Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Local Authority Recovery Plan Assurance Assessment: Summary Report (England, Wales and Northern Ireland) February 2023

Asesiad Sicrwydd Cynllun Adfer yr Awdurdodau Lleol: Cyflwyniad

Mae'r adran hon yn disgrifio Cynllun Adfer Awdurdodau Lleol yn sgil COVID-19 a'r cyngor a roddwyd i awdurdodau lleol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 6 February 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 February 2023

1.1    Ym mis Mehefin 2021, rhoddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) Gynllun Adfer yr Awdurdodau Lleol yn sgil COVID-19: canllawiau a chyngor i awdurdodau lleol (y Cynllun Adfer) i awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd y Cynllun Adfer a'r Cwestiynau ac Atebion cysylltiedig yn amlinellu canllawiau a chyngor yr ASB i’r awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd yn ystod y pandemig. 

1.2    Bydd y Cynllun Adfer ar waith ym mhob un o’r tair gwlad tan ddiwedd mis Mawrth 2023. Bryd hynny, caiff penderfyniadau eu gwneud o ran y modelau gweithredu newydd arfaethedig ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd. 
  
1.3    I roi sicrwydd bod yr awdurdodau lleol yn cyflawni cerrig milltir y Cynllun Adfer, cyflawnodd yr ASB raglen o asesiadau cychwynnol rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2022. Roedd y rhaglen yn cynnwys asesiadau mewn 11 awdurdod lleol (saith yn Lloegr, dau yng Nghymru a dau yng Ngogledd Iwerddon). Ceir rhestr o'r awdurdodau lleol a gymerodd ran yn adran naw o'r adroddiad. Fe'u dewiswyd i sicrhau cynrychiolaeth ar draws gwahanol leoliadau daearyddol a gwahanol gyfrifoldebau o ran darparu gwasanaethau a chan ystyried gwybodaeth berthnasol a ddarparwyd drwy arolygon a gynhaliwyd ymhlith awdurdodau lleol. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau a chanlyniadau'r 11 asesiad. 

1.4    Dangosir camau a cherrig milltir allweddol y Cynllun Adfer yn Ffigur 1 isod: 

Ffigur 1: Darlun o gerrig milltir allweddol Cynllun Adfer yr ASB

Ffigur 1: Darlun o gerrig milltir allweddol Cynllun Adfer yr ASB

1.5    Mae’r Cynllun Adfer yn cynnwys dau gam:

  • Cam 1 – 1 Gorffennaf tan 30 Medi 2021
  • Cam 2 – 1 Hydref 2021 tan fis Mawrth 2023

1.6    Yng Ngham 1, roedd hi’n ofynnol i’r awdurdodau lleol fynd ati i flaenoriaethu ymyriadau mewn busnesau newydd a dechrau cynllunio rhaglen addas o ymyriadau ar gyfer dechrau Cam 2.

1.7    Roedd Cam 2 yn pennu pum carreg filltir i’r awdurdodau lleol o ran cynnal ymyriadau ar safleoedd busnesau bwyd. Roedd carreg filltir gyntaf Cam 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdodau lleol gwblhau ymyriad ar safle pob busnes â sgôr risg categori A ar gyfer hylendid bwyd erbyn diwedd mis Mawrth 2022. Roedd yr ail garreg filltir yn ei gwneud yn  ofynnol i’r awdurdodau lleol gwblhau ymyriadau ar safle pob busnes â sgôr risg categori B ar gyfer hylendid bwyd a phob busnes â sgôr risg categori A ar gyfer safonau bwyd erbyn diwedd mis Mehefin 2022. Mae cerrig milltir tri i bump yn nodi’r gofynion o ran cynnal ymyriadau’r awdurdodau lleol ar safleoedd busnesau bwyd yn y dyfodol, yn enwedig o ran busnesau mewn categorïau risg is ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd. 

1.8    O ran safonau bwyd, yn ystod Cam 2, roedd hefyd angen i’r awdurdodau lleol flaenoriaethu ymyriadau ar safleoedd categori B ac C a ystyrir yn flaenoriaeth ar gyfer ymyriadau oherwydd effaith y gofynion newydd o ran labelu alergenau mewn cynhyrchion wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w gwerthu’n uniongyrchol ar y busnesau hynny. 

1.9    Drwy gydol Cam 1 a Cham 2, roedd disgwyl i’r awdurdodau lleol hefyd gyflawni’r pethau a ganlyn: 

  • rheolaethau swyddogol y mae eu natur a’u hamlder wedi eu pennu mewn deddfwriaeth benodol, a rheolaethau swyddogol a argymhellir gan ganllawiau’r ASB i gefnogi masnach ac i alluogi allforio 
  • gwaith ymatebol, gan gynnwys gorfodi yn achos diffyg cydymffurfio, rheoli digwyddiadau bwyd a pheryglon bwyd, ac ymchwilio i gwynion a’u rheoli 
  • samplu yn unol â rhaglen samplu’r awdurdod lleol neu fel sy’n ofynnol yng nghyd-destun asesu cydymffurfiaeth busnesau bwyd, ac unrhyw gamau dilynol sy’n angenrheidiol mewn perthynas â Rhaglen Samplu Gwyliadwraeth yr ASB 
  • cadw gwyliadwraeth ragweithiol barhaus i gael darlun cywir o’r sefyllfa o ran busnesau lleol ac i ganfod busnesau sydd ar agor/wedi cau/wedi eu hailagor yn ddiweddar/busnesau newydd, yn ogystal â busnesau lle mae gweithrediadau, gweithgareddau neu weithredwr y busnes bwyd wedi newid
  • o ran ‘busnesau newydd’, ystyried gwybodaeth gofrestru a gwybodaeth am sefyllfa busnesau bwyd, gan gynnal ymyriadau priodol ar y safle lle bo pryderon o ran iechyd y cyhoedd/diogelu defnyddwyr
  • o ran ‘busnesau newydd’ lle mae gwybodaeth gofrestru a gwybodaeth am fusnesau’n dangos risg isel, dylid blaenoriaethu a chynnal ymweliadau cychwynnol yn unol â’r Codau Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer, gan ystyried yr hyblygrwydd a ddarperir yn y dogfennau hynny 
  • gweithredu rhaglenni o ymyriadau wedi’u cynllunio ar gyfer sefydliadau risg uchel a sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio yn unol â’r amserlen yn ffigur 1 
  • gweithredu dull sy’n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer sefydliadau mewn categorïau risg is 
  • ymateb i geisiadau i gael ailymweliadau o dan y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn unol â’r amserlenni a bennir yn Safon Brand y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn Lloegr neu’r canllawiau statudol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon

1.10    Amcanion y rhaglen asesu oedd: 

  • cael sicrwydd bod awdurdodau lleol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi rhoi canllawiau’r Cynllun Adfer ar waith ac wedi cyflawni rheolaethau swyddogol yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau statudol
  • nodi unrhyw feysydd lle cafwyd enghreifftiau o arloesi neu o arferion da
  • pennu sut roedd yr awdurdodau lleol wedi dehongli'r Cynllun Adfer a chasglu adborth 
  • tynnu sylw at unrhyw faterion neu bryderon sy’n dod i’r amlwg i osod sail ar gyfer unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau i’r Cynllun Adfer yn y dyfodol

1.11    I leihau’r effaith ar yr awdurdodau lleol, cynhaliwyd yr asesiadau drwy ofyn iddynt gyflwyno gwybodaeth am eu gweithgareddau rheoli bwyd swyddogol yn ystod y cyfnod adfer drwy holiadur cyn-asesu. Cafodd y data hwn ei ddadansoddi gan y timau asesu yn y tair gwlad, cyn iddynt fynd ati i drefnu i gyfweld ag uwch-reolwyr a swyddogion arweiniol yr awdurdodau lleol. Yn ystod yr asesiadau, cafodd sampl bach o gofnodion eu hadolygu a’u hasesu hefyd i wirio'r wybodaeth a ddarparwyd.  

1.12    Cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r cyfweliadau hyn o bell ac rydym wedi cael adborth cadarnhaol gan yr awdurdodau lleol am y broses asesu a'r cyfle a roddodd iddynt ofyn cwestiynau am y Cynllun Adfer.