Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023

Cynnydd o ran cerrig milltir y Cynllun Adfer

Mae'r adran hon yn disgrifio cynnydd awdurdodau lleol o ran cyflawni cerrig milltir y Cynllun Adfer.

3.1   Rhoi ymyriadau ar waith

3.1.1    O ran y garreg filltir gyntaf yng Ngham 1, roedd pob awdurdod lleol a gymerodd ran yn yr asesiadau yn gallu dangos ei fod wedi blaenoriaethu ymyriadau ar sail risg mewn busnesau bwyd newydd a’i fod wedi dechrau cynllunio rhaglenni ymyrraeth ar gyfer Cam 2 y Cynllun Adfer o 1 Hydref 2021 ymlaen. 

3.1.2    Yn Lloegr, roedd 57% o’r awdurdodau lleol a aseswyd wedi defnyddio’r arian a ddarparwyd gan yr ASB i flaenoriaethu busnesau newydd i’w helpu â’r ymyriadau hyn, tra bu i’r awdurdodau lleol yng Nghymru a’r cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon ddefnyddio’r adnoddau a oedd ganddynt eisoes i wneud hyn. 

3.1.3    O ran Cam 2 y Cynllun Adfer, bu modd i 82% (9/11) o'r awdurdodau lleol a gymerodd ran yn yr asesiadau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fodloni'r holl gerrig milltir o ran ymyriadau a oedd i fod i gael eu bodloni erbyn y cyfod asesu. Yn benodol:

  • roedd 100% o’r awdurdodau lleol wedi cwblhau’r holl ymyriadau a oedd i fod i gael eu cynnal mewn busnesau bwyd categori A o ran hylendid bwyd erbyn mis Mawrth 2022 
  • roedd 82% o’r awdurdodau lleol wedi cwblhau’r holl ymyriadau a oedd i fod i gael eu cynnal mewn busnesau categori B o ran hylendid bwyd erbyn mis Mehefin 2022 
  • roedd 80% o’r awdurdodau lleol wedi cwblhau’r holl ymyriadau a oedd i fod i gael eu cynnal mewn busnesau bwyd categori A o ran safonau bwyd erbyn mis Mehefin 2022

3.1.4    Dywedodd un awdurdod lleol a oedd wedi methu â bodloni’r cerrig milltir mai problemau adnoddau oedd y prif reswm dros hyn, gan nad oedd rhai aelodau staff allweddol wedi dychwelyd i'r gwasanaeth oherwydd effaith ton ddiweddarach amrywiolyn Omicron yn ogystal â materion ehangach o ran recriwtio staff a swyddi gwag. Mae’r ASB wedi cyfarfod â'r awdurdod lleol hwnnw i roi sylw i’r materion hyn ac i roi cyngor/cymorth iddo.

3.1.5    Parhaodd y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd i weithredu'n effeithiol, gyda busnesau bwyd yn cael sgoriau ar sail canfyddiadau swyddogion, a Gweithredwyr Busnesau Bwyd yn cael gwybod am y canfyddiadau ar ôl i’r ymyriadau gael eu cynnal.

3.1.6    Yn gyffredinol, aeth yr awdurdodau lleol ati ar sail risg i gyflawni rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd yr effeithiwyd arnynt gan y gofynion newydd i labelu alergenau mewn cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen i’w gwerthu’n uniongyrchol. Gofynnodd rhai awdurdodau lleol am eglurhad pellach o ddisgwyliadau’r ASB o ran y cynhyrchion hynny, a bydd y timau polisi perthnasol yn cael gwybod am y pwynt hwn. 

3.2    Meysydd lle gwnaed cynnydd cyflymach 

3.2.1    Roedd y Cynllun Adfer yn annog yr awdurdodau lleol, lle’r oedd modd, i fynd ati’n gyflymach i gyflawni cerrig milltir y Cynllun Adfer (Ffigur 1) a, lle’r oedd modd, i addasu eu gwasanaethau yn unol â’r bylchau rhwng ymyriadau a’r darpariaethau eraill a nodir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. 

3.2.2    O blith yr awdurdodau lleol a aseswyd, bu modd i 82% (9/11) fynd ati’n gyflymach i gyflawni cerrig milltir pellach yng Ngham 2. Mewn achosion lle nad oedd modd i’r awdurdodau lleol weithredu’n gyflymach, priodolwyd hynny’n bennaf i brinder adnoddau oherwydd bod swyddi’n parhau i fod yn wag a bod swyddogion wedi’u secondio i ymgymryd â dyletswyddau COVID-19.  

3.2.3    Llwyddodd llawer o’r awdurdodau lleol yn Lloegr i fwrw ymlaen â’r Cynllun Adfer yn gyflymach oherwydd eu bod yn gallu defnyddio arian cromfa COMF i ôl-lenwi swyddi ac i gyflogi staff ychwanegol i ddiogelu swyddogion bwyd rheng flaen. 

3.3    Disgwyliadau parhaus: rheolaethau sector-benodol a gweithgareddau eraill o ran y rheolaethau swyddogol

3.3.1    Drwy gydol Cam 1 a Cham 2 y Cynllun Adfer, roedd disgwyl i’r awdurdodau lleol gyflawni gweithgareddau ychwanegol fel y nodir yn 1.9 uchod. 

Rheolaethau sector-benodol

3.3.2    Lle’r oedd yn berthnasol, bu modd i bob awdurdod lleol a aseswyd gyflawni rheolaethau swyddogol a bennwyd mewn deddfwriaeth benodol a/neu a argymhellwyd gan ganllawiau'r ASB i gefnogi masnach ac i alluogi allforio, er enghraifft, gweithgareddau cymeradwyo o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 a ddargedwir, a rheolaethau swyddogol o ran samplu pysgod cregyn a dŵr. 

Gwaith ymatebol – gorfodi yn sgil diffyg cydymffurfio

3.3.3    Bu modd i bob awdurdod lleol a aseswyd reoli ei waith ymatebol ar sail blaenoriaeth risg a pharhau i gymryd camau gorfodi lle’r oedd angen. Yn ystod yr asesiadau, nodwyd sawl enghraifft lle cafodd camau gorfodi ffurfiol effeithiol a phriodol eu cymryd, gan arwain at wella cydymffurfiaeth busnesau ac at ddiogelu defnyddwyr yn well.

Gwaith ymatebol – rheoli digwyddiadau bwyd, peryglon bwyd a chwynion

3.3.4    Canfuwyd bod yr awdurdodau lleol wedi rheoli digwyddiadau bwyd, peryglon bwyd a chwynion, ac ymateb iddynt, ar sail risg, gan ymdrin yn briodol ag unrhyw faterion risg uwch a ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfnod adfer.

Samplu bwyd  

3.3.5    Cyn y pandemig, roedd y defnydd o samplu fel rheolaeth swyddogol, a chwmpas a chynnwys unrhyw raglenni samplu blynyddol, yn amrywio o awdurdod lleol i awdurdod lleol oherwydd amgylchiadau lleol a'r galwadau ar wasanaethau. O’r herwydd, nid oedd rhai awdurdodau lleol yn cymryd fawr ddim samplau rhagweithiol, neu ddim o gwbl. Yn ystod y pandemig ac ar adeg yr asesiadau, roedd yr awdurdodau lleol yn dal i allu cynnal gweithgareddau samplu bwyd ymatebol yn sgil ceisiadau am wasanaeth ac yn sgil ymchwiliadau eraill, fel cwynion am fusnesau bwyd a digwyddiadau yr oedd angen ymdrin â nhw. 

3.3.6    Cyflawnodd 64% o’r awdurdodau lleol hefyd rai gweithgareddau samplu bwyd rhagweithiol yn unol â’u rhaglenni samplu neu fel rhan o’r broses o asesu cydymffurfiaeth busnesau bwyd. Dywedodd yr awdurdodau lleol nad oeddent wedi cynnal gweithgareddau samplu fel mater o drefn fod problemau adnoddau wedi cyfrannu at hyn. Roedd rhai awdurdodau lleol hefyd wedi atal eu rhaglenni samplu fel mater o drefn dros dro ac wedi blaenoriaethu eu hadnoddau i gynnal ymyriadau eraill risg uwch. Roedd rhai awdurdodau lleol yn teimlo y gallai canllawiau'r ASB fod wedi bod yn gliriach yn y maes hwn, a dywedwyd bod capasiti labordai bwyd hefyd yn broblem. Cafodd yr adborth hwn ei rannu â thimau polisi perthnasol yr ASB.  

Gwaith rhagweithiol parhaus i gadw gwyliadwraeth

3.3.7    Roedd mwyafrif yr awdurdodau lleol yn gallu dangos eu bod yn defnyddio ystod eang o weithgareddau rhagweithiol i gadw gwyliadwraeth yn ystod y Cyfnod Adfer i gael darlun cywir o sefyllfa busnesau lleol. Ymhlith enghreifftiau o'r gweithgareddau hyn roedd y canlynol:

  • rhannu gwybodaeth ag adrannau eraill a sefydliadau sy’n bartneriaid er enghraifft, trwyddedu, yr heddlu, awdurdodau lleol eraill 
  • monitro sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod am fusnesau bwyd newydd
  • defnyddio strategaethau gorfodi amgen i nodi busnesau sydd wedi cau/busnesau newydd
  • brysbennu cwynion a chofrestriadau busnesau bwyd newydd

3.4    Pwyntiau eraill

Ymhlith y meysydd pwysig eraill a drafodwyd yn ystod yr asesiadau roedd:  

Monitro mewnol

3.4.1  Yn ystod yr asesiadau, cafodd trefniadau monitro mewnol yr awdurdodau lleol eu hystyried hefyd. Mae monitro mewnol yn hanfodol i sicrhau bod rheolaethau bwyd swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn cael eu cynnal yn gyson ac yn unol â'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. Canfuwyd bod 36% o’r awdurdodau lleol (4/11) yn rhoi eu gweithdrefnau monitro mewnol ar waith yn llwyr, gyda'r rhan fwyaf o’r 64% (7/11) sy'n weddill yn eu rhoi ar waith yn rhannol. 

Cynlluniau gwasanaeth

3.4.2    Mae cynlluniau gwasanaeth priodol sy'n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol yn hollbwysig i’r broses o ddarparu gwasanaethau. Maent yn caniatáu i’r awdurdodau lleol ddangos y galwadau ar wasanaethau, sut y caiff adnoddau eu dyrannu, a sut y caiff gwaith ei flaenoriaethu drwy gydol y flwyddyn. Maent hefyd yn ddull effeithiol o dynnu sylw rhanddeiliaid allweddol a rheolwyr adnoddau o fewn y cyngor at unrhyw broblemau neu risgiau sy'n dod i'r amlwg o ran darparu gwasanaethau.

3.4.3    Cafodd y disgwyliadau ar awdurdodau lleol i baratoi cynlluniau gwasanaeth wedi’u dogfennu a’u cymeradwyo yn ystod y cyfnod adfer eu diweddaru ym mis Mawrth 2022. Roedd y Cynllun Adfer yn cynghori’r awdurdodau lleol i ddechrau gweithio tuag at gael cynllun gwasanaeth cymeradwy ar gyfer 2022/23 ar waith erbyn diwedd mis Mehefin 2022. Ar adeg yr asesiadau, canfuwyd bod gan 54% o’r awdurdodau lleol gynlluniau gwasanaeth cyfredol a phriodol. Roedd yr awdurdodau lleol eraill wrthi’n llunio eu cynlluniau gwasanaeth, ac roedd oedi mewn rhai achosion oherwydd etholiadau lleol ac amserlenni pwyllgorau. 

Cynnal ymyriadau o bell

3.4.4   Roedd 64% o’r awdurdodau lleol wedi ceisio cynnal ymyriadau o bell fel y’u disgrifiwyd yng Nghanllawiau’r Cynllun Adfer i’r awdurdodau lleol. Dim ond i asesu gweithgareddau busnes cyn cynnal ymyriadau ar y safle yr oedd modd i’r awdurdodau lleol ddefnyddio ymyriadau o bell, a hynny i gefnogi’r broses o gynnal arolygiadau ar y safle a oedd yn dal i fod yn ofynnol er mwyn iddynt gael eu hystyried yn rheolaethau swyddogol. Roedd yr awdurdodau lleol a ddywedodd eu bod yn defnyddio ymyriadau o bell yn eu defnyddio mewn nifer o wahanol ffyrdd. Lle’r oedd ymyriadau o bell yn cael eu defnyddio, roedd yr awdurdodau lleol wedi mabwysiadu dull seiliedig ar risg, dim ond mewn busnesau bwyd sefydledig, risg isel a oedd yn cydymffurfio i raddau helaeth, neu i gadarnhau bod camau unioni wedi’u cwblhau, yr oeddent yn cynnal ymyriadau o’r fath. 

3.4.5  Dywedodd yr awdurdodau lleol nad oedd ymyriadau o bell o reidrwydd yn gwella effeithlonrwydd y gwaith o gyflawni arolygiadau ar y safle. Ar y cyfan, roedd yn well gan y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol barhau i gynnal ymyriadau ar y safle heb gynnwys unrhyw gamau ychwanegol yn y broses.

Swyddogion awdurdodedig 

3.4.6  Canfuwyd bod yr awdurdodau lleol yn defnyddio swyddogion bwyd awdurdodedig i gynnal ymyriadau yn unol â'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau dynodedig. Roedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn gallu dangos bod y cofnodion hyfforddiant a chymhwysedd swyddogion a wiriwyd yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd, er bod angen diweddaru rhai polisïau a gweithdrefnau i gynnwys y cyfeiriadau cyfreithiol diweddaraf.   

3.5    Enghreifftiau cadarnhaol o’r modd y bu i’r awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau yn ystod y pandemig a’r cyfnod adfer 

  • yn ystod y pandemig roedd y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol eisoes yn darparu gwasanaethau ar sail risg, felly roeddent mewn sefyllfa dda i roi’r Cynllun Adfer ar waith pan gafodd ei gyflwyno
  • dangosodd yr awdurdodau lleol arweinyddiaeth gref, hyblyg a phragmatig drwy gydol cyfnod y Cynllun Adfer. Cynorthwyodd ymroddiad Rheolwyr y Gwasanaethau Bwyd a'u swyddogion bwyd i sicrhau bod y Cynllun Adfer yn cael ei roi ar waith
  • dangosodd yr awdurdodau lleol eu bod yn cyd-drafod yn helaeth ac yn effeithiol ag adrannau eraill y cyngor i helpu i fonitro materion diogelwch bwyd mewn busnesau lleol
  • cyflwynodd yr awdurdodau lleol amrywiaeth o systemau brysbennu effeithiol i’w helpu i flaenoriaethu cwynion a busnesau bwyd newydd 
  • drwy gydol y pandemig, cyflwynodd yr awdurdodau lleol weithdrefnau COVID-19 effeithiol i sicrhau bod modd cynnal ymyriadau ac ymweliadau safle yn ddiogel
  • yn ystod y pandemig a chyn cyflwyno’r Cynllun Adfer, roedd llawer o’r awdurdodau lleol wedi cysylltu’n rheolaidd â’u busnesau bwyd lleol, ac roedd hyn wedi helpu i wella cywirdeb eu cronfeydd data