Meysydd o ddiddordeb ymchwil
Mae meysydd o ddiddordeb ymchwil yn rhoi manylion am ein blaenoriaethau ymchwil.
Rydym ni’n defnyddio gwyddoniaeth a thystiolaeth i weithredu ar heriau heddiw, i nodi a mynd i'r afael â risgiau sy'n dod i'r amlwg, ac i sicrhau bod fframwaith rheoleiddio diogelwch bwyd y Deyrnas Unedig (DU) yn fodern, yn ystwyth ac yn cynrychioli buddiannau defnyddwyr. Mae ein polisïau a'n penderfyniadau yn seiliedig ar y data a'r dadansoddiad gwyddonol gorau sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys cyngor arbenigol a ddarperir gan ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol annibynnol a'r Cyngor Gwyddoniaeth, ac rydym ni’n sicrhau bod ein holl ganlyniadau ymchwil ar gael i'r cyhoedd.
Mae'r materion sy'n dylanwadu ar ddiogelwch a safonau bwyd a’r posibilrwydd bod defnyddwyr yn dod i gysylltiad â nhw yn eang, sy'n golygu bod ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn eang. Mae ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn gwestiynau ymchwil yr ydym ni am fynd i'r afael â nhw mewn cydweithrediad â phartneriaid gan gynnwys y byd academaidd a'r gymuned ymchwil ehangach. Rydym ni am hyrwyddo a diogelu iechyd y cyhoedd trwy sicrhau bod defnyddwyr y DU yn wybodus ac yn cael mynediad cynaliadwy at fwyd sy'n ddiogel, bwyd y gellir ei olrhain a bwyd sy’n cael ei labelu’n gywir.
Trwy ledaenu, cyfathrebu ac adolygu ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn rheolaidd a’u diweddaru yn ôl yr angen, ein nod yw paratoi'n well ar gyfer y dyfodol trwy ehangu ein sylfaen dystiolaeth, a chreu a manteisio ar gyfleoedd i:
- adeiladu ac ymestyn cydweithrediadau ag adrannau eraill y Llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol, y diwydiant, defnyddwyr a grwpiau sy'n eu cynrychioli i alluogi dealltwriaeth lawn o'r system fwyd ac effaith ymyriadau
- datblygu mentrau ar y cyd ag Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) a chyllidwyr eraill
- ymgysylltu â phrifysgolion a darparwyr ymchwil eraill sy'n gweithio ar flaen y gad o ran arloesi trwy gomisiynu ymchwil, cyd-ddylunio prosiectau newydd a phrosiectau datblygu cyffrous a thrwy gefnogi cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau
- cynnal a gwella mynediad at rwydweithiau arbenigol a defnydd ohonynt, gan gynnwys ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol a'n Cofrestr o Arbenigwyr
- nodi cyfleoedd newydd ar gyfer profi ymchwil a datblygu i sicrhau safonau gallu uchel ar gyfer samplu diogelwch bwyd, gan gynnwys o fewn system y Labordy Rheoli Swyddogol, gyda chefnogaeth Labordai Cyfeirio Cenedlaethol Bwyd a Bwyd Anifeiliaid y DU
Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill i gefnogi'r gadwyn cyflenwi bwyd ddiogel a gwydn yn y DU. Mae helpu i fynd i'r afael â chwestiynau a'u datblygu yn ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn gyfle i bartneriaid ddangos effaith sylweddol ar y system fwyd a diogelu defnyddwyr.
Meddai ein Prif Gynghorydd Gwyddonol, yr Athro Robin May:
'Mae dull cryf, gwyddonol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth wedi bod yn rhan ganolog, ac mi fydd wastad yn rhan annatod, o'n cenhadaeth i sicrhau bod bwyd yn ddiogel, yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label ac i rymuso defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus mewn perthynas â bwyd.'Mae ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn amlinellu'r ystod o ymchwil wyddonol sy'n darparu tystiolaeth ar gyfer ein polisi, ein cyngor a'n gweithrediadau, gan dynnu sylw at flaenoriaethau strategol cyfredol. Y themâu a gyflwynir yw asgwrn cefn uchelgeisiau ein rhaglenni ymchwil a datblygu yn y dyfodol, a chânt eu defnyddio i hyrwyddo ymgysylltiad rhwng yr ASB, adrannau eraill y llywodraeth a'r gymuned academaidd ehangach i fynd i'r afael â meysydd o ddiddordeb hanfodol a rennir.'
Blaenoriaethau ymchwil
Rydym ni wedi nodi pedair blaenoriaeth ymchwil. O dan bob un o'r blaenoriaethau strategol hyn, mae set o themâu ymchwil, sy'n sail i'n rhaglenni ymchwil a thystiolaeth gydlynol. Ym mhob un o'r rhain mae gennym ni gwestiynau manylach, sy'n rhoi trosolwg agosach o'r meysydd lle'r ydym yn ceisio datblygu a/neu wella ein galluoedd gwyddonol.
Nid yw ein Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil yn wahoddiad uniongyrchol i dendro. Caiff galwadau ymchwil yr adran eu cyhoeddi a’u caffael trwy borth tendro ac mae manylion tendrau ymchwil Llywodraethol newydd y DU hefyd ar gael ar y wefan dod o hyd i gontract.
Blaenoriaeth ymchwil un: gorsensitifrwydd i fwyd ac alergeddau
Rydym ni wedi amlinellu ein gweledigaeth i sicrhau mai’r DU yw’r wlad orau yn y byd i ddefnyddwyr â gorsensitifrwydd i fwyd.
Er mwyn cyflawni hyn, mae angen mynediad at y wyddoniaeth a'r dystiolaeth orau i ddeall sut i ddiogelu’r rheiny ag alergeddau bwyd orau a helpu i wella ansawdd eu bywyd. Rydym ni am adeiladu dull gwirioneddol rhyngddisgyblaethol i fynd i'r afael â'r her hon. Byddwn ni’n tynnu ar y gwyddorau naturiol a chymdeithasol fel ein bod ni’n gallu datblygu ein dealltwriaeth o ddatblygiad biolegol a chlinigol alergedd bwyd, diagnosis, effaith economaidd-gymdeithasol a mewnwelediad i ymddygiadau i helpu i liniaru ei effaith.
Darparwyd diweddariad ar y rhaglen gorsensitifrwydd bwyd yng nghyfarfod y Bwrdd Mehefin 2021.
Ein thema ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon:
- Sut y gall yr ASB ddiogelu defnyddwyr y DU rhag y peryglon iechyd a berir gan gorsensitifrwydd i fwyd (gan gynnwys alergeddau ac anoddefiad)?
Blaenoriaeth ymchwil dau: sicrhau diogelwch a safonau bwyd
Mae diogelu defnyddwyr rhag risgiau diogelwch bwyd a sicrhau safonau bwyd uchel wrth wraidd ein rôl. Yn greiddiol i hyn mae proses dadansoddi risg newydd sy'n dibynnu ar asesiad risg annibynnol, wedi'i harwain gan wyddoniaeth a thystiolaeth ddadansoddol economaidd-gymdeithasol, i gefnogi penderfyniadau rheoli risg effeithiol.
Ein themâu ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon:
- Sut y gellir asesu a lleihau effaith halogion cemegol (gan gynnwys nanoddeunyddiau a microplastigion) mewn bwyd?
- Sut y gall yr ASB ddeall a lleihau effaith pathogenau a gludir gan fwyd yn well?
- Sut y gall yr ASB wella'r sylfaen dystiolaeth sy'n ymwneud ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) a bwyd?
Blaenoriaeth ymchwil tri: arloesi mewn rheoleiddio bwyd
Ein nod yw bod yn rheoleiddiwr modern ac atebol. Rhaid i ni fod yn arloesol, a bod â’r gallu i ddatblygu a manteisio ar ddulliau newydd i gefnogi'r gwaith a wnawn. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu datblygiadau technolegol o feysydd fel diagnosteg (er enghraifft dilyniannu’r genhedlaeth nesaf neu ddadansoddwyr cemegol cludadwy) ac adnoddau digidol a dadansoddeg data. Mae hefyd yn ymwneud â defnyddio datblygiadau mewn ymchwil gymdeithasol er mwyn helpu i gyd-ddylunio arloesedd gyda'r rhai sy'n defnyddio technoleg newydd i sicrhau ei bod yn cael ei gweithredu'n effeithiol. Mae hyn yn cynnwys mwy o fewnwelediad i ymddygiadau defnyddwyr a'r busnesau bwyd sy'n eu cyflenwi.
Ein themâu ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon:
- Pa rôl y mae ymddygiad a chanfyddiad defnyddwyr a gweithredwyr busnesau bwyd yn ei chwarae wrth sicrhau diogelwch a safonau bwyd?
- Beth yw diddordeb defnyddwyr yn y system fwyd, gan gynnwys diogelwch a safonau, maeth ac iechyd, dewis, argaeledd, mynediad, cynaliadwyedd a lles?
- Sut y gellir defnyddio data ac arloesiadau digidol i greu system fwyd fwy diogel?
- Sut gall yr ASB fod ar flaen y gad wrth ddatblygu a gweithredu rheoliadau bwyd?
Blaenoriaeth ymchwil pedwar: dyfodol systemau bwyd
Nodweddir system fwyd yr 21ain ganrif gan ei chymhlethdod. Mae hefyd yn system fyd-eang, lle mae'r DU nid yn unig yn mewnforio tua hanner y bwyd y mae'n ei fwyta ond hefyd yn allforio bwyd a diod o safon. Mae Covid-19 a'r pandemig wedi rhoi straen aruthrol ar y system fwyd ac wedi profi ei wytnwch. Fe amlygodd y pandemig, yn y byd rhyng-gysylltiedig a chyflym hwn, fod angen mynediad at yr wybodaeth orau a’r gallu i sganio'r gorwel i ddeall newidiadau yn y system, effaith y rhain a sut maent yn creu gwendidau. Gall digwyddiadau byd-eang, tueddiadau newydd defnyddwyr ac arferion busnes, oll greu risgiau a chyfleoedd newydd. Yn y maes hwn, mae angen ymchwil a thystiolaeth arnom i ddeall y tebygolrwydd o unrhyw darfu yn ein system fwyd, er enghraifft, a achosir gan newidiadau mewn ymddygiad ac arfer sy'n gysylltiedig â COVID-19, cyflwyno bwydydd newydd (er enghraifft ffynonellau protein amgen neu fwydydd wedi’u peiriannu’n enetig) neu ddulliau i helpu i wrthsefyll effaith negyddol troseddau bwyd.
Ein themâu ymchwil ar gyfer y flaenoriaeth hon:
- Sut y gall yr ASB barhau i ymateb i heriau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg yn system fwyd y DU gan gynnwys heriau digynsail fel y rhai sy'n gysylltiedig â COVID-19?
- Beth yw effaith bwydydd, ychwanegion a phrosesau newydd ac anhraddodiadol ar ddefnyddwyr y DU?
- Beth yw effaith troseddau yng nghadwyn cyflenwi bwyd y DU, gan gynnwys twyll bwyd, a sut y gellir ei ganfod a'i fonitro'n well?
Cysylltu â ni
I drafod unrhyw ran o'r wybodaeth uchod ar ymgysylltu â gwyddoniaeth gyda'r ASB a'n Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil, cysylltwch ag Uned Strategaeth, Ymchwil a Gallu Gwyddoniaeth yr ASB.