Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023

Asesiad Sicrwydd Cynllun Adfer yr Awdurdodau Lleol: Casgliadau

Mae'r adran hon yn amlinellu'r casgliadau yn sgil cwblhau asesiadau'r Cynllun Adfer.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 February 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 February 2023

4.1       Ar ôl cwblhau asesiadau’r Cynllun Adfer yn yr 11 awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, pennwyd yr hyn a ganlyn: 

  • ar y cyfan, roedd yr awdurdodau lleol wedi croesawu’r Cynllun Adfer, ac roedd wedi’u galluogi i fabwysiadu dull seiliedig ar risg ac i dargedu eu hadnoddau at eu hymyriadau risg uchaf 
  • mae’r awdurdodau lleol wedi parhau i roi’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ar waith 
  • bu modd i fwyafrif yr awdurdodau lleol ar draws y tair gwlad fodloni cerrig milltir y Cynllun Adfer, neu fynd tu hwnt iddynt, gan helpu i gynnal hyder defnyddwyr ac i ddiogelu buddiannau ehangach defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch bwyd. Mae’r gwaith hwn yn diogelu defnyddwyr drwy sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, gan gyfrannu at strategaeth yr ASB ar gyfer 2022 i 2027 
  • pan fo awdurdod lleol wedi’i chael yn anodd cyrraedd carreg filltir, mae wedi cael mwy o gyngor a chymorth  
  • pan fo awdurdodau lleol wedi gofyn cwestiynau a gwneud ymholiadau, byddant yn cael eu bwydo'n ôl i dimau polisi perthnasol yr ASB