Mark Rolfe - Aelod o Fwrdd yr ASB
Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Ymarferwr Safonau Masnach Siartredig yw Mark. Cyn dechrau yn ei swydd bresennol, treuliodd dros 30 mlynedd yn y proffesiwn hwn yn darparu ac yn arwain y gwasanaeth yng Nghaint (Kent).
Yn 2015, dechreuodd Mark yn ei rôl bresennol fel Pennaeth Gwasanaethau Gwyddonol Caint. Gwasanaeth Labordy Dadansoddwr Cyhoeddus, Tocsicoleg a Graddnodi Mesureg Mewnol Sir Caint oedd y gwasanaeth hwn, sy'n darparu'r gwasanaethau hyn i lywodraeth a busnesau lleol a chenedlaethol.
Yn ystod ei yrfa mae Mark wedi bod yn ymwneud â darparu gwasanaethau safonau bwyd ac ymchwilio i dwyll defnyddwyr. Gwasanaethodd Mark ar y Grŵp Tasg Cenedlaethol ar gyfer Safonau Masnach Cenedlaethol ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Safonau Masnach South East Ltd., sefydliad partneriaeth Gwasanaethau Safonau Masnach yn rhanbarth De Ddwyrain Lloegr. Yn ogystal â bod yn aelod o'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, mae Mark hefyd yn aelod cyswllt o Gymdeithas y Dadansoddwyr Cyhoeddus.
Roedd Mark wedi gwasanaethu ar Gyngor Gwyddoniaeth yr ASB ers ei sefydlu yn 2017 fel yr aelod sy'n cynrychioli buddiannau defnyddwyr a dinasyddion.
Y tu allan i'r gwaith, mae Mark yn briod â Jane, sy’n Bennaeth ysgol, ac mae ganddo dri o blant sydd wedi tyfu bellach. Mae’n Gadeirydd Llywodraethwyr mewn ysgol uwchradd fawr ac yn gynghorydd i'r sgowtiaid yn ei ardal leol.
Buddiannau Personol
- Dim
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
- Pennaeth Dros Dro Gwarchod y Gymuned
- Pennaeth Gwasanaethau Gwyddonol Caint, Cyngor Sir Caint
- Ymarferydd Safonau Masnach Siartredig
Rolau heb dâl
- Dim
Gwaith am ffi
- Dim
Cyfranddaliadau
- Dim
Clybiau a sefydliadau eraill
- Aelod o'r Sefydliad Safonau Masnach Siartredig
- Aelod Cyswllt o Gymdeithas y Dadansoddwyr Cyhoeddus
Buddiannau personol eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn bersonol
- Dim
Cymrodoriaethau
- Dim
Cefnogaeth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Dim
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Published: 19 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Gorffennaf 2023