Archwiliadau
Rhan o'n swydd ni yw gwerthuso pa mor effeithiol yw'r system rheolaethau swyddogol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I wneud hyn, rydym ni'n cynllunio ac yn cynnal rhaglenni archwilio ym mhob gwlad.
Mae'r rheolaethau swyddogol a archwilir yn cwmpasu ystod amrywiol o weithgareddau o gynhyrchu cynradd ar ffermydd, wyau, llaeth, lladd-dai, ffatrïoedd torri, bwyd anifeiliaid, pysgod cregyn a chynhyrchion pysgodfeydd, yn ogystal â'r sector manwerthu fel archfarchnadoedd, cigyddion, bwytai.
Caiff y system rheolaethau swyddogol ei gweithredu gan swyddogion gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid mewn awdurdodau cymwys gan gynnwys awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd porthladdoedd, yr ASB ei hun, naill ai'n uniongyrchol neu drwy gontractau neu gytundebau lefel gwasanaeth gyda sefydliadau eraill fel yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddiadau Archwilio
Rydym ni wedi cynnal nifer o archwiliadau â ffocws sy'n edrych ar agweddau penodol o waith gorfodi awdurdodau lleol.
Dogfennau Archwilio
Wales
Northern Ireland
I gael rhagor o wybodaeth am archwiliadau awdurdodau lleol, bydd angen i chi fewngofnodi i lwyfan Hwyluso Cyfathrebu'r Asiantaeth Safonau Bwyd.
Hanes diwygio
Published: 18 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Chwefror 2023