Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023

Rheoli effaith pandemig COVID-19 ar dimau bwyd yr awdurdodau lleol

Mae'r adran hon yn trafod effaith pandemig COVID-19 ar dimau bwyd awdurdodau lleol.

2.1   Yn yr awdurdodau lleol a aseswyd, canfuwyd bod pandemig COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar y rhan fwyaf o dimau bwyd awdurdodau lleol, a bu’n rhaid i lawer ohonynt gadw’r ddysgl yn wastad rhwng cyflawni cyfrifoldebau newydd COVID-19 a chyflawni’u rheolaethau bwyd swyddogol.

2.2     Pennwyd yr hyn a ganlyn:  

  • o ddechrau’r pandemig ym mis Mawrth 2020, bu i’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Lloegr (5/7) symud swyddogion bwyd cymwysedig i ymgysylltu, hybu ac gorfodi rheoliadau COVID-19 newydd ac i ymdrin ag achosion lleol
  • yng Nghymru, bu i’r awdurdodau lleol symud swyddogion bwyd cymwysedig profiadol i ymgymryd â gwaith COVID-19, gan gynnwys secondio staff i’r drefn “Profi, Olrhain, Diogelu”. Parhaodd cyfyngiadau COVID-19 hefyd am yn hirach yng Nghymru na gweddill y Deyrnas Unedig, gyda’r cyfyngiadau olaf yn dod i ben ar 30 Mai 2022. Bu i hyn effeithio ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau
  • er bod y pandemig wedi effeithio’n sylweddol ar gynghorau dosbarth Gogledd Iwerddon, nid effeithiodd colli staff allweddol arnyn nhw i’r un graddau ag awdurdodau lleol yn y gwledydd eraill, er bod un swyddog yn un cyngor dosbarth wedi’i symud i ymgymryd â gwaith COVID-19 rhwng mis Mawrth 2021 a mis Ebrill 2022. Darparodd y cynghorau dosbarth dystiolaeth fanwl o waith cynllunio i reoli effaith y pandemig 
  • i gefnogi’r ymateb i COVID-19, roedd awdurdodau lleol Lloegr yn gallu cael mynediad at arian o Gronfa Reoli i Gyfyngu ar Achosion (COMF) y llywodraeth ganolog i gael adnoddau ychwanegol. Fe’i defnyddiwyd i gyflogi staff dros dro a swyddogion COVID-19. Cafodd awdurdodau lleol yng Nghymru hefyd arian drwy strategaeth COVID-19 Llywodraeth Cymru, sef Profi, Olrhain, Diogelu 
  • llwyddodd pob awdurdod lleol i reoli pwysau’r pandemig mewn ffordd gadarnhaol, a hynny’n bennaf oherwydd bod ganddynt dimau sefydledig a phrofiadol. Sicrhaodd yr awdurdodau lleol fod digon o swyddogion ar gael i ymdrin â materion diogelwch bwyd ymatebol a bod y sianeli cyfathrebu â’r cyhoedd yn parhau i fod ar agor
  • dywedodd awdurdodau lleol ym mhob un o’r tair gwlad fod eu perthynas â phartneriaid mewnol ac allanol wedi cryfhau, ac roeddent yn teimlo bod proffil timau Iechyd yr Amgylchedd a thimau Safonau Masnach wedi codi’n lleol oherwydd y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig
  • drwy gydol y pandemig, daliodd yr awdurdodau lleol ati i ddefnyddio eu Systemau Gwybodaeth Reoli, ac fe’u defnyddiwyd hefyd fel rhan o'r broses o gynllunio ymyriadau. Mae Systemau Gwybodaeth Reoli’r awdurdodau lleol yn cynnwys manylion yr holl fusnesau bwyd cofrestredig yn ardal pob awdurdod, ynghyd â’u hanes arolygu a gorfodi. Maent hefyd yn pennu dyddiadau’r arolygiadau nesaf
  • parhaodd yr awdurdodau lleol i roi sgoriau risg i fusnesau bwyd yn unol â’r Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd, a hynny ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd