Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023

Asesiad Sicrwydd Cynllun Adfer yr Awdurdodau Lleol: Y prif ganfyddiadau

Mae'r adran hon yn cyflwyno prif ganfyddiadau adroddiad cryno'r Asesiad Sicrwydd Cynllun Adfer yr Awdurdodau Lleol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 February 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 February 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2022, cynhaliodd timau archwilio awdurdodau lleol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) raglen o asesiadau i asesu perfformiad awdurdodau lleol ar sail gofynion Cynllun Adfer COVID-19 (y Cynllun Adfer). Dewiswyd grŵp cynrychioliadol o 11 awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon i gynnal gwiriadau sicrwydd ynddynt, a hynny o bell ac yn y fan a’r lle.

Isod, rhestrir prif ganfyddiadau’r asesiadau sicrwydd a gynhaliwyd yn yr awdurdodau lleol a gymerodd ran:

  • roedd pob awdurdod a aseswyd mewn sefyllfa wahanol pan fu iddo ddechrau gweithredu’r Cynllun Adfer, a hynny o ran yr effaith yr oedd COVID-19 wedi’i chael ar ei wasanaethau, yr heriau yr oedd wedi’u hwynebu yn ystod y cyfnod adfer, a’r adnoddau a oedd ar gael iddo 
  • bu modd i’r awdurdodau lleol yn Lloegr elwa ar y cyllid COVID-19 ychwanegol a ddarparwyd gan y llywodraeth ganolog, a thrwy hynny, bu modd iddynt gadw staff rheng flaen a chyflogi contractwyr ychwanegol  
  • cafodd dwy ffactor effaith fawr ar awdurdodau lleol yng Nghymru, sef y ffaith bod aelodau staff allweddol wedi’u secondio i ymateb i COVID-19 a’r ffaith bod cyfyngiadau COVID-19 ar waith am yn hirach nag mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig 
  • adeg yr asesiad, roedd cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon wedi rhoi’r canllawiau ar waith yn llwyr, wedi bodloni cerrig milltir y Cynllun Adfer, ac wedi mynd tu hwnt iddynt 
  • yn ystod y pandemig, cafwyd rhai enghreifftiau rhagorol o awdurdodau lleol yn cydweithio â thimau eraill y cyngor a thimau iechyd y cyhoedd allanol, asiantaethau gorfodi a’r gwasanaethau brys. Drwy wneud hyn, bu modd iddynt rannu gwybodaeth am fusnesau bwyd lleol, a’i defnyddio i gynllunio ymyriadau 
  • bu modd i’r awdurdodau lleol ddangos eu bod wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu Cam 1 y Cynllun Adfer, gan roi blaenoriaeth i gynnal arolygiadau cyntaf busnesau bwyd newydd a chynllunio eu rhaglenni ymyrraeth ar sail risg 
  • roedd mwyafrif yr awdurdodau lleol yn gallu dangos eu bod wedi gwneud cynnydd da tuag at fodloni cerrig milltir Cam 2 
  • roedd y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau ar sail risg, gan ddefnyddio eu Systemau Gwybodaeth Reoli i’w helpu i roi’r Cynllun Adfer ar waith 
  • bu i’r awdurdodau lleol sicrhau bod y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn parhau i gael ei roi ar waith yn y tair gwlad 
  • ar y cyfan, cafodd y Cynllun ei groesawu a’i ddeall gan awdurdodau lleol ar draws y tair gwlad. Awgrymodd yr awdurdodau lleol rai ffyrdd o wella’r Cynllun Adfer, ac rydym wedi rhannu’r awgrymiadau hyn â thimau polisi yn yr ASB 
  • nodwyd rhai meysydd i’w gwella, gan gynnwys canolbwyntio mwy yn yr awdurdodau lleol ar ailgyflwyno gwaith monitro mewnol ar sail risg i sicrhau bod y rheolaethau swyddogol yn cael eu rhoi ar waith mewn ffordd gyson ac effeithiol, ac ailgyflwyno rhaglenni samplu bwyd priodol