Argymhelliad yr ASB yn sgil yr asesiad o amodau byw rheoledig Canada ar gyfer Trichinella
Argymhelliad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar y rheolaethau y mae Asiantaeth Arolygu Bwyd Canada yn eu rhoi ar waith mewn perthynas â chydnabod amodau byw rheoledig ar gyfer Trichinella.
Cefndir
Ym mis Mai 2024, gofynnodd Swyddfa Sicrwydd Masnach Iechydol a Ffytoiechydol Defra (Swyddfa’r DU) i’r ASB asesu a ellid cydnabod y rheolaethau sy’n cael eu rhoi ar waith gan Asiantaeth Arolygu Bwyd Canada (CFIA) mewn perthynas ag amodau byw rheoledig ar gyfer Trichinella o dan ddeddfwriaeth Prydain Fawr ar ofynion diogelwch bwyd. Ceisiodd yr ASB, ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), benderfynu a ellid ystyried bod mesurau Canada yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol a nodir yn neddfwriaeth y DU.
Roedd asesiad ar y cyd yr ASB ac FSS yn seiliedig ar yr wybodaeth a oedd yn y cais gwreiddiol gan Ganada, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan CFIA ar gais yr ASB.
Argymhelliad yr ASB, Gorffennaf 2025
Mae’r ASB ac FSS wedi dod i’r casgliad nad yw mesurau Canada mewn perthynas ag amodau bwyd rheoledig ar gyfer Trichinella yn cydymffurfio â’r gofynion cyfredol a nodir yn neddfwriaeth y DU. Fel y nodwyd yn yr asesiad, er bod y CFIA wedi rhoi sawl mesur ar waith i reoli Trichinella mewn moch, mae bylchau nodedig o ran cydymffurfiaeth fel gofynion adrodd.
Er yr argymhellir bod Canada yn gwella ei mesurau rheoli i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â gofynion rheoleiddio’r DU, ni fyddai gwelliannau o’r fath ar eu pen eu hunain yn ddigonol ar gyfer cydnabyddiaeth. Byddai unrhyw ystyriaeth yn y dyfodol o ddull Canada yn gofyn am adolygiad ffurfiol pellach gan awdurdodau’r DU i gadarnhau bod yr holl feini prawf perthnasol wedi’u bodloni’n llawn. Mae hyn yn hanfodol i ddiogelu defnyddwyr y DU a chynnal uniondeb mewnforion cig i’r DU.
Felly, mae’n rhaid i bob mochyn sydd i’w allforio i’r DU o Ganada gael ei brofi’n negatif am Trichinella, neu mae’n rhaid rhewi’r cig yn unol â’r rheoliadau perthnasol. Gallai unrhyw wyriad o’r gofynion hyn beryglu diogelwch defnyddwyr ac effeithio ar fasnach gyda phartneriaid y mae eu hamodau mewnforio yn cyd-fynd â rhai’r DU.
Hanes diwygio
Published: 28 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Hydref 2025