad ei gilydd ar gyfer unrhyw allforion bwyd-amaeth newydd, rhaid i bob Parti gyflwyno cais drwy ei brosesau mynediad i’r farchnad. Yn y DU, mae ceisiadau o’r fath yn dod i law, yn cael eu cydgysylltu a’u hasesu o ran risg gan Swyddfa’r DU ar gyfer Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol dan arweiniad Defra, gyda mewnbwn gan yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban, asiantaethau Defra ac adrannau eraill o’r llywodraeth fel y bo’n briodol. Dim ond yn dilyn asesiad cadarn i gadarnhau bod partner masnachu’n gallu bodloni gofynion mewnforio’r DU y caniateir mynediad ar gyfer unrhyw gynhyrchion bwyd-amaeth newydd. Byddai asesiadau o’r fath hefyd yn ystyried safonau a mesurau rheoli o ran cynhyrchu bwyd yn y wlad allforio, a allai fod yn wahanol heb effeithio ar ddiogelwch bwyd. Nid yw’r Cytundeb Masnach Rydd yn cynnwys darpariaethau sy’n effeithio ar waharddiad presennol y DU ar hyrwyddwyr tyfiant penodol a ddefnyddir wrth gynhyrchu cig fel cig eidion wedi’i drin â hormonau, sy’n gymwys i fwydydd domestig a bwydydd a fewnforir.

Yn yr un modd, pe bai busnes o Seland Newydd yn dymuno marchnata cynnyrch newydd ym Mhrydain Fawr, fel bwyd newydd, ychwanegyn bwyd, ychwanegyn bwyd anifeiliaid neu fwyd neu fwyd anifeiliaid wedi’i addasu’n enetig, byddai angen gwneud cais drwy’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig a bod yn destun dadansoddiad risg gan yr ASB/Safonau Bwyd yr Alban er mwyn pennu diogelwch y cynnyrch cyn y gallai Gweinidogion Prydain Fawr ei ddefnyddio fel cynhwysyn mewn bwydydd a fewnforir i Brydain Fawr.(footnote)

Er mwyn gweithredu’r Cytundeb Masnach Rydd hwn, ni fydd yn ofynnol i’r ASB na Safonau Bwyd yr Alban gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth diogelwch bwyd newydd, na gwneud unrhyw newidiadau i bolisi diogelwch bwyd rheoleiddiol domestig er mwyn bodloni’r rhwymedigaethau ar ôl i’r Cytundeb ddod i rym. Yn yr un modd, ni fydd y Cytundeb Masnach Rydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cymwys cyfrifol y DU gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth newydd am faethiad.(footnote) Ymhellach, mae erthygl 33.5 yn y bennod Darpariaethau Terfynol yn nodi’n benodol, lle cyfeirir yn y Cytundeb Masnach Rydd at gyfreithiau a rheoliadau, fod hynny’n cynnwys unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol neu gyfreithiau neu reoliadau olynol (oni nodir yn wahanol).

O dan delerau Sefydliad Masnach y Byd a thelerau’r Cytundeb Masnach Rydd hwn, ni fyddai unrhyw beth yn atal llywodraeth y DU na’r gweinyddiaethau datganoledig rhag cynnal neu gyflwyno mesurau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth, na rhag cymryd camau dros dro ar sail gwybodaeth berthnasol i osod rheolaethau neu waharddiadau ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u mewnforio er mwyn bodloni’r lefel o ddiogelwch bwyd a ystyrir yn briodol i ddefnyddwyr ledled y DU. Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r risg bosib a achosir gan sylweddau a ychwanegir at fwyd at ddibenion maethol.

Ystyrir bod bwyd a fewnforir nad yw’n dod o anifeiliaid (FNAO) yn peri risg uwch lle gallai fod wedi’i halogi ag afflatocsinau (fel cnau), plaladdwyr, halogiad microbiolegol neu radiocaesiwm ac felly rhaid ei fewnforio trwy borthladd dynodedig â chyfleusterau priodol. Mae’r nwyddau hyn yn destun gwiriadau amlach sy’n cynnwys archwilio a phrofi. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw nwyddau FNAO risg uwch sy’n dod i mewn i’r DU o Seland Newydd.

Mae Rhwydwaith Gweithredu yn erbyn Plaladdwyr (PAN) y DU yn poeni “y gallai’r Cytundeb Masnach Rydd hwyluso masnachu bwydydd sy’n cynnwys gweddillion plaladdwyr nad oes modd eu defnyddio mewn bwyd yn y DU ar hyn o bryd oherwydd eu bod yn peri risg i iechyd pobl” ac mae Sustain yn rhannu’r pryder hwn. Mae Seland Newydd eisoes yn allforio amrywiaeth o gynhyrchion bwyd-amaeth i’r DU. Yn 2019, er enghraifft, allforiodd Seland Newydd 44,450 o dunelli o gig ac offal cig, 19,140 o dunelli o lysiau a rhai gwreiddiau a chloron (tubers), 42,335 o dunelli o ffrwythau, cnau, croen ffrwythau sitrws neu felonau a 79,046 o dunelli o ddiodydd, gwirodydd a finegr.(footnote) Yn hollbwysig, bydd mewnforion bwyd a bwyd anifeiliaid o Seland Newydd yn parhau i orfod bodloni gofynion deddfwriaethol y DU mewn perthynas â diogelwch bwyd a maethiad gan gynnwys, er enghraifft, cydymffurfio ag unrhyw waharddiadau presennol ar gyfer sylweddau anawdurdodedig neu ar gyfer fitaminau ac atchwanegiadau, yn ogystal â chydymffurfio ag uchafswm terfynau gweddillion ar gyfer plaladdwyr a lefelau uchaf ar gyfer halogion a bennir gan y DU.

Mae gan PAN UK bryderon hefyd fod “safonau rhyngwladol ar gyfer plaladdwyr yn dod o Codex. Mae’r Lefelau Uchaf o Weddillion a osodir gan Codex yn tueddu i fod yn uwch na’r rhai a bennir gan y DU.” Nid oes dim yn y Cytundeb Masnach Rydd hwn sy’n effeithio ar hawl bresennol y DU o dan erthygl 3 yng Nghytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd sy’n caniatáu i aelodau o Sefydliad Masnach y Byd gymhwyso mesurau rheoli mewnforio sy’n gwyro oddi wrth y safonau rhyngwladol a osodwyd gan Codex neu gyrff cyfeirio eraill Sefydliad Masnach y Byd, lle gellir eu cyfiawnhau trwy ddadansoddiad risg. Yn yr enghraifft ar gyfer plaladdwyr, mae hyn yn golygu y gall terfynau uchaf y DU o ran gweddillion fod yn is (mwy llym) na’r rhai a osodir gan Codex lle mae cyfiawnhad gwyddonol dros hynny.

Dim ond ar y sail bod Seland Newydd wedi’i nodi fel gwlad gymeradwy gan y DU a’i rhestru ar gyfer y nwydd penodol hwnnw y gall cynhyrchion anifeiliaid gael eu mewnforio i’r DU o Seland Newydd. Rhaid i nwyddau o’r fath ddod o sefydliadau sy’n bodloni gofynion y DU. Rheolir y broses restru bellach gan Swyddfa’r DU ar gyfer Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol, ac mae’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, archwilio ac asesu system rheolaethau swyddogol gwlad a’i chynllun monitro gweddillion. Rhoddir sicrwydd pellach bod llwythi’n bodloni gofynion mewnforio’r DU gan yr ardystiad swyddogol sy’n cyd-fynd â’r llwyth. Mae’r ardystiad hwn yn tystio bod y cynnyrch wedi’i gynhyrchu yn unol â safonau’r DU. Mae llwythi’n destun rheolaethau swyddogol ar ffin y DU, sy’n cynnwys gwiriadau dogfennol ac adnabod, ac mae canran yn destun gwiriadau ffisegol a all gynnwys profi am halogion fel metelau trwm neu weddillion milfeddygol. Nid oes dim yn y Cytundeb Masnach Rydd sy’n dileu unrhyw un o’r gofynion a’r sicrwydd hyn mewn perthynas â masnach barhaus.

Dadansoddi penodau perthnasol

Wrth asesu’r gwaith o gynnal y mesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd a maethiad, mae’r penodau canlynol yn arbennig o berthnasol:

  • Pennod 4 – Gweithdrefnau Tollau a Hwyluso Masnach
  • Pennod 5 – Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol
  • Pennod 7 – Rhwystrau Technegol i Fasnachu
  • Pennod 20 – Diogelu Defnyddwyr

Pennod 4 – Gweithdrefnau Tollau a Hwyluso Masnach

Mae sawl erthygl yn y bennod hon sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â’r gweithdrefnau tollau ar gyfer nwyddau, yn enwedig erthyglau 4.8 ar Hwyluso Llwythi, erthygl 4.9 ar Ryddhau Nwyddau ac erthygl 4.10 ar Nwyddau Darfodus. Ym mhob achos, mae eithriadau wedi’u cynnwys yn y testun a’r troednodiadau sy’n sicrhau, lle bo angen gwiriadau rheoleiddiol gan awdurdodau cymwys mewn safleoedd rheolaethau’r ffin (gan gynnwys gwiriadau diogelwch bwyd ar fewnforion), y gellir dal i gynnal y rhain fel y gwneir ar hyn o bryd heb unrhyw gyfyngiadau amser. Felly, lle mae angen gwiriadau dogfennol, adnabod neu ffisegol, gan gynnwys samplu a phrofi at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd, mae hyn yn golygu na fyddai’r amserau rhyddhau a nodir yn yr erthyglau hyn yn gymwys.

Mae Erthygl 4.11 ar reoli risg hefyd yn gymwys i reolaethau swyddogol a gynhelir gan awdurdodau cymwys mewn safleoedd rheolaethau’r ffin. Nid oes dim yn yr erthygl sy’n atal yr awdurdodau perthnasol rhag parhau i gynnal gwiriadau a gwyliadwriaeth ar sail risg ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi’u mewnforio fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Pennod 5 – Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol

Mae testun y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol y cytunwyd arno ar y cyd â Seland Newydd yn hollbwysig o ran cadw hawl y DU i gynnal cyfreithiau a rheoliadau presennol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, gan gynnwys diogelwch bwyd a maethiad. Mae hefyd yn bwysig nad yw’r testun y cytunwyd arno wedi amharu ar y ffordd y mae rheoleiddio a gorfodi cyfraith bwyd yn cael ei gweithredu yn y DU. Mae’r erthyglau allweddol canlynol yn nodi sut mae’r testun yn cyflawni hyn:

Erthygl 5.4 Cadarnhau Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol

Mae cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau o dan Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd yn golygu bod y Partïon yn cydnabod bod telerau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu blaenoriaethu o ran cymhwyso mesurau sy’n diogelu iechyd a bywydau pobl. Ni fydd dim yn y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol â Seland Newydd yn effeithio ar hynny. Mae hyn yn arwyddocaol gan fod Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd yn rhoi hawliau pwysig i’r ddau Barti sy’n caniatáu i ni osod ein lefel ein hunain o fesurau diogelu iechyd cyhoeddus sy’n briodol i’r boblogaeth, yn unol â’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth berthnasol, yr economeg gymdeithasol a’r ymarferoldeb technegol (Erthygl 5, Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd).(footnote)

Erthygl 5.6 Cywerthedd

Mae Erthygl 4 o Gytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ar Gywerthedd(footnote) yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau o Sefydliad Masnach y Byd dderbyn mesurau Iechydol a Ffytoiechydol aelodau eraill fel mesurau cyfatebol. Os yw’r aelod sy’n allforio’n dangos yn wrthrychol fod ei fesurau’n cyrraedd lefelau diogelu priodol yr aelod sy’n mewnforio, mae’n rhaid i’r aelod sy’n mewnforio dderbyn y mesurau hyn, hyd yn oed os ydynt yn wahanol i’w rai ef. Datblygodd Pwyllgor Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ganllawiau penodol(footnote) i helpu Aelodau i weithredu’r erthygl hon. Mae penderfyniadau cywerthedd o’r fath yn hwyluso masnach, a gallant arwain at fasnachu haws mewn perthynas â’r cynhyrchion yr effeithir arnynt gan y deddfau a’r rheoliadau y bernir eu bod yn gyfwerth.

Gan nodi bod gennym eisoes drefniadau cywerthedd hirsefydlog ar waith gyda Seland Newydd ar gyfer nifer o gynhyrchion anifeiliaid o dan y Cytundeb Iechydol, ni chytunwyd ar unrhyw benderfyniadau cywerthedd newydd ar gyfer cynhyrchion bwyd-amaeth fel rhan o’r Cytundeb Masnach Rydd hwn. Cytunwyd ar egwyddorion lefel uchel sy’n ailgadarnhau telerau Sefydliad Masnach y Byd ar y dull y bydd yn rhaid i bob Parti ei fabwysiadu ar gyfer penderfyniadau cywerthedd yn y dyfodol. Bydd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn chwarae rhan allweddol ochr yn ochr ag adrannau eraill o’r llywodraeth wrth asesu risg unrhyw geisiadau cywerthedd yn y dyfodol ac wrth argymell unrhyw amodau masnachu arbennig (a allai gynnwys gofynion penodol ar gyfer prosesu, pecynnu ac ati) a allai fod yn ofynnol i fodloni lefelau diogelu’r DU o ran diogelwch bwyd. Mae’n bwysig nodi nad yw cytundebau cywerthedd yn dileu’r gofyniad i allforwyr gydymffurfio â therfynau gweddillion uchaf y wlad sy’n mewnforio ar gyfer plaladdwyr a lefelau uchaf ar gyfer halogion mewn bwyd. Ni fyddai penderfyniadau o’r fath yn atal y DU rhag gwneud newidiadau i’n trefn Iechydol a Ffytoiechydol yn y dyfodol er budd defnyddwyr ledled y DU, ac os felly byddai unrhyw benderfyniad yn cael ei adolygu. Yn bwysig, y parti sy’n mewnforio sy’n penderfynu ar gywerthedd.

Erthygl 5.8 Dadansoddi Risg

Mae’r erthygl hon yn ail-gadarnhau pwysigrwydd sicrhau bod mesurau Iechydol a Ffytoiechydol yn seiliedig ar safonau, canllawiau neu argymhellion rhyngwladol perthnasol, neu, lle maent yn gwyro, yn seiliedig ar ddadansoddiad risg a gynhaliwyd yn unol â darpariaethau perthnasol, sy’n cynnwys darpariaethau domestig. Mae hefyd yn cyfeirio’n uniongyrchol at ddarpariaethau erthygl 5 Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol Sefydliad Masnach y Byd ar asesu risg sy’n cynnwys y gallu i fabwysiadu mesurau Iechydol a Ffytoiechydol dros dro ar sail gwybodaeth berthnasol pan fo tystiolaeth wyddonol berthnasol yn annigonol. Mae’r rheolau rhyngwladol hyn yn sail i fframwaith y DU ar gyfer rheoleiddio diogelwch bwyd – er enghraifft, mae cyfraith bwyd gyffredinol y DU yn cynnwys egwyddor ragofalus y gellir ei mabwysiadu lle nodir y posibilrwydd o effeithiau niweidiol ar iechyd ond bod ansicrwydd gwyddonol yn parhau. Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n cyfyngu ar y ffordd y mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn cynnal dadansoddiadau risg ar gyfer materion bwyd a bwyd anifeiliaid.

Erthygl 5.9 Archwilio

P’un ai yng nghyd-destun archwiliad y DU yn Seland Newydd neu wrth hwyluso taith fewnol o Seland Newydd yma yn y DU, mae’r erthygl hon yn gosod fframwaith defnyddiol ar gyfer cynnal archwiliadau gyda’r bwriad o leihau beichiau ar y Partïon a sicrhau bod paramedrau archwiliad yn cael eu cyfleu’n glir ac y cytunir arnynt ymlaen llaw. Nid oes dim yn yr erthygl sy’n atal y DU rhag cynnal archwiliad lle gellir ei gyfiawnhau at ddibenion ceisio sicrwydd ar systemau rheoli diogelwch bwyd Seland Newydd, ac nid yw ychwaith yn atal y DU rhag cynnal mesurau diogelwch bwyd brys fel y bo’n briodol (gweler paragraff 5.11 isod).

Erthygl 5.10 Amodau Masnach

Nid oes dim yn yr erthygl hon sy’n effeithio ar allu’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban i gyflawni eu rôl a datblygu cyngor rheoli risg a gweithredu cyfraith bwyd fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

Erthygl 5.11 Mesurau Brys

Mae’r testun ynghylch mesurau brys yn parchu hawl y ddau Barti i gymryd camau cyflym i ddiogelu bywyd ac iechyd pobl. Mae hefyd yn gosod rhai paramedrau ar gyfer sut y byddai’r Partïon yn cymryd rhan mewn achosion o’r fath ac ar gyfer cynnal adolygiadau sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i gyfiawnhau naill ai barhau â’r mesurau neu gael gwared arnynt.

Erthygl 5.12 Gwiriadau a ffioedd mewnforio

Nid yw’r erthygl hon yn cyfyngu ar hawl y DU i gynnal gwiriadau mewnforio ar sail risg nac i gymryd camau gorfodi priodol pan nodir achosion o ddiffyg cydymffurfio, yn unol â chyfreithiau a rheoliadau presennol y DU.

Erthygl 5.13 Ardystio Swyddogol

Mae’r erthygl hon yn cadw hawl y DU i fynnu bod bwydydd a fewnforir o Seland Newydd yn cael eu hardystio’n swyddogol pan fernir bod hynny’n angenrheidiol, a hynny er mwyn cael sicrwydd fesul llwyth fod gofynion mewnforio’r DU wedi’u bodloni. Mae paragraff 4 o’r erthygl hon yn cydnabod nad oes angen ardystiad ar hyn o bryd ar y DU na Seland Newydd ar gyfer bwydydd risg isel o fewn cwmpas y bennod ac y byddai cyflwyno’r cyfryw ar sail risg. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull cymesur sy’n seiliedig ar risg a ddefnyddir i ardystio diogelwch bwyd yn y DU.

Erthygl 5.14 Cydweithredu ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd yn flaenoriaeth strategol genedlaethol ar gyfer llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig, sydd wedi arwain at ddatblygu gweledigaeth 20 mlynedd newydd ar gyfer ymwrthedd gwrthficrobaidd, a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol 5 mlynedd cyfredol, a fydd ar waith tan 2024. Mae allbynnau o raglen ymchwil ymwrthedd gwrthficrobaidd yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban a gweithgaredd partneriaeth traws-lywodraethol yn cyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cenedlaethol, yn ogystal â gwella ein gallu i gynnal asesiadau risg diogelwch bwyd ar ymwrthedd gwrthficrobaidd i sicrhau bod gwaith yn y dyfodol yn bodloni heriau pwysig sy’n dod i’r amlwg. Mae testun y Cytundeb Masnach Rydd ar ymwrthedd gwrthficrobaidd yn hyrwyddo cyfnewid gwybodaeth, arbenigedd a data ar wyliadwriaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd sy’n cefnogi ein rhaglenni ymchwil ar ymwrthedd gwrthficrobaidd a’n hagenda gwyliadwriaeth ein hunain. Cydnabyddir hefyd fod angen dull trawswladol ac amlddisgyblaethol o ymdrin ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a bod cyd-ddibyniaethau rhwng iechyd anifeiliaid, iechyd pobl, diogelwch bwyd, diogeledd bwyd a’r amgylchedd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dull ‘Un Iechyd’ y mae’r ASB a Safonau Bwyd yr Alban yn ei fabwysiadu mewn perthynas â gweithgareddau gwyliadwriaeth o dan y Cynllun Gweithredu Byd-eang.

Cododd y Gynghrair Sustain  bryderon ynghylch nifer o wrthfiotigau a ddefnyddir fel hyrwyddwyr twf mewn anifeiliaid a fegir at ddiben cynhyrchu bwyd yn Seland Newydd sydd â goblygiadau posibl i iechyd pobl yn y dyfodol, er nad ydynt o bwysigrwydd meddygol ar hyn o bryd. Nid oes dim yn yr erthygl hon nac yn y Cytundeb Masnach Rydd sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r DU newid y lefelau presennol o fesurau diogelu statudol, gan gynnwys mynnu bod yn rhaid i gynhyrchion a fewnforir gydymffurfio â gwaharddiadau neu derfynau gweddillion y DU ar gyfer meddyginiaethau milfeddygol, gan gynnwys gwrthficrobiaid. Nid yw’r Cytundeb Masnach Rydd ychwaith yn effeithio ar allu llywodraeth y DU i gryfhau mesurau rheoli yn y meysydd hyn yn y dyfodol yn unol â’i hymrwymiad.

Erthygl 5.15 Tryloywder, Hysbysiadau a Chyfnewid Gwybodaeth

Mae’r erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol i Seland Newydd roi gwybod i’r DU yn brydlon am unrhyw faterion diogelwch bwyd sylweddol sy’n ymwneud â bwyd neu fwyd anifeiliaid a fasnachir â’r DU, ac i’r gwrthwyneb. Mae hyn yn ategu’r berthynas dda sydd gan yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban eisoes â’r Pwyntiau Cyswllt Brys yn Awdurdod Diogelwch Bwyd Seland Newydd ac fel aelodau o Rwydwaith Awdurdodau Diogelwch Bwyd Rhyngwladol (INFOSAN). Byddai gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw fater diogelwch bwyd sylweddol sy’n effeithio ar Ogledd Iwerddon hefyd yn cael ei chyfleu gan yr ASB yng Ngogledd Iwerddon trwy System Rhybuddio Cyflym yr UE ar gyfer Bwyd a Bwyd Anifeiliaid, gan fod Gogledd Iwerddon o fewn parth rheoleiddio’r UE.

Erthyglau 5.16 Gweithgorau Technegol a 5.18 Is-bwyllgor Mesurau Iechydol a Ffytoiechydol

Mae’r erthyglau hyn yn sefydlu fforymau y gall y DU a Seland Newydd eu defnyddio i ystyried unrhyw faterion sy’n ymwneud â’r bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, adolygu o bryd i’w gilydd sut mae’r Partïon yn rhoi’r bennod ar waith o ran cyfnewid gwybodaeth berthnasol a nodi cyfleoedd i gydweithio.  Yn anad dim, gall gweithgareddau’r Pwyllgor gynnwys trafodaethau ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol arfaethedig sy’n cael eu hystyried gan y naill Barti neu’r llall yn ogystal â datrys materion Iechydol a Ffytoiechydol sy’n effeithio ar fasnach rhwng y ddwy wlad. Mae’n bwysig tynnu sylw at y ffaith y bydd y strwythurau hyn yn gweithio i ddatrys materion masnach o fewn terfynau’r fframweithiau rheoleiddio presennol gan ganolbwyntio ar faterion ffytoiechydol. Byddant yn eistedd ochr yn ochr â’r strwythurau presennol o dan y Cytundeb Iechydol sy’n darparu fforwm tebyg i drafod masnachu cynhyrchion anifeiliaid. Ni fwriedir i strwythurau’r Pwyllgor ddisodli na thrawsfeddiannu’r mecanweithiau a’r prosesau ar wahân ar gyfer gwneud penderfyniadau y gall partneriaid masnachu, gan gynnwys Seland Newydd, er enghraifft, eu defnyddio i wneud cais i allforio cynnyrch newydd i’r DU, neu i gael ymgynghoriad ffurfiol ar reoliadau newydd arfaethedig ac ati. Bydd y fforwm yn helpu i gyfeirio sefydliadau at y sianeli pwrpasol hyn ac yn hwyluso cyfathrebu rhyngom. Mae hyn yn hanfodol i’r ymrwymiad sylfaenol a wnaed gan y ddwy ochr yn y Cytundeb Masnach Rydd hwn, sef y bydd y ddau Barti’n cydnabod ymreolaeth a hawl sofran ei gilydd i reoleiddio o fewn eu tiriogaethau, a bydd hyn yn allweddol i gynnal mesurau diogelu statudol yn y dyfodol.

Erthygl 5.19 Setlo Anghydfod

Nid oes gan y naill Barti na’r llall hawl i setlo anghydfod o dan bennod 31 (Setlo Anghydfod) ar gyfer unrhyw fater sy’n codi o dan y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol. Mae peidio â chymhwyso setliad anghydfod at y bennod ar fesurau Iechydol a Ffytoiechydol yn golygu nad oes gan y DU na Seland Newydd hawl i setlo anghydfod o dan y Cytundeb Masnach Rydd ar gyfer materion Iechydol a Ffytoiechydol. Yn hytrach, byddai angen codi unrhyw anghydfod drwy fecanweithiau Sefydliad Masnach y Byd fel sy’n digwydd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gall Partïon ddefnyddio darpariaethau’r Cytundeb Masnach Rydd ar ymgynghori technegol i geisio datrys materion yn ddwyochrog.

Pennod 7 – Rhwystrau Technegol i Fasnachu

Mae’r bennod ar Rwystrau Technegol i Fasnachu yn berthnasol i gynnal mesurau diogelu statudol mewn perthynas ag iechyd pobl, materion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a maethiad i’r graddau y mae’n cadw hawl y DU i reoleiddio yn unol â hawliau a rhwymedigaethau rhyngwladol Sefydliad Masnach y Byd ac mewn perthynas â darpariaethau marcio a labelu penodol, fel y nodir isod. Byddai unrhyw anghydfodau a allai godi rhwng y Partïon o dan y bennod hon yn ddarostyngedig i’r broses setlo anghydfod a nodir ym Mhennod 31 (Setlo Anghydfodau) o’r Cytundeb Masnach Rydd.

Erthygl 7.4 Ymgorffori Rhai Darpariaethau o’r Cytundeb ar Rwystrau Technegol i Fasnachu

Mae cadarnhau hawliau a rhwymedigaethau o dan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Rwystrau Technegol i Fasnachu(footnote) yn golygu bod y Partïon yn cydnabod pwysigrwydd telerau Sefydliad Masnach y Byd wrth gymhwyso rheoliadau technegol, safonau a gweithdrefnau asesu cydymffurfiaeth. O ganlyniad, mae’r testun y cytunwyd arno’n ail-gadarnhau hawl y DU i roi mesurau technegol ar waith i gyflawni amcanion polisi cyfreithlon, gan gynnwys diogelu iechyd pobl a diogelwch bwyd (Erthygl 2, Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Rwystrau Technegol i Fasnachu), ac ymgorffori darpariaethau penodol o’r Cytundeb ar Rwystrau Technegol i Fasnachu yn y Cytundeb Masnach Rydd.

Erthygl 7.6 Safonau, Canllawiau ac Argymhellion Rhyngwladol

Mae’r erthygl hon yn ail-gadarnhau ymrwymiadau Sefydliad Masnach y Byd i seilio mesurau Rhwystrau Technegol i Fasnachu ar safonau rhyngwladol perthnasol lle maent yn bodoli. Nid yw hyn yn effeithio ar hawl y DU i reoleiddio nac yn gofyn am newidiadau i fesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd a maethiad.

Erthygl 7.7 Cywerthedd Rheoliad Technegol

Mae Erthygl 2.7 o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Rwystrau Technegol i Fasnachu’n ei gwneud yn ofynnol i aelodau o Sefydliad Masnach y Byd roi cydnabyddiaeth gadarnhaol i dderbyn rheoliadau technegol cyfatebol aelodau eraill, hyd yn oed os yw’r rheoliadau hyn yn wahanol i’w rhai nhw, ar yr amod eu bod yn fodlon bod y rheoliadau hyn yn cyflawni amcanion eu rheoliadau eu hunain yn ddigonol.

Mae’r erthygl hon yn ail-gadarnhau’r ymrwymiad hwn gan Sefydliad Masnach y Byd, ac yn gorfodi’r DU a Seland Newydd i roi cydnabyddiaeth gadarnhaol i unrhyw gais i ddatblygu trefniadau neu gytundebau pellach ar gyfer cyflawni cywerthedd rheoliadau technegol. O’r herwydd, nid yw’n newid mesurau diogelu statudol presennol y DU i’r graddau y gallai ymwneud â rheoliadau technegol ar ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid neu faterion sy’n ymwneud â maethiad.

Erthygl 7.14 Marcio a Labelu

Mae’r erthygl hon yn adeiladu ar yr hawliau a’r rhwymedigaethau cyffredinol sydd yng Nghytundeb Rhwystrau Technegol i Fasnachu Sefydliad Masnach y Byd gan gyfeirio’n benodol at farcio a labelu, sy’n cynnwys mesurau marcio neu labelu sy’n ofynnol at ddibenion diogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid a maethiad. Felly, yn unol ag ymrwymiadau Sefydliad Masnach y Byd, mae testun yr erthygl hon yn diogelu hawl y DU i reoleiddio at ddibenion labelu ynghylch diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid a maethiad ac nid oes angen newid mesurau diogelu statudol presennol y DU. Mae’n rhaid i’r DU a Seland Newydd sicrhau nad yw mesurau o’r fath yn gwahaniaethu ac nad ydynt yn cyfyngu ar fasnach yn fwy nag sy’n angenrheidiol i gyflawni amcanion polisi cyfreithlon (Erthygl 2, Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Rwystrau Technegol i Fasnachu).

Mae’r erthygl yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU a Seland Newydd dderbyn y gall labelu a chywiriadau i labelu ddigwydd yn y man cyrraedd neu’n fewndirol, cyn i’r cynhyrchion gael eu gwerthu, a’u bod yn ddarostyngedig i reolau cenedlaethol a gweithdrefnau tollau, ac eithrio labelu sy’n ofynnol ar gyfer iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd. Mae’r erthygl hefyd yn darparu rhywfaint o hyblygrwydd i alluogi darparu gwybodaeth ar labeli cynhyrchion a fewnforir, yn ychwanegol at yr hyn sy’n ofynnol yn unol â’r rheolau cenedlaethol. Pan ddarperir labeli ychwanegol, ni ddylent fod yn gamarweiniol, yn groes i’r hyn a nodir ar y label gwreiddiol, yn anghyson nac yn ddryslyd ac ni ddylent danseilio gofynion domestig sy’n gyson â rheolau gwybodaeth am fwyd. Mae’r erthygl hefyd yn caniatáu i wybodaeth farcio neu labelu gael ei darparu ar labeli datodadwy neu ddogfennaeth ategol, lle nad yw amcanion polisi cyfreithlon yn cael eu tanseilio. Nid yw’r hyblygrwydd hwn yn newid yr angen i gynhyrchion a fewnforir o Seland Newydd fodloni rheolau cyfredol y DU ar farcio a labelu sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a maethiad.

Pennod 20 – Diogelu Defnyddwyr

Nod y bennod hon yw hyrwyddo mesurau diogelu tryloyw ac effeithiol ar gyfer defnyddwyr, a’u gorfodi, a hynny er mwyn gwella ymddiriedaeth a lles defnyddwyr. Mae’n cynnwys erthygl benodol sy’n gosod rhwymedigaethau ar y Partïon i gynnal mesurau sy’n diogelu’r cyhoedd mewn perthynas â gweithgareddau masnachol twyllodrus, camarweiniol neu annheg, gan gynnwys gwneud honiadau neu hysbysebion ffug (Erthygl 20.2). Mae hyn yn cyd-fynd â mesurau presennol sy’n diogelu defnyddwyr yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990, sef y dylai bwyd a gynigir i’w werthu fod o’r natur neu’r sylwedd neu’r ansawdd y gofynnir amdano, ac na ddylid ei ddisgrifio na’i gyflwyno’n anghywir.

Mae hefyd yn gosod rhwymedigaeth ar y Partïon i ddiogelu defnyddwyr sy’n ymgymryd â gweithgareddau masnachol ar-lein i’r un graddau â mathau eraill o fasnach (Erthygl 20.3). Mae hyn yn gyson â gofynion domestig ar werthu bwyd o bell, i’r graddau y maent yn ymwneud â mesurau diogelu statudol ar gyfer diogelwch bwyd neu faethiad.

Casgliadau

Rydym wedi nodi cyngor yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban ar destun y Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd a’i effaith ar fesurau statudol ar gyfer diogelwch bwyd a maethiad. I grynhoi, dyma ein casgliadau:

  • Mae’r Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU a Seland Newydd yn cynnal y mesurau diogelu statudol presennol ar gyfer diogelwch bwyd a maethiad yn unol â chyfreithiau a rheoliadau’r DU
  • Nid oes angen unrhyw newidiadau i system reoleiddio bwyd y DU i weithredu’r Cytundeb Masnach Rydd hwn ar ôl iddo ddod i rym
  • Mae testun y Cytundeb Masnach Rydd yn cadw ymreolaeth reoleiddiol llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig o ran materion diogelwch bwyd a maethiad, ac ni fydd yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol yn hyn o beth. Bydd gweinidogion iechyd ledled y DU yn parhau i wneud penderfyniadau ynghylch diogelwch bwyd ar sail cyngor tryloyw ar wyddoniaeth a thystiolaeth gan yr ASB, Safonau Bwyd yr Alban, a chyrff arbenigol eraill lle bo’n briodol, gan gynnwys Pwyllgor Honiadau Maeth ac Iechyd y DU. Mae hyn yn allweddol i gynnal mesurau diogelu statudol yn y dyfodol.