Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023

Adborth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd

Dyma grynhoi'r adborth a roddwyd i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gan awdurdodau lleol.

6.1    Roedd mwyafrif yr awdurdodau lleol yn tybio bod y Cynllun Adfer yn hawdd ei ddeall ac yn rhoi canllawiau clir o ran yr hyn yr oedd disgwyl iddynt ei wneud yn ystod y cyfnod adfer. Canfu’r awdurdodau lleol hefyd fod y ddogfen Cwestiynau ac Atebion gysylltiedig yn adnodd defnyddiol a oedd yn ateb llawer o’u cwestiynau. 

6.2    Roedd yr awdurdodau lleol yn teimlo bod y Cynllun Adfer yn caniatáu iddynt adeiladu ar y dull seiliedig ar risg a ddefnyddiwyd ganddynt i gyflawni rheolaethau bwyd swyddogol yn ystod dyddiau cynnar y pandemig. Roeddent hefyd yn teimlo bod cerrig milltir a disgwyliadau'r Cynllun Adfer yn rhesymol ac yn gyraeddadwy. Gwnaeth yr awdurdodau lleol yr awgrymiadau a ganlyn i wella’r Cynllun Adfer: 

  • byddai’n fuddiol defnyddio mwy o gyfeiriadau darluniadol
  • gofynnodd rhai awdurdodau lleol am gysylltiad mwy uniongyrchol rhyngddynt a’r ASB i drafod materion yn ymwneud â bwyd
  • gofynnwyd am fwy o eglurder o ran disgwyliadau’r ASB ar gyfer ymyriadau o bell
  • roedd rhai awdurdodau lleol yn tybio y dylai cerrig milltir y Cynllun Adfer fod wedi bod yn fwy hyblyg yng ngoleuni amrywiolyn diweddarach Omicron, gan fod rhai awdurdodau lleol wedi gorfod symud staff allweddol o’u swyddi am yn hirach na’r disgwyl. Byddai newidiadau i’r cerrig milltir wedi helpu
  • gofynnwyd am fwy o eglurder o ran y gofynion samplu bwyd, er enghraifft, faint o samplu a pha fath (boed yn rhagweithiol a/neu’n ymatebol) oedd yn ofynnol
  • roedd rhai awdurdodau lleol yn teimlo y gallai gofynion y Cynllun Adfer fod wedi bod yn gliriach, oherwydd nid oedd yr holl ofynion wedi’u cynnwys yn y ‘Braslun o'r Cynllun Adfer' yn ffigur 1
  • gofynnwyd am eglurder o ran a oes angen cynnwys busnesau bwyd newydd risg isel yn y rhaglen ymyriadau yng Ngham 2
  • gofynnwyd am eglurhad pellach o’r ymyriadau sy’n ofynnol mewn busnesau bwyd y mae’r gofynion newydd o ran labelu alergenau mewn cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw i'w gwerthu'n uniongyrchol yn effeithio arnynt