Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023

Sylwadau i’r awdurdodau lleol

Dyma nodi'r sylwadau a wnaed i'r awdurdodau lleol mewn perthynas â gwahanol meysydd.

5.1      Yn ystod y broses asesu, gwnaed sylwadau i rai awdurdodau lleol yn y meysydd a ganlyn:  

  • Cynlluniau gwasanaeth – atgoffwyd yr awdurdodau lleol hynny lle cafwyd oedi o ran paratoi cynlluniau gwasanaeth ei bod yn bwysig iddynt ddogfennu eu cynlluniau gwasanaeth a’u cymeradwyo’n briodol i helpu i sicrhau bod gan dimau bwyd ddigon o adnoddau i gyflawni eu gwaith yn unol â’r Cynllun Adfer. Mae’n bwysig bod cynlluniau’n cynnwys manylion yr adnoddau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol, gan gynnwys yr adnoddau sydd eu hangen i roi trefn fonitro fewnol addas ar waith ar sail risg
  • Monitro mewnol – cynghorwyd rhai awdurdodau lleol i adolygu eu gweithdrefnau monitro mewnol wedi’u dogfennu ac i ailgyflwyno gweithgareddau monitro mewnol priodol ar sail risg
  • Samplu bwyd – mewn rhai awdurdodau lleol lle’r oedd rhaglenni samplu bwyd rhagweithiol wedi’u hatal dros dro, cynghorwyd yr awdurdodau lleol i’w hadolygu a’u hailgyflwyno cyn gynted â phosibl 
  • Polisïau/gweithdrefnau wedi’u dogfennu – cynghorwyd rhai awdurdodau lleol i adolygu ac i ddiweddaru polisïau a gweithdrefnau i wneud yn siŵr eu bod yn cynnwys cyfeiriadau cyfreithiol ac arferion gwaith cyfredol, gan gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed yn sgil effaith y pandemig. Mae hyn yn bwysig i roi arweiniad i swyddogion bwyd er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau'n briodol ac yn effeithiol