Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd: Gweithio gyda’r Diwydiant

Bydd yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yn ceisio arwain, atal, cefnogi a chydlynu ymchwiliad i droseddau bwyd a amheuir.

Beth yw’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd?

Mae’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) yn rhan o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). 

Rydym yn gyfrifol am ymdrin â thwyll difrifol a throseddoldeb cysylltiedig yn y sector bwyd ac rydym wedi ymrwymo i ddiogelu defnyddwyr a’r diwydiant bwyd rhag anonestrwydd difrifol o fewn cadwyni cyflenwi bwyd, yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rydym yn gweithio’n agos ag Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban, sy’n rhan o Safonau Bwyd yr Alban. 

Rydym yn gweithio i nodi bygythiadau troseddol i sectorau bwyd, bwyd anifeiliaid a diod y DU, gan ganolbwyntio ein hadnoddau yn y meysydd hynny a nodwyd fel rhai sy’n cyflwyno’r risgiau mwyaf a gweithio gyda phartneriaid i gael y canlyniadau gorau.

Pwysig: Yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol (NCA) sy’n ymdrin â halogiad cynhyrchion bwyd. Bydd yr arferion a’r perthnasoedd sydd ar waith gennych gyda nhw yn hyn o beth yn parhau yr un fath.

Beth yw troseddau bwyd? 

Mae troseddau bwyd yn dwyll difrifol sy'n effeithio ar ddiogelwch neu ddilysrwydd bwyd. Yn yr NFCU, rydym wedi nodi saith math o droseddau bwyd:

  • Dwyn – dwyn cynhyrchion bwyd neu eu caffael trwy dwyll er budd personol.
  • Prosesu anghyfreithlon – prosesu bwyd gan ddefnyddio dulliau neu safleoedd sydd heb eu hawdurdodi. 
  • Dargyfeirio gwastraff – Dargyfeirio sgil-gynhyrchion, bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid y bwriedir eu gwaredu yn ôl i’r gadwyn fwyd. 
  • Difwyno – defnyddio cynhwysion anghywir i leihau costau neu ffugio ansawdd uwch. 
  • Amnewid – amnewid cynnwys bwyd neu gynnwys cynnyrch â chynhwysion o ansawdd is, heb labelu cywir
  • Camgyfleu – nodi’n anghywir ansawdd, tarddiad neu ddiogelwch cynnyrch. 
  • Twyll dogfennau – defnyddio dogfennau ffug i werthu cynhyrchion twyllodrus neu rai o safon is

Sut rydym yn gweithio

Rydym yn ceisio gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth angenrheidiol ac  yn barod i nodi ac asesu twyll, a gweithredu yn ei gylch.

Gan gydweithio â Safonau Bwyd yr Alban, ein gweledigaeth yw sicrhau nad oes twyll difrifol o fewn cadwyni cyflenwi bwyd y DU, a bod amgylchedd gelyniaethus iddynt. Ein nod yw bod defnyddwyr, y llywodraeth a’r diwydiant yn ein hystyried yn rhagweithiol, yn arloesol ac yn broffesiynol.
 
Ein nod yw cyflawni hyn trwy gymhwyso methodoleg datrys problemau syml.

Erlid troseddwyr

Bydd yr NFCU yn ceisio arwain, cefnogi, neu gydlynu ymchwiliad i droseddau bwyd a amheuir. Wrth wneud y penderfyniad hwnnw, bydd Pennaeth yr NFCU yn ystyried cwmpas daearyddol a graddfa’r troseddu a amheuir a natur a graddau’r niwed gwirioneddol, posib neu fwriadedig i’r canlynol:

  • y cyhoedd
  • gweithredwr busnes bwyd
  • hyder yn niwydiant bwyd y DU
  • blaenoriaethau strategol yr NFCU fel y’u nodir yn ei strategaeth reoli flynyddol.

Atal Troseddau Bwyd rhag Digwydd

Gellir lleihau’r bygythiad o droseddau bwyd drwy darfu’n gyfreithlon ar droseddu pan gaiff ei nodi naill ai gan ein gweithredoedd ein hunain neu gyda phartneriaid. Rydym hefyd yn ceisio nodi pwyntiau lle gall unigolion ddechrau cyflawni troseddau a gweithio i ymyrryd i atal unrhyw ddirywiad pellach yn eu hymddygiad. Nod hyn yw atal materion lefel isel o ddiffyg cydymffurfio â chyfreithiau bwyd rhag datblygu trwy anonestrwydd yn dwyll difrifol.

Diogelu’r rhai sydd mewn perygl

Gellir hefyd drechu gwendidau troseddau bwyd trwy fesurau diogelu. Mae sicrhau bod amgylcheddau cynhyrchu, gweithgynhyrchu a manwerthu bwyd yn rhai gelyniaethus i droseddwyr weithredu ynddynt yn elfen allweddol o unrhyw ddull cyfannol tuag at atal troseddu. Mae angen i ni wybod lle caiff arferion twyllodrus eu nodi. Mae hyn yn ein galluogi i gymryd camau priodol yn erbyn troseddwyr a nodir er mwyn diogelu’r cyhoedd a’r diwydiant. Rydym yn bwriadu gweithio gyda’r diwydiant i helpu i nodi meysydd a all fod yn agored i dwyll a datblygu atebion arloesol sy’n diogelu busnesau.

Paratoi Gwytnwch i Droseddau Bwyd

Drwy feithrin gallu partneriaid ar draws y dirwedd reoleiddio a gorfodi’r gyfraith a’r diwydiant bwyd, byddwn yn gallu deall troseddau bwyd yn well a chael sylw gwell. Mae casglu gwybodaeth yn allweddol i wybod beth sy’n digwydd fel y gallwn nodi ble a sut i weithredu. 

Rydym am weithio gyda diwydiant bwyd y DU, a sicrhau ei fod mor ddiogel â phosib.. Bydd ein cynorthwyo yn helpu i gyflawni gostyngiad mewn troseddau bwyd drwy:

  • gasglu a defnyddio gwybodaeth troseddau bwyd er mwyn mynd ag ymholiadau ymchwiliadau yn eu blaen.
  • gweithredu a chefnogi camau a gymerir gan gyrff eraill sy’n gorfodi’r gyfraith, fel awdurdodau lleol neu’r heddlu
  • codi ymwybyddiaeth o droseddau bwyd ar draws y diwydiant a thynnu sylw at y risg y mae’n ei hachosi a sut y gellir lliniaru’r risg hon. Byddwn yn gweithio gyda busnesau i nodi gwendidau a sut i fynd i’r afael â hwy. 

Sicrhau Ymddiriedaeth Defnyddwyr:

  • darparu asesiadau strategol rheolaidd sy'n dangos ein dealltwriaeth o beryglon troseddau bwyd i’r DU
  • sicrhau bod bygythiadau’n cael eu blaenoriaethu ar sail y risg fwyaf o niwed i ddefnyddwyr, y diwydiant a budd ehangach y cyhoedd.
  • sefydlu a chadw proffil cyhoeddus uchel ar gyfer materion troseddau bwyd
  • dangos arweiniad wrth ymateb i droseddau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. 

Beth yw’r peryglon a achosir gan droseddau bwyd?

Gall effaith troseddau bwyd fod yn niweidiol iawn i ddefnyddwyr, busnesau bwyd, cymunedau lleol, yr economi ac enw da’r DU dramor.

Mae’r DU yn elwa ar fwyd a diod sydd gyda’r mwyaf diogel a dilys yn y byd. Serch hynny, mae yna fygythiadau, a pho fwyaf yr ymdrech i'w deall, mwyaf y gellir ei wneud i atal niwed i ddefnyddwyr.

Mae gan droseddau bwyd nodweddion penodol a fydd wastad yn cynnig heriau wrth geisio eu canfod, ac wrth geisio deall ac asesu maint a natur y broblem yn llawn. Nid yw troseddau bwyd o reidrwydd yn ganfyddadwy trwy ddigwyddiadau diogelwch bwyd, ac o’r herwydd mae eu darganfod gan y rheiny sy’n gorfodi’r gyfraith yn heriol iawn.

Dyma pam mae adrodd gan y diwydiant yn allweddol i waith yr NFCU. Mae gan bob partner y diwydiant rwymedigaeth gyfreithiol a moesol i sicrhau bod diwydiant bwyd y DU yn cael ei ddiogelu rhag unrhyw weithgareddau twyllodrus a allai effeithio ar fusnesau ac a allai achosi risg diogelwch i ddefnyddwyr terfynol.

Sut gall yr NFCU gefnogi’r diwydiant?

Trwy ddatblygu a rhannu gwybodaeth am y bygythiadau mae’r DU yn eu hwynebu.

Mae’r NFCU yn gweithio i hysbysu’r diwydiant a defnyddwyr am unrhyw risgiau neu fygythiadau rydym yn eu canfod. Rydym wedi ymrwymo i rannu ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o droseddau bwyd i gefnogi ein partneriaid.

Gellir dangos ein cefnogaeth mewn sawl ffurf wahanol, fel ymgyrchoedd cyfathrebu wedi’u hanelu at sector penodol o’r diwydiant bwyd neu gymuned yn y DU. Rydym hefyd yn cyhoeddi bwletinau ar gyfer awdurdodau lleol, ac erthyglau i’r diwydiant bwyd a gaiff eu rhannu trwy nifer o wahanol sianeli, fel Cylchlythyr Chwarterol yr NFCU

Mae Swyddogion Atal a Rheolwyr Perthynas hefyd yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant bwyd ar dwyll bwyd trwy gynnig cyngor pwrpasol, cyflwyniadau i gyflenwyr/cwsmeriaid, rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau’r diwydiant neu weminarau a datblygu offer i’w cynorthwyo i adeiladu eu gwytnwch. Rydym yn annog ymgysylltiad rheolaidd â’r diwydiant i ddeall yn well unrhyw wendidau y gallent fod yn eu hwynebu ac yn cynnig cyngor pwrpasol i helpu i leihau gwendidau o’r fath.

Adnodd Hunanasesu Gwytnwch Twyll Bwyd

Mae’r NFCU wedi lansio Adnodd Hunanasesu Gwytnwch Twyll Bwyd Ar-lein, a ddatblygwyd gan dîm Atal yr NFCU i gynorthwyo busnesau bwyd i nodi risgiau twyll bwyd a darparu cyngor allweddol. Gellir dod o hyd i’r adnodd ar wefan yr ASB ac mae wedi’i gynllunio ar gyfer gweithredwr busnes bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd i’w ddefnyddio gan bob busnes bwyd waeth beth fo’i faint neu sector. 
 
Mae’r adnodd yn ymdrin â phynciau fel:

  • atal twyll yn y gadwyn gyflenwi 
  • gweithredu ar dwyll bwyd 
  • adolygu prosesau atal twyll ac effeithiolrwydd
  • diwylliant atal twyll

Gellir llenwi’r adnodd yn ddienw ac ni ddylai gymryd mwy na 15 munud.

Mae’r tîm hefyd wedi datblygu Asesiad Twyll Manwl, sy’n eu galluogi i gwrdd â busnesau a chael golwg ddyfnach o’u risg o dwyll, a thrafod lle gellir gwneud gwelliannau ac amlygu’r hyn sy’n gweithio.

Mynd i’r afael â throseddau bwyd: Rhannu’r un nod

I’r diwydiant a defnyddwyr fel ei gilydd, mae delio’n effeithiol â throseddau bwyd yn diogelu’r cyhoedd ac uniondeb bwyd yn y DU.

Ar gyfer busnesau, mae mynd i’r afael â throseddau bwyd yn sicrhau bod ansawdd cynnyrch yn bodloni disgwyliadau'r defnyddwyr, sydd yn ei dro yn helpu i gynnal enw da brandiau, gan sicrhau ymddiriedaeth a diogelwch cwsmeriaid. 

Rydym yn gweithio tuag at yr un amcanion. Rydym am sicrhau bod diwydiant bwyd y DU yn cynnal ei enw da am ragori o ran darparu’r bwyd a diod mwyaf diogel ac o’r ansawdd gorau yn y byd. Dyna pam mae’r NFCU wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant a meithrin perthnasoedd ystyrlon er mwyn mynd i’r afael â throseddau bwyd.

Sut mae’r diwydiant yn cefnogi’r NFCU?

Rhowch wybod i ni pan fo gennych amheuon ehangach am drosedd bwyd.  Nodwch unrhyw wybodaeth a allai ymwneud ag anonestrwydd a amheuir o fewn y gadwyn cyflenwi bwyd. Gall hyn amrywio o nwydd yn cael ei werthu am bris nad yw’n gwneud synnwyr ariannol, problemau cyflenwad a ragwelir a allai greu cyfle i gyflenwyr barhau i werthu cynnyrch oherwydd prinder. Gellir rhoi gwybod am unrhyw amheuon yn gyfrinachol i’r NFCU. Gallwch fod yn sicr y bydd unrhyw wybodaeth a rennir bob amser yn cael ei thrin yn broffesiynol, yn gyfrinachol ac yn sensitif.

Gweithio gyda Rheolwr Perthynas

Mae Rheolwyr Perthynas yn gyswllt penodedig o fewn yr NFCU sy’n ymgysylltu â nifer o bartneriaid ar draws y diwydiant i hwyluso rhannu gwybodaeth rhwng yr uned a’r diwydiant. Gall Rheolwr Perthynas fod yn bwynt cyswllt penodol y gallwch ymddiried ynddo i rannu gwybodaeth mewn modd anffurfiol. Nod Rheolwyr Perthynas yw meithrin perthnasoedd o fewn y diwydiant ar bob lefel, a chynnal y perthnasoedd hynny. Os hoffech gysylltu â rheolwr perthynas, gallwch anfon e-bost i: NFCU.Prevention@food.gov.uk.

Hyrwyddo’r NFCU a Threchu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol

Mae’r NFCU yn gweithredu gwasanaeth Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol, sefadnodd diogel a phwrpasol ar gyfer y rheiny sy’n gweithio o fewn ac o amgylch y diwydiant bwyd er mwyn rhoi gwybod am amheuon o droseddau bwyd. Mae hyrwyddo’r adnodd hwn, gan ac o fewn eich busnesau, yn dangos cefnogaeth i’r ymgyrch atal twyll, ac yn codi ymwybyddiaeth ar draws y diwydiant. 

Mewnosod Mecanweithiau Gwytnwch Twyll

Er mwyn canfod pryderon mewn perthynas â throseddau bwyd posib, mae’n hanfodol bod busnesau bwyd yn deall sut gallai ymddygiad troseddol ymddangos iddyn nhw. Mae hyn yn galluogi busnesau i ganfod ac ymateb i beryglon a risgiau a nodir drwy gyflwyno strategaeth gwytnwch twyll.

Mae’r Sefydliad Diogelwch, Uniondeb a Diogelu Bwyd wedi cyhoeddi Canllawiau Arfer Da ar Wytnwch Twyll ar gyfer y sectorau bwyd a diod. Mae’r cyhoeddiad hwn yn helpu partneriaid i adolygu a gwella eu protocolau cyfredol, ac yn ei dro, bydd yn cefnogi’r broses adrodd am bryderon i’r NFCU

Gweithio gyda’r Tîm Atal

Prif ddiben y tîm atal yw helpu i ddiogelu busnesau a defnyddwyr drwy leihau’r tebygolrwydd o droseddau bwyd a’u heffaith. Rydym yn annog y diwydiant i weithio gyda’r tîm i gael gwell dealltwriaeth o’u gwendidau cyfredol/posib a sut i fynd i’r afael â nhw. Mae'r tîm yn gweithio’n gyson ar offer atal arloesol newydd fel yr adnodd gwytnwch twyll bwyd ar-lein er mwyn mynd i’r afael â throseddau bwyd. 

Diogelu eich gwybodaeth

Prif ddiben y tîm atal yw helpu i ddiogelu busnesau a defnyddwyr drwy leihau’r tebygolrwydd o droseddau bwyd a’u heffaith. Rydym yn annog y diwydiant i weithio gyda’r tîm i gael gwell dealltwriaeth o’u gwendidau cyfredol/posib a sut i fynd i’r afael â nhw. Rydym yn deall pwysigrwydd diogelu gwybodaeth a ddarperir gan fusnes bwyd, a’r risg i’w henw da pe bai hon yn cael ei thrin yn anghywir. Mae diogelu’r wybodaeth hon yn galluogi’r NFCU i fynd ar ôl canlyniadau cryfach a mwy effeithiol trwy ddiogelu defnyddwyr a busnesau rhag gweithgarwch troseddol. 

Mae’r wybodaeth yr hoffem i chi ei rhannu wedi ei chynnwys yn Atodiad A. Dyma fethodoleg sydd wedi ei rhoi ar waith a’i phrofi yn system cyfiawnder troseddol y DU. Rydym am weithio gyda phartneriaid mewn modd cyfrinachol i ddiogelu’r cyhoedd rhag canlyniadau troseddau bwyd.

Dyma’r prosesau y byddwn yn eu cymhwyso wrth drin gwybodaeth:

  • byddwn yn ei chofnodi, ei chadw, ei hadolygu a’i datblygu i’n galluogi i nodi unrhyw destunau ymholiad mewn perthynas â’r ymddygiad yr adroddwyd amdano yn unol â CIPA.
  • byddwn yn ei storio ar systemau gwarchodedig, wedi’u prosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch priodol y data personol, gan gynnwys amddiffyniad rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon ac yn erbyn colled, dinistr neu ddifrod damweiniol, gan ddefnyddio mesurau technegol neu sefydliadol priodol (‘uniondeb a chyfrinachedd’).  UK GDPR
  • lle defnyddir yr wybodaeth a ddarperir fel man cychwyn i ymchwiliad, bydd ymchwilwyr yn gweithio i gasglu tystiolaeth o unrhyw droseddau a gasglwyd at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon, er mwyn diogelu gwybodaeth rhag dod yn dystiolaeth sydd ar gael i’r amddiffyniad. Bydd yn cael ei phrosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw mewn perthynas â phwnc y data (‘cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder’).
  • bydd yr holl wybodaeth, waeth beth fo’i math, ei chynnwys, ei sensitifrwydd cychwynnol canfyddedig neu berthnasedd a gesglir yn ystod ymchwiliad yn cael ei datgelu i’r Erlynydd, a fydd yn asesu’r wybodaeth yn unol â CPIA ar gyfer datgeliad posibl. Byddwn yn ymdrechu i ddiogelu unrhyw wybodaeth sensitif trwy brosesau diogelu CPIA priodol.

Siarter Diwydiant yr NFCU

Mae’r NFCU wedi ymrwymo i weithio â’r diwydiant bwyd a diod er mwyn sicrhau bod defnyddwyr a busnesau bwyd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi’u diogelu rhag anonestrwydd difrifol o fewn cadwyni cyflenwi bwyd.

Mae’r ymrwymiadau canlynol yn sail i’r modd y byddwn yn gweithio â chi i gyflawni hyn:

  • byddwn wastad yn trin yr holl wybodaeth a ddarperir gennych chi â phroffesiynoldeb a chyfrinachedd, gan ei diogelu rhag cael ei datgelu’n amhriodol
  • byddwn yn rhannu ein dealltwriaeth o natur a maint troseddau bwyd â phartneriaid, er mwyn eu cefnogi wrth adeiladau a chynnal gwytnwch yn erbyn bygythiadau o’r fath
  • byddwn yn gweithio â busnesau bwyd i archwilio honiadau o droseddau bwyd ac er mwyn lleihau cyfleoedd troseddu

Cysylltu â ni

Os yw eich busnes wedi bod yn destun trosedd bwyd, neu os hoffech rannu amheuon neu bryderon am droseddau bwyd â ni, cysylltwch â ni:

Trechu Troseddau Bwyd yn Gyfrinachol: Rhadffôn 0800 028 1180. Ar gyfer ffonau symudol y tu allan i'r DU neu alwadau o dramor, defnyddiwch 0207 276 8787.
E-bost: FoodCrime@food.gov.uk 
Ffurflen we: Rhoi gwybod am drosedd bwyd (food.gov.uk) 

Er mwyn trafod cyfleoedd i weithio’n agosach â ni, neu er mwyn gwneud cais i gyrchu’r asesiadau gwybodaeth rydym yn eu cynhyrchu, cysylltwch â thîm Rheoli Cysylltiadau’r Uned trwy  NFCU.Prevention@food.gov.uk

Atodiad A: Gofynion Gwybodaeth yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd

Pryd digwyddodd hyn?
Amseroedd a dyddiadau

Ble digwyddodd hyn?
Gall hyn gynnwys disgrifiad o gynllun adeilad, ystafelloedd arwyddocaol, adeiladau allanol ac ati? – a yw’n safle busnes, annedd breifat, man cyhoeddus, ac ati? (Cyfeiriad gan gynnwys cod post?)

Pwy sy’n rhan o hyn?
Cwmni, cyflenwr, dosbarthwr/casglwr, unigolyn preifat, gweithiwr
Enw, Disgrifiad, Dyddiad geni, Cyfeiriad, Rhif Ffôn ac E-bost

Pa gerbydau sy’n cael eu defnyddio?
Plât Cofrestru, gwneuthurwr, lliw, marciau (enwau cwmnïau ac ati), unrhyw beth amlwg. Faniau wedi’u hoeri, lorïau, ceir ac ati.

Pa weithgaredd sy’n cael ei gynnal?
Amnewid, Dargyfeirio gwastraff, Difwyno, Dwyn, Twyll Dogfennau, Prosesu Anghyfreithlon, Camgynrychioli (nodwch bob un sy’n berthnasol)

Sut mae’r gweithgaredd yn cael ei gynnal?
Y dull gweithredu a’r technegau sy’n cael eu defnyddio. Cynifer o fanylion ag sy’n berthnasol

Pwy sydd ar ei ennill o ganlyniad i hyn?
Sut maent yn ennill arian?

Pwy sydd ar ei golled o ganlyniad i hyn?
Beth yw’r golled ariannol a’r risg i iechyd y cyhoedd?