Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Meysydd o ddiddordeb ymchwil

Mae meysydd o ddiddordeb ymchwil yn rhoi manylion am ein blaenoriaethau ymchwil.

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Medi 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Medi 2022
Gweld yr holl ddiweddariadau

Mae dull cryf, gwyddonol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi bod yn ganolog i’n cenhadaeth, a bydd yn parhau felly, sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac ei fod cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a rhoi grym i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus mewn perthynas â bwyd. Rydym yn defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i weithredu ar heriau cyfredol, nodi a mynd i’r afael â risgiau sy’n dod i’r amlwg, a sicrhau bod fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid y Deyrnas Unedig (DU) yn fodern, yn ystwyth ac yn cynrychioli buddiannau defnyddwyr.

Mae strategaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar gyfer 2022-2027 yn nodi ein bod yn seilio ein penderfyniadau ar wyddoniaeth a thystiolaeth, ac rydym yn cynhyrchu mewnwelediadau a dadansoddiadau sy’n llywio ein gwaith yn ogystal â pholisi ac arferion sefydliadau eraill yn y system fwyd. Mae hyn yn cynnwys cyngor arbenigol a ddarperir gan ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol a’r Cyngor Gwyddoniaeth, a sicrhau bod ein holl ganlyniadau ymchwil ar gael i’r cyhoedd, fel rhan o’n hymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw.

Mae’r materion sy’n dylanwadu ar ddiogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid, a’r posibilrwydd y gallai defnyddwyr ddod i gysylltiad iddynt, yn eang. Mae hyn, yn ei dro, yn golygu bod ein meysydd o ddiddordeb ymchwil yn eang. Mae ein meysydd o ddiddordeb ymchwil yn gwestiynau ymchwil rydym am fynd i’r afael â nhw er mwyn hyrwyddo a diogelu iechyd y cyhoedd trwy sicrhau bod defnyddwyr y DU yn wybodus a bod ganddynt fynediad cynaliadwy at fwyd diogel ac olrheiniadwy sy’n cael ei labelu’n gywir. 
 
Cyhoeddodd yr ASB ei meysydd o ddiddordeb ymchwil am y tro cyntaf yn 2017, a rhannwyd set ddiwygiedig yn 2020. Mae ein meysydd o ddiddordeb ymchwil ar gyfer 2022 wedi’u diweddaru i gyd-fynd â Strategaeth yr ASB ar gyfer 2022-2027. Byddant yn canolbwyntio ar ‘fwyd sy’n iachach ac yn fwy cynaliadwy,’ ochr yn ochr â’r conglfeini sefydledig, sef ‘bwyd sy’n ddiogel’ a ‘bwyd sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.  

Mae’r themâu a gyflwynir gennym yn sylfaen i’n huchelgeisiau ymchwil ar gyfer y dyfodol, gan ddarparu tystiolaeth ar gyfer ein polisi, cyngor a gweithrediadau, gan amlygu blaenoriaethau strategol cyfredol. 

Trwy rannu, cyfathrebu ac adolygu ein meysydd o ddiddordeb ymchwil yn rheolaidd, ein nod yw paratoi’n well ar gyfer y dyfodol trwy ehangu ein sylfaen dystiolaeth a chreu cyfleoedd i wneud y canlynol: 

  • meithrin ac estyn cydweithrediadau ag adrannau eraill o’r llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol, y diwydiant, defnyddwyr (a’r grwpiau sy’n eu cynrychioli) i alluogi dealltwriaeth lawn o’r system fwyd ac effaith ymyriadau
  • datblygu mentrau ar y cyd ag Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) a chyllidwyr eraill
  • ymgysylltu â phrifysgolion, sefydliadau ymchwil a darparwyr ymchwil eraill sy’n gweithio ar flaen y gad o ran arloesi, trwy gomisiynu ymchwil, cyd-ddylunio prosiectau newydd a chefnogi cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau i’w galluogi i ddangos effaith sylweddol ar y system fwyd a diogelu defnyddwyr
  • cynnal ymchwil a gwaith datblygu er mwyn sicrhau safonau uchel ar gyfer gwaith samplu diogelwch bwyd, gan gynnwys o fewn system y Labordy Rheoli Swyddogol, gyda chefnogaeth Labordai Cyfeirio Cenedlaethol Bwyd a Bwyd Anifeiliaid y DU
  • cyfrannu at weithgareddau blaenoriaethu partneriaid gan gynnwys y rheiny o fewn Rhwydwaith Ymchwil Diogelwch Bwyd y DU
     
Mae dull cryf, gwyddonol sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi bod, ganolog i’n cenhadaeth, a bydd yn parhau felly, sef sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac ei fod yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, a rhoi grym i ddefnyddwyr wneud dewisiadau gwybodus mewn perthynas â bwyd.
Yr Athro Robin May, ein Prif Gynghorydd Gwyddonol

Nid yw ein meysydd o ddiddordeb ymchwil yn wahoddiad uniongyrchol i dendro. Caiff galwadau ymchwil yr adran eu cyhoeddi a’u caffael trwy borth tendro ac mae manylion tendrau ymchwil llywodraethol newydd y DU hefyd ar gael ar y wefan dod o hyd i gontract.  

Rydym yn annog ymchwilwyr i gysylltu â ni yng nghyswllt crynodebau o ganfyddiadau diweddar neu gynlluniau ar gyfer ymchwil y maent o’r barn eu bod yn berthnasol i gylch gwaith yr ASB. Gallwn hefyd ddarparu datganiadau o gefnogaeth ar gyfer ceisiadau i gyllidwyr eraill sy’n disgrifio ymchwil a fydd yn cyflwyno tystiolaeth sy’n berthnasol i flaenoriaethau’r ASB. 

I drafod unrhyw ran o’r wybodaeth uchod am ymgysylltu gwyddonol gyda’r ASB a’n meysydd o ddiddordeb ymchwil, anfonwch e-bost atom.

Blaenoriaethau ymchwil

Rydym wedi nodi pedair blaenoriaeth ymchwil. O dan bob un o’r blaenoriaethau hyn, ceir meysydd o ddiddordeb ymchwil sy’n sail i’n rhaglenni ymchwil a thystiolaeth gydgysylltiedig. O dan bob un o’r rhain mae gennym gwestiynau manylach, sy’n rhoi trosolwg agosach o’r meysydd lle rydym yn ceisio datblygu a/neu wella ein galluoedd gwyddonol.  

Blaenoriaeth ymchwil – rhif un: Sicrhau diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid

Wrth wraidd ein rôl mae’r angen i sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label ac wrth wneud hynny ddiogelu defnyddwyr rhag risgiau o fewn y system fwyd a sicrhau safonau bwyd uchel. Yn greiddiol i hyn mae proses dadansoddi risg sy’n dibynnu ar asesiad risg annibynnol, wedi’i harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth ddadansoddol economaidd-gymdeithasol, i gefnogi penderfyniadau rheoli risg effeithiol.

Er mwyn sicrhau diogelwch a safonau bwyd, rhaid i ni hefyd gydnabod bod y DU yn rhan o gadwyn cyflenwi bwyd ryngwladol, lle nad ydym yn cynhyrchu ond tua 50% o’r holl fwyd rydym yn ei fwyta yn y DU. Mae ymadawiad y DU â’r UE a’n gwaith tuag at sicrhau masnach ryngwladol ehangach wedi amlygu ymhellach sut mae angen i ni ddeall rôl masnach a gwahaniaethau rhyngwladol mewn systemau cynhyrchu a safonau bwyd. 

Ein meysydd o ddiddordeb ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon yw:  

Blaenoriaeth ymchwil – rhif dau: Deall defnyddwyr a’n cymdeithas ehangach 

Mae cenhadaeth yr ASB yn canolbwyntio ar ddiogelu defnyddwyr a gweithredu er budd y defnyddiwr. Felly mae’n hanfodol deall beth sy’n ysgogi ac yn dylanwadu ar ymddygiadau yn y system fwyd. Er mwyn gweithredu er budd defnyddwyr ym meysydd polisi bwyd a’r system fwyd, mae’n rhaid i ni ddeall a monitro ymddygiad, agweddau sy’n newid, a thueddiadau sy’n cael eu llywio gan ddefnyddwyr, a chwarae ein rhan i gefnogi dewisiadau deiet diogel, iachus a chynaliadwy i bawb.

Er mwyn gweithredu polisïau effeithiol, mae angen i ni ddeall beth mae defnyddwyr yn ei feddwl, ei deimlo a’i wneud, a sut mae hyn oll yn newid, yn ogystal â’r gwahaniaethau rhwng defnyddwyr, a sut mae’r rhain yn effeithio ar diogeledd bwyd, diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd.

Mae’n hanfodol deall rôl marchnadoedd a modelau busnes newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, a thrwy’r rhain, y rôl y mae busnesau bwyd yn ei chwarae wrth yrru ymddygiad a dylanwadu ar alw defnyddwyr. Mae hyn yn cynnwys datblygu a chyflwyno bwydydd newydd (fel ffynonellau protein amgen neu fwydydd wedi’u peiriannu’n enetig).  

Ein meysydd o ddiddordeb ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon yw:  

Blaenoriaeth ymchwil – rhif tri: Addasu at system bwyd a bwyd anifeiliaid y dyfodol

Nodweddir system fwyd yr 21ain ganrif gan ei chymhlethdod a’i harloesedd. Rhoddodd COVID-19 a’r pandemig straen aruthrol ar y system fwyd fyd-eang, gan brofi ei gwytnwch. Fe amlygodd y pandemig, yn y byd rhyng-gysylltiedig a chyflym hwn, fod angen mynediad at yr wybodaeth orau, y data gorau, a’r gallu i sganio’r gorwel i ddeall newidiadau yn y system, effaith y rhain, a sut maent yn creu gwendidau.  

Gall digwyddiadau byd-eang, tueddiadau newydd ymysg defnyddwyr, newid mewn arferion busnes ac arloesi bwyd oll greu risgiau a chyfleoedd newydd. Yn y maes hwn, mae angen ymchwil a thystiolaeth arnom i ddeall y posibilrwydd o darfu ar ein system fwyd, ac effaith newid. Mae angen i ni allu nodi technolegau bwyd newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg, a bod yn barod ar gyfer yr heriau diogelwch posib a’r heriau eraill sy’n deillio o’r bwydydd a’r prosesau newydd hyn. Mae hyn yn cynnwys bod â phroses dadansoddi risg arloesol ar waith sy’n cael ei gyrru gan wyddoniaeth ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig.  

Ein meysydd o ddiddordeb ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon yw:   

Blaenoriaeth ymchwil – rhif pedwar: Mynd i’r afael â heriau mawr byd-eang 

Nid yw’r system fwyd yn sefyll ar wahân i heriau byd-eang fel newid yn yr hinsawdd, llygredd plastig ac ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR). Rydym hefyd yn wynebu heriau iechyd mawr, gan gynnwys argyfwng gordewdra, oherwydd deiet a maethu gwael.

Mae angen i ni ddeall sut mae’r rhain yn effeithio ar y system fwyd, naill ai’n uniongyrchol neu o ganlyniad i fesurau lliniaru/atebion sy’n cael eu cyflwyno, a’r rôl y gall ein gwyddoniaeth ei chwarae i helpu i fynd i’r afael â’r bygythiadau mawr hyn.  Fel darparwr tystiolaeth, byddwn yn cefnogi mentrau trawslywodraethol, fel Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a’r Strategaeth Sero Net. 

Ein meysydd o ddiddordeb ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon yw: